Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2019 1.2K

Osian Elias a Gwenno Griffith, '"Mae hergwd cyn bwysiced â hawl": newid ymddygiad a pholisi’r iaith Gymraeg' (2019)

Disgrifiad

Mae ymagwedd ymddygiadol at bolisi eisoes wedi trawsnewid ystod o feysydd polisi cyhoeddus. Diben yr erthygl hon yw datblygu’r berthynas rhwng ymagwedd ymddygiadol a pholisi a chynllunio iaith. Cynigia strategaethau iaith diweddar Llywodraeth Cymru dystiolaeth o’r berthynas eginol hon, ac mae’r uchelgais o filiwn o siaradwyr yn cynnig sbardun polisi amlwg i’r defnydd o fewnwelediadau ymddygiadol ac yn cyfrannu at arloesi ym maes polisi iaith. Esbonia’r erthygl fod y ddealltwriaeth o ymddygiad sydd wrth wraidd ymdrechion polisi’r iaith Gymraeg yn tueddu i bwysleisio nodweddion rhesymol ymddygiad. Dadleuir bod hyn yn esgeuluso dealltwriaethau amgen o ymddygiad ac arfau polisi megis yr hergwd.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Seicoleg, Cymraeg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun cyfrol gwerddon 29

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.