Drama sy'n ymdrin â chymhlethdodau perthyn trwy ddilyn hynt a helynt aelodau o ddau deulu sydd ynghlwm wrth ddarn o dir. Mae’r Lôn Goed yn rhedeg drwy’r tir, ac yma y daw rhai o’r prif gymeriadau i feddwl ac ystyried a gwneud penderfyniadau.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.