Mae’r gyfrol hon yn cynnwys casgliad o benodau gan nifer o haneswyr ac ysgolheigion sydd yn cyflwyno rhai o brif themâu a chysyniadau hanes. Mae wedi ei anelu at fyfyrwyr israddedig sy'n astudio Hanes, mae'n gyflwyniad i hanesyddiaeth – yr astudiaeth o ysgrifennu hanes.
Mae’r awduron yn tywys y darllenydd ar hyd llinyn amser, gan dynnu ar agweddau Ewropeaidd a thu hwnt er mwyn olrhain datblygiad hanes fel disgyblaeth proffesiynol.
Penawdau'r gyfrol yw:
- Beth yw Hanes - Meilyr Powel
- O'r 'Gwleidyddol' i'r 'Cymdeithasol': Syrffio ar donnau Hanes dros y Degawdau - Gethin Matthews
- Hanes Cenedlaethol - Huw Pryce
- Hanes Marcsaidd - Douglas Jones
- Hanes o'r Gwaelod: Y Werin, Y Gweithwyr, Menywod, a'r Darostyngol - Arddun H. Arwyn
- Hanes ac Anthropoleg - Huw Morus
- Ôl-strwythuraeth a'r Tro Diwylliannol: Rhywedd, Dwyrainoldeb, ac Ôl-drefedigaethedd - Marion Löffler
- Epilog; Dyfodol Hanes - Meilyr Powel
Mae’r e-lyfr hwn yn cynnwys casgliad o benodau gan nifer o haneswyr ac ysgolheigion sydd yn cyflwyno rhai o brif themâu a chysyniadau hanes. Fe'i golygwyd gan Dr Meilir Powel a Dr Gethin Matthews.