Ychwanegwyd: 02/11/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 2.4K Dwyieithog

Cynhadledd Dechnoleg Ar-lein 2021

Disgrifiad

Dyma Gynhadledd ar gyfer myfyrwyr 16 oed a throsodd mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion sy'n ystyried dilyn gyrfa mewn peirianneg, cyfrifiadureg, neu bwnc cysylltiedig. Bydd y Gynhadledd yn cael ei chynnal dros Zoom, drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i'r Saesneg. Pa lwybrau gyrfa y gallwch chi eu dilyn? Pa alw sydd am eich sgiliau yng Nghymru ac yn Gymraeg?

Ymunwch â'r Gynhadledd i glywed gan bobl sy'n gweithio yn y meysydd hyn. Bydd cyfle gennych i ofyn cwestiynau hefyd.

Cadeirydd:

Ann Beynon Cyn-gomisiynydd Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru a chyn-gyfarwyddwraig BT Cymru

Siaradwyr:

  • Peter Gwyn Williams - Adran Seilwaith Digidol, Llywodraeth Cymru 
  • Carwyn Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr TGCh a Busnes Digidol,  Iechyd a Gofal Digidol Cymru
  • Mark Davies, Peiriannydd Sifil, Cyfarwyddwr EDAF 
  • Siwan Owen, Rheolwr Datblygu Cyswllt, Electronic Arts 
  • Ceri Mai, Prentis Gradd Seiberddiogelwch, Cyngor Gwynedd
  • Hywel Ifans, Cyfarwyddwr BCC IT
  • Rhys Williams, Rheolwr Systemau a TG, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Gwyddorau Cyfrifiadurol, Peirianneg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Cynhadledd
mân lun y gynhadledd dechnoleg

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.