Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2014 968

Nia Blackwell et al., 'Etifeddiaeth cloddio am lo ym maes glo de Cymru: llygredd d?r ac opsiynau i'w leihau' (2014)

Disgrifiad

Enillydd Gwobr Gwerddon am erthygl orau 2014. Mae cloddio am lo a phrosesau cysylltiedig wedi effeithio ar amgylchedd naturiol rhan orllewinol maes glo de Cymru wrth i dd?r llygredig sy'n arllwys o hen lofeydd gyrraedd y system hydrolegol leol. Mae gwaddol y gwaith cloddio yn yr ardal hon yn cynnwys ffurfiant d?r llygredig, a lifa o sawl hen lofa, yn ogystal â ffurfiant mwynau haearn. Yn yr erthygl hon trafodir y prosesau tanddaearol sydd ar waith yn y glofeydd sy'n arwain at ffurfiant d?r llygredig a mwynau haearn. Ymdrinnir yn benodol â phedair o'r hen lofeydd gan edrych ar y gwahanol systemau trin d?r a ddefnyddir ar y safleoedd hynny. Mae'r systemau yn trin y d?r llygredig drwy gael gwared â'r haearn fel bod y crynodiadau terfynol yn is na'r trothwy a bennwyd gan y Gyfarwyddeb Fframwaith D?r. Nia Blackwell, William. T. Perkins ac Arwyn Edwards, 'Etifeddiaeth cloddio am lo ym maes glo de Cymru: llygredd d?r ac opsiynau i'w leihau', Gwerddon, 18, Medi 2014, 55-76.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Daearyddiaeth, Gwyddorau Amgylcheddol
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun cyfrol gwerddon 18

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.