Adnoddau digidol gan Elin Royles a Huw Lewis sy'n cyflwyno syniadau, cysyniadau ac egwyddorion creiddiol Gwleidyddiaeth.
Cynhyrchwyd yr adnoddau hyn er mwyn cynorthwyo disgyblion ac athrawon sy’n astudio cwrs Safon Uwch ac Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth CBAC ac i ddarparu gwybodaeth gychwynnol ar gyfer myfyrwyr is-raddedig.
Mae E-lawlyfr 1: Syniadau Hanfodol i Ddeall Systemau Gwleidyddol yn cynnwys wyth adnodd astudio unigol a phedwar fideo sy’n cyd-fynd ag agweddau ar fanyleb Uned 2 y cwrs Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, sef ‘Byw a Chyfranogi mewn Democratiaeth.’
Mae E-lawlyfr 2: Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol yn cynnwys wyth adnodd astudio unigol a phedwar fideo sy’n cyd-fynd ag agweddau ar fanyleb Uned 3 y cwrs Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, sef ‘Cysyniadau a Damcaniaethau Gwleidyddol.’
Cynhyrchwyd y deunydd hwn gan Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Ariannwyd y prosiect o Gronfa Datblygiadau Strategol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.