Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: - 931

Gerallt (2013)

Disgrifiad

Rhaglen ddogfen onest a threiddgar o'r Prifardd Gerallt Lloyd Owen sy'n codi'r llen ar gymeriad preifat ac enigmatig a ysgrifennodd rhai o gerddi enwocaf Cymru ac a fu'n Feuryn Talwrn y Beirdd am 30 mlynedd. Drwy gyfres o gyfweliadau estynedig, mynediad ecsgliwsif i'w gartref ynghyd â chyfweliadau gydag aelodau o'i deulu, mae'r ffilm-ddogfen hon yn cyflwyno ochr arall i'r persona cyhoeddus ac yn datgelu ei angerdd, ei ofnau a'i ellyllon. Gyda darlleniadau o rai o'i gerddi pwysicaf, mae'r rhaglen hon yn treiddio'n ddyfnach i'r themâu sydd wedi cydio ynddo gydol ei oes. Cwmni Da, 2013.

Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Hanes, Cymraeg
Trwydded
ERA
Archif S4C
Password Protected
mân-lun S4C

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.