Offer ar gyfer symleiddio’r holl broses arsylwi gyda rhwydwaith telesgopau LCO trwy'r prosiect Cipwyr Comedau. Ceir offer ar gyfer cynllunio a threfnu arsylwadau, gwneud cais am yr arsylwadau, a chreu animeiddiad o’r lluniau telesgop. Mae’r adnoddau yma yn cael eu hanelu at ddisgyblion ysgol gynradd ac uwchradd sydd yn cymryd rhan yn y prosiect Cipwyr Comedau – ond mae’n ddefnyddiol i fyfyrwyr is- ac ôl-radd ar gyfer gwneud ceisiadau am luniau o gomedau/asteroidau o LCO. Mae cyfarwyddiadau ar gael ar y wefan am ddau offeryn, bydd mwy yn cael eu creu ar gyfer pob offeryn yn y dyfodol.
Offer-Astro (Cipwyr Comedau)
Sesiynau Adolygu Carlam Cymru
Recordiadau o sesiynau adolygu mewn gwahanol feysydd a gomisiynwyd gan e-sgol ar gyfer myfyrwyr TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn ystod 2021. Ceir sesiynau adolygu TGAU ar y pynciau: Mathemateg Cymraeg Cymraeg Ail Iaith Bioleg Ffiseg Cemeg Hanes Daearyddiaeth Ceir sesiynau adolygu UG ar y pynciau: Mathemateg Cymraeg Bioleg Ffiseg Cemeg Hanes Daearyddiaeth Ceir sesiynau adolygu safon uwch ar y pynciau: Mathemateg Cymraeg Bioleg Cemeg Hanes Daearyddiaeth Seicoleg
Hywel Turner Evans, Aled Isaac, ‘Cronni Plasma o Bositronau’ (2021)
Cyflwynir adolygiad o'r broses o gronni plasma o bositronau (gwrthelectronau). Disgrifir ffynonellau positronau a'r technegau a ddefnyddir i'w cymedroli, eu cronni a'u nodweddu, gydag enghreifftiau o'r data a gesglir gan ddefnyddio llinell baladr positronau Prifysgol Abertawe. Rhoddir cyfiawnhad dros astudio gwrthfater er mwyn egluro cyfansoddiad y bydysawd, yn ogystal ag ychydig o gyd-destun hanesyddol. Sonnir hefyd am y defnydd o bositronau y tu hwnt i ymchwil ffiseg sylfaenol.
Y Gwyddonydd – cyfrol 33, 2013
Y Gwyddonydd, Cyfrol 33 – Rhifyn Hanner Canmlwyddiant, 1963-2013 Ymddangosodd Y Gwyddonydd, cyfnodolyn gwyddonol Cymraeg, am y tro cyntaf yn 1963, ac fe'i cyhoeddwyd yn gyson hyd at 1996. I ddathlu'r achlysur fe wnaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ariannu a chydlynu rhifyn dathlu arbennig, gan hefyd redeg cystadleuaeth gwyddonydd ifanc. Lansiwyd y rhifyn arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych, 2013.
I'r Lleuad a Thu Hwnt – Eirwen Gwynn
Cyhoeddwyd y llyfr hwn yn wreiddiol yn 1964 pan oedd y ras i'r lleuad yn ei anterth. Ceir ynddo hanes yr ras fawr rhwng Unol Daleithiau America a Rwsia ac amlinelliad hefyd o'r gweithgareddau eraill yn y gofod. Fe'i ysgrifennwyd er mwyn esbonio egwyddorion y maes i'r Cymro cyffredin heb gefndir gwyddonol.
Dibendraw (2014 a 2015)
Mae o’n cwmpasu popeth, mae o ym mhopeth, mae’n barhaus ac yn ddiddiwedd. Beth ydy o? Wel gwyddoniaeth wrth gwrs, a dyna yw pwnc y gyfres Dibendraw. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ben Barr, 'Codi pontydd Cymru' (2008)
Mae'r papur yn adrodd ar dri chyfnod o godi pontydd yng Nghymru. Roedd y cyfnod cyntaf, o amser y Rhufeiniaid hyd at ddechrau'r Chwyldro Diwydiannol, wedi'i ddominyddu gan y defnydd o ddeunyddiau lleol (carreg a phren) gan grefftwyr lleol. Roedd yr ail gyfnod yn rhan annatod o'r Chwyldro Diwydiannol, pan gafodd deunyddiau newydd ar gyfer codi pontydd (haearn bwrw, haearn gyr a dur) eu datblygu a'u defnyddio wrth adeiladu pontydd camlas a rheilffordd. Roedd y trydydd cyfnod yn gysylltiedig â thwf traffig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, pan ddaeth concrid a dur yn brif ddeunyddiau ar gyfer codi pontydd yn ystod datblygiad y cefnffyrdd a'r traffyrdd. Mae'r papur yn dangos, mewn termau syml, y datblygiadau sylfaenol o ran peirianneg adeiladu a oedd yn sail i'r datblygiadau hyn wrth i ddeunyddiau newydd ddod ar gael i godi pontydd. Yn benodol, trafodir datblygiad croestoriadau trawst, tiwbiau a chyplau amrywiol. Hefyd, rhoddir sylw i gyfraniad sylweddol pedwar codwr pontydd sy'n enwog dros y byd: William Edwards a gododd y bont fwa enwog ym Mhontypridd; Thomas Telford a gododd Ddyfrbont Pontcysyllte a Phont Grog Menai; Robert Stephenson a gododd bontydd tiwb yng Nghonwy a dros y Fenai; ac I. K. Brunel a gododd Bont Reilffordd unigryw Cas-gwent a'r draphont reilffordd bren yng Ngland?r, Abertawe. Yn olaf, mae'r papur yn tynnu sylw at rai o bontydd unigryw Cymru. Ben Barr, 'Codi pontydd Cymru', Gwerddon, 3, Mai 2008, 11-35.
Daniel Roberts ac Iestyn Pierce, 'Cynllunio "Laser Tonfedd Ddeuol"' (2016)
Mae'r gwaith hwn yn seiliedig ar y syniad o gynllunio laser â'r gallu i daflu golau ar ddwy donfedd wahanol yr un pryd. Mae laser o'r math hwn wedi cael ei gynllunio yn y gorffennol, ond roedd y gwahaniaeth rhwng y ddwy donfedd ar raddfa lawer mwy. Bwriedir lleihau'r gwahaniaeth hwn, ond byddwn yn dal i fedru cael y laser i allyrru gan ddefnyddio dwy donfedd ar wahân. Bydd effaith ehangu lled y llinell hefyd yn cael ei ystyried, gan ei bod yn bwysig edrych ar y pellter rhwng y ddwy donfedd cyn eu bod yn ymddangos yn un brig llydan yn y sbectrwm, yn hytrach na dau frig cul. Bydd y pellter hwn yn cael ei fesur er mwyn sefydlu terfyn ar gyfer y gwahaniad mwyaf posibl rhwng y ddwy donfedd lle na fyddai'n bosibl gweld dwy linell gydrannol yn y sbectrwm. Bydd gwneud hyn yn galluogi dylunio 'laser tonfedd ddeuol' ag amrediad o wahaniaethau o ran tonfedd, a fydd yn arwain at y posibilrwydd o greu ymbelydredd teraherts o un laser, yn hytrach na 'chymysgu' y golau o ddau laser gwahanol gyda'i gilydd, fel a wnaed yn y gorffennol. Daniel Roberts ac Iestyn Pierce, 'Cynllunio “Laser Tonfedd Ddeuol”', Gwerddon, 22, Hydref 2016, 75–93.
Huw Morgan, 'Corona'r haul: Astudiaeth o strwythur atmosffer yr haul' (2012)
Mae'r gwybodaeth sydd gennym o gorona'r haul yn seiliedig ar arsylwadau a wneir o bell. Mae'n amhosib, felly, i ddyfalu strwythur tri-dimensiwn y corona yn uniongyrchol. Mae'r erthygl hon yn crynhoi hanes ac yn rhoi braslun o astudio'r corona yng nghyswllt ei strwythur, ac yn disgrifio technegau newydd sydd am y tro cyntaf yn ein galluogi i wybod strwythur y corona mewn manylder. Rhoddir disgrifiad o'r newid yn y strwythur dros gylchred bywiogrwydd yr haul, gwybodaeth newydd am y cyswllt rhwng y maes magnetic a'r dwysedd coronaidd, a chanlyniadau newydd ar raddfeydd cylchdroi'r corona. Mae'r canlyniadau yn dangos fod modd cynnyddu'n gwybodaeth o'r corona yn fawr trwy gymhwyso'r technegau tomograffi newydd, gan alluogi ac ysgogi astudiaethau pellach o'r corona yn y blynyddoedd nesaf. Huw Morgan, 'Corona'r haul: Astudiaeth o strwythur atmosffer yr haul', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 64-82.
Huw Morgan, 'Ehangiad ardaloedd bywiog o'r Haul i'r gofod' (2014)
Mae gan yr Haul faes magnetig cymhleth sy'n ymdreiddio drwy'r ffotosffer (arwyneb yr Haul) i'r corona (atmosffer yr Haul). Ymddengys fod fflwcs magnetig newydd yn codi drwy arwyneb yr Haul ar ffurf dolenni caeëdig gydag un rhan o'r ddolen yn treiddio i'r ffotosffer, gan ehangu i'r corona. Mae'r broses yn nodweddiadol o ardaloedd bywiog yn y corona. Trwy gydol y broses, caiff y maes magnetig yn y corona ei greu a'i adnewyddu'n gyson. Mae hefyd yn bosibl i'r maes magnetig a phlasma (nwy trydanol egnïol) gael eu cludo allan o'r corona drwy lifo gyda gwynt yr Haul i'r heliosffer (y gofod yng nghynefin yr Haul sy'n cynnwys cysawd yr Haul). Ceir cludiant o'r fath yn ystod digwyddiadau ffrwydrol ar yr Haul. Yn ôl y llenyddiaeth gyfredol, ni cheir cludiant oni cheir digwyddiad ffrwydrol, ac felly pan na cheir ffrwydrad, disgwylir y caiff meysydd magnetig caeëdig ardaloedd bywiog y corona eu hynysu rhag yr heliosffer. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno tystiolaeth wahanol i'r llenyddiaeth gyfredol. Mae'r arsylwadau a gyflwynir yn dangos y dystiolaeth gyntaf y gall y maes magnetig caeëdig ehangu'n uniongyrchol o'r corona heb ddigwyddiad ffrwydrol gan ffurfio rhan bwysig o wynt yr Haul. Cesglir y dystiolaeth drwy gymhwyso technegau delweddu newydd i arsylwadau o'r corona. Cyflwynir yr arsylwadau a thrafodir eu goblygiadau i'r darlun cyfredol a geir o'r prosesau sy'n cysylltu'r Haul â'r heliosffer. Huw Morgan, 'Ehangiad ardaloedd bywiog o'r Haul i'r gofod', Gwerddon, 18, Medi 2014, 10-22.
Jeff Smith, 'Model amldonfedd i ddelweddu a dadansoddi meysydd magnetig yng nghorona'r Haul' (2014)
Mae'r Haul yn system ddynamig, gymhleth, sy'n llawn nodweddion diddorol a phwysig. Gellir modelu'r fath nodweddion drwy sawl dull, e.e. modelau Meysydd Di-rym Aflinol (NLFFF: non-linear force-free field). Yn y papur hwn, adeiladir efelychiadau NLFFF. Y bwriad yw amcangyfrif patrymau gofodol y maes magnetig yng nghromosffer a chorona'r Haul ynghyd â newidiadau yn yr egni rhydd sydd yn y system, fel colledion egni oherwydd ffrwydradau ar yr Haul. Mae gan y rhan fwyaf o fodelau sydd eisoes yn bodoli gydraniad amserol (temporal cadence) o 12 munud ar y gorau (h.y. efelychir y sefyllfa bob 12 munud). Mae'r dull a drafodir yn y papur hwn yn gwneud sawl bras amcan ond mae'n anelu at gyrraedd cydraniad amserol o 45 eiliad. Canfyddir bod y dull a ddefnyddir yma yn efelychu data synthetig yn llwyddiannus, ac wrth ymdrin â data go iawn, mae'n cynhyrchu delweddau sy'n aml yn cyfateb yn dda i arsylwadau. Gwelir sawl cwymp yn yr egni rhydd o fewn y system, sy'n cyfateb i ffrwydradau yr arsylwyd arnynt. Gyda hynny, rhoddir golwg newydd ar brosesau cyflym sydd i'w gweld ar yr Haul. Jeff Smith, 'Model amldonfedd i ddelweddu a dadansoddi meysydd magnetig yng nghorona'r Haul', Gwerddon, 18, Medi 2014, 23-40.
Owen Wyn Roberts et al., 'Tyrfedd yng ngwynt yr Haul' (2015)
Defnyddir lloerennau Cluster er mwyn ymchwilio i wynt yr Haul, a chan y ceir pedair lloeren, gellir mesur strwythur 3-D gwynt yr Haul. Gan fod tyrfedd yn ffenomen 3-D, y mae Cluster yn ddelfrydol ar gyfer ymchwilio i dyrfedd. Dengys yr arsylwadau hyn y goruchafir tyrfedd yng ngwynt yr Haul ar feintiau radiws cylchdroi protonau gan donnau Alfvén Cinetig yn ogystal â fortecsau magnetig. Y mae'r ymchwil hon yn atgyfnerthu'r dybiaeth o fodolaeth tonnau Alfvén Cinetig yng ngwynt yr Haul ac yn awgrymu am y tro cyntaf y gall tonnau a fortecsau magnetig gydfodoli yng ngwynt yr Haul. Owen Wyn Roberts, Xing Li, a Bo Li, 'Tyrfedd yng ngwynt yr Haul', Gwerddon, 19, Ebril 2015, 45-58.