Ychwanegwyd: 06/02/2025 Dyddiad cyhoeddi: 2024 187 Cymraeg Yn Unig

Llond Ceg - Bwyd Cymreig Cynaliadwy

Disgrifiad

Mae Llond Ceg yn cynnig adnodd hyblyg a hygyrch i unrhyw un sy'n dymuno deall a dysgu mwy am gynaliadwyedd. Mae’r wefan wedi ei chreu er mwyn cael ei defnyddio mewn ffordd hyblyg ar gyfer cychwyn sgyrsiau am fwyd Cymreig, am drefniant presennol y system fwyd, am wastraff bwyd ac yn fwyaf pwysig am sut mae nifer fawr o ffermwyr Cymru yn ceisio cynhyrchu bwyd drwy ddulliau cynaliadwy.
 
Mae'r cynnwys yn cyflwyno a thrafod 10 rheswm pam fod bwyd lleol Cymreig yn fwy cynaliadwy o’i gymharu â bwyd a gynhyrchir dramor. Ceir hefyd cyfres o 3 podlediad sy'n cyflwyno gwahanol agweddau o'r gadwyn fwyd Cymreig.  Mae'r adnodd yn addas ar gyfer y cyhoedd, grwpiau BACC ôl 16 a dysgwyr lefel gradd.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch, Addysg Oedolion
Perthyn i
Daearyddiaeth, Amaethyddiaeth, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Casgliad
mân lun llond ceg

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.