Adnodd fideo newydd sy’n dod â hanes yr iaith Gymraeg yn fyw mewn 4 munud.
O’r Frythoneg, geni’r Gymraeg a’r fersiynau ysgrifenedig cynharaf yn Oes y Tywysogion drwy’r Deddfau Uno a’r Chwyldro Diwydiannol i sefydlu’r Urdd ac ysgolion cyfrwng Cymraeg yn yr ugeinfed ganrif, dyma fideo sy’n mynd o’r flwyddyn 40 i 2022, pan ddefnyddiwyd y Gymraeg am y tro cyntaf ar y llwyfan chwaraeon mwyaf un, sef yng Nghwpan pêl-droed y Byd.
“Heddiw, mae dros hanner miliwn yn siarad yr iaith ac mae Llywodraeth Cymru am gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 fel bod y Gymraeg yn dod yn rhan annatod o fywyd bob dydd, mewn cymunedau, ysgolion, yn y gwaith a thechnoleg ddigidol.”
Adnodd i’w ddefnyddio’n eang gyda dosbarthiadau Cymraeg o bob oed, ac yn benodol ar gyfer Cymraeg Ail Iaith Safon Uwch Uned 5 (Y Gymraeg yn y Gymdeithas.)
Dolen i'r fideo ar YouTube - gllir dewis isdeitlau (Cymraeg) ar y fideo yn YouTube (bydd isdeitlau Saesneg ar gael yn fuan).
Ariannir gan Lywodraeth Cymru.