Roedd Rhyfel Cartref America (1861-65) yn un o ddigwyddiadau ffurfiannol pwysicaf yn hanes yr Unol Daleithiau. Ceir llwyth o dystiolaeth am yr ymgyrchoedd gan y Cymry a oedd yn rhan o’r brwydro – oherwydd roedd yn llythrennol miloedd o filwyr Cymraeg eu hiaith yn ymladd ym myddin yr Undeb (y Gogledd). Mae’r adnoddau hyn yn rhannu ychydig o’r dystiolaeth, gan gynnwys disgrifiadau byw o rai o ddigwyddiadau enwocaf y rhyfel. Bydd hyn o ddiddordeb arbennig i fyfyrwyr hanes ym mhrifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Bangor sydd yn ymgymryd â’r modiwl ail flwyddyn ‘Rhyfel Cartref America’.
Llythyrau Rhyfel Cartref America
Dogfennau a dolenni:
Llythyrau Milwyr o Rhyfel Cartref America yn Y Drych, 1863
Fe gyhoeddodd papur newydd Y Drych (papur newydd Cymraeg ei iaith a gyhoeddwyd yn yr UDA) nifer fawr o lythyrau gan filwyr a oedd yn ymladd yn Rhyfel Cartref America. Fodd bynnag, dim ond ychydig o rifynnau o 1863 sydd wedi goroesi. Mae’r adnodd hwn wedi casglu dros 20 o’r llythyrau hyn, a’u cyflwyno ar gyfer ymchwilwyr.
Llythyrau Milwyr o Rhyfel Cartref America yn Y Gwladgarwr
Roedd gan bapur newydd Y Gwladgarwr (a gyhoeddwyd yn Aberdâr) ddiddordeb mawr yn Rhyfel Cartref America. Rhwng 1861 â 1865 cyhoeddwyd dros 60 o lythyrau yn y papur gan filwyr yn disgrifio eu profiadau a'u teimladau. Bellach ceir copïau o'r papur newydd ar wefan Papurau Newydd Cymru y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r adnodd hwn yn amlinellu cynnwys y llythyrau ac yn cynnig dolenni i’r eitemau arlein.
Cewch bori trwy’r deunydd, ac os gwelwch lythyr sydd at eich dant, gallwch glicio ar y ddolen, neu ei gopïo a gludo i mewn i borwr, er mwyn gweld y deunydd.
Llythyrau Milwyr o Rhyfel Cartref America yn Yr Herald Cymraeg
Cyhoeddodd papur newydd Yr Herald Cymraeg (a gyhoeddwyd yng Nghaernarfon) nifer o lythyrau gan filwyr a oedd yn ymladd yn Rhyfel Cartref America. Nid yw’r rhifynnau hyn o’r papur ar gael ar-lein, fodd bynnag, mae sganiau wedi’u gwneud o bedwar llythyr o 1862.
Bydd yr adnodd hwn o ddiddordeb arbennig i fyfyrwyr prifysgol sydd yn astudio modiwl am y Rhyfel Cartref. Mae’r deunydd ar gael mewn dogfen PDF: am resymau hawlfraint, bydd hyn dim ond ar gael yn y lle cyntaf i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y modiwl ‘Rhyfel Cartref America’.
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.