Dyma Gynhadledd ar gyfer myfyrwyr 16 oed a throsodd mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion sy'n ystyried dilyn gyrfa mewn peirianneg, cyfrifiadureg, neu bwnc cysylltiedig. Bydd y Gynhadledd yn cael ei chynnal dros Zoom, drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i'r Saesneg. Pa lwybrau gyrfa y gallwch chi eu dilyn? Pa alw sydd am eich sgiliau yng Nghymru ac yn Gymraeg?
Ymunwch â'r Gynhadledd i glywed gan bobl sy'n gweithio yn y meysydd hyn. Bydd cyfle gennych i ofyn cwestiynau hefyd.
Cadeirydd:
Ann Beynon Cyn-gomisiynydd Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru a chyn-gyfarwyddwraig BT Cymru
Siaradwyr:
Peter Gwyn Williams - Adran Seilwaith Digidol, Llywodraeth Cymru
Carwyn Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr TGCh a Busnes Digidol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Mark Davies, Peiriannydd Sifil, Cyfarwyddwr EDAF
Siwan Owen, Rheolwr Datblygu Cyswllt, Electronic Arts
Ceri Mai, Prentis Gradd Seiberddiogelwch, Cyngor Gwynedd
Hywel Ifans, Cyfarwyddwr BCC IT
Rhys Williams, Rheolwr Systemau a TG, Coleg Cymraeg Cenedlaethol