Dyma Gynhadledd ar gyfer myfyrwyr 16 oed a throsodd mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion sy'n ystyried dilyn gyrfa mewn peirianneg, cyfrifiadureg, neu bwnc cysylltiedig. Bydd y Gynhadledd yn cael ei chynnal dros Zoom, drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i'r Saesneg. Pa lwybrau gyrfa y gallwch chi eu dilyn? Pa alw sydd am eich sgiliau yng Nghymru ac yn Gymraeg? Ymunwch â'r Gynhadledd i glywed gan bobl sy'n gweithio yn y meysydd hyn. Bydd cyfle gennych i ofyn cwestiynau hefyd. Cadeirydd: Ann Beynon Cyn-gomisiynydd Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru a chyn-gyfarwyddwraig BT Cymru Siaradwyr: Peter Gwyn Williams - Adran Seilwaith Digidol, Llywodraeth Cymru Carwyn Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr TGCh a Busnes Digidol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru Mark Davies, Peiriannydd Sifil, Cyfarwyddwr EDAF Siwan Owen, Rheolwr Datblygu Cyswllt, Electronic Arts Ceri Mai, Prentis Gradd Seiberddiogelwch, Cyngor Gwynedd Hywel Ifans, Cyfarwyddwr BCC IT Rhys Williams, Rheolwr Systemau a TG, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cynhadledd Dechnoleg Ar-lein 2021
Dysgu sut i ddefnyddio'r rhyngrwyd (Learn my Way)
Cyrsiau am ddim gan Learn My Way ar sut i ddefnyddio cyfrifiadur, pori'r we, anfon e-bost a dod o hyd i swydd ar-lein ar gyfer dysgwyr sydd â sgiliau sylfaenol. Cyrsiau megis: Defnyddio'ch cyfrifiadur neu ddyfais Diogelwch ar-lein Hanfodion ar-lein Rhaglenni Swyddfa Gwella'ch iechyd ar-lein Rheoli'ch arian ar-lein
Clwb Codio - Scratch 2.0
Cyfres o chwe gweithgaredd codio ar gyfer plant 9–11 oed. Mae’r gweithgareddau hyn yn dysgu plant sut i greu animeiddiadau a gemau cyfrifiadurol yn defnyddio’r rhaglen Scratch 2.0 ac yn cyflwyno plant i’r byd rhaglennu. Cynhyrchwyd gan Goleg Meirion Dwyfor a Chanolfan Ehangu Mynediad Prifysgol Bangor gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cynhadledd Wyddonol 2019
Cynhaliwyd Cynhadledd Wyddonol 2019 yng Nghanolfan Medrus, Prifysgol Aberystwyth, ar 6 Mehefin 2019. Roedd y gynhadledd yn gyfle i gyflwyno'r ymchwil gwyddonol ddiweddaraf trwy gyfrwng y Gymraeg. Yma ceir casgliad o gyflwyniadau a fideos o'r gynhadledd.
Adnoddau Rhaglennu
Cyfres o adnoddau aml-gyfrwng i ddysgu rhaglennu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n cynnwys 28 fideo sy’n cwmpasu lawrlwytho, gosod a rhedeg Python; cystrawen sylfaenol; a meddwl algorithmig trwy ddatrys problemau enghreifftiol. Yn ogystal ceir gwefan cyfrwng Cymraeg sy’n cynnwys adnoddau datblygu meddalwedd ymchwil a sgiliau ymchwil cyfrifiadurol.