Mae lle arbennig i wasanaethau iechyd fel gofod i ddiffinio perthynas priodol y dinesydd â'r wladwriaeth fodern. Bu disgwyliad i unigolion ddewis ym maes iechyd yng Nghymru a Lloegr ers yr 1980au. Yn ddiweddar cyflwynwyd brechlyn newydd i ferched sy'n amddiffyn yn erbyn rhai mathau o gancr ceg y groth. Disgwylir i rieni gydsynio dros eu merched. Mae'r papur hwn yn adrodd canlyniadau'r astudiaeth ymchwil ansoddol fwyaf yn y byd ar y pwnc. Mae'n darlunio agweddau at ddewisiadau iechyd a thrafod profiadau rhieni wrth ddod i benderfynu i gydsynio ai peidio. Dadansoddir strategaethau rhieni wrth benderfynu, er eu hansicrwydd. Myfanwy Davies, 'Dewis a'r dinesydd? Penderfyniadau iechyd a'u goblygiadau ar gyfer datblygu dinasyddiaeth Gymreig', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 40-63.
Myfanwy Davies, 'Dewis a'r dinesydd? Penderfyniadau iechyd a'u goblygiadau ar gyfer datblygu dinasyddiaeth Gymreig' (2012)
Dogfennau a dolenni:
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.