Dyma adnoddau newydd ym maes cyfieithu proffesiynol sef cyfres o e-lyfrau unigryw:
- E-lyfr Cyfieithu Ysgrifenedig (Golygyddion: Mandi Morse, Lowri Lloyd, Lynwen Davies)
- E-lyfr Cyfieithu Ar Y Pryd (Golygyddion: Mandi Morse, Lowri Lloyd, Lynwen Davies)
- Pecyn Ymarfer Cyfieithu gan Heini Gruffudd
Ceir cyfraniadau a chyngor gan arbenigwyr ym maes cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd yng Nghymru.
Bwriad yr e-lyfrau felly yw sbarduno diddordeb, cynnig cyngor a chefnogi cyfieithwyr wrth iddynt ddatblygu sgiliau a magu profiad. O ganlyniad, dyma adnoddau arbennig i gefnogi myfyrwyr a phawb sy’n gweithio yn y diwydiant cyfieithu proffesiynol yng Nghymru.