Mae’r erthygl hon yn defnyddio theatr fel modd i fewnsyllu ar gyfnewidfa ddiwylliannol Cymru a Bryniau Casia a Jaiñtia a wreiddir yn hanes Cenhadaeth Dramor y Methodistaid Calfinaidd Cymreig yng ngogledd-ddwyrain India rhwng 1841 ac 1969. Gan ganolbwyntio ar ddramâu Casi o’r cyfnod trefedigaethol yn ogystal ag enghraifft o berfformiad cenhadol a lwyfannwyd yng Nghymru yn 1929, cwestiynir i ba raddau y dylanwadodd canfyddiadau’r Cymry o theatr a’r ddrama ar berfformio brodorol Bryniau Casia, ac yn yr un modd, i ba raddau y dylanwadodd canfyddiad y cenhadon o India ar y syniad a’r gynrychiolaeth o’r wlad honno mewn portreadau perfformiadol ohoni yng Nghymru.
Lisa Lewis, 'O’r ddrama gymdeithasol i’r pasiant: theatr yn y gyfnewidfa ddiwylliannol rhwng Cymru a gogledd-ddwyrain India' (2019)
Dogfennau a dolenni:
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.