Mae'r casgliad hwn yn cynnwys cyfres o bosteri sy'n cynnwys geirfa allweddol ddwyieithog gyffredinol i fyfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus. Datblygwyd y gyfres hon o bosteri gan Coleg Sir Gâr. Mae'r gyfres yn cynnwys 9 pdf y gellir eu lawr lwytho a'u hargraffu i gefnogi cyflwyno'r Gymraeg yn y maes gwasanaethau cyhoeddus. Gall y posteri gael eu rhoi ar wal y dosbarth.
Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys cyfres o bosteri sy’n cynnwys geirfa allweddol benodol ar gyfer unedau Cwrs Lefel 3 Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol. Mae poster geirfa allweddol ar gael ar gyfer y 7 uned sef:
Uned 1: Dinasyddiaeth ac Amrywiaeth
Uned 2: Ymddygiad a Disgyblaeth yn y Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol
Uned 3: Materion Byd-eang, y Cyfryngau a’r Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol
Uned 4: Paratoad Corfforol, Iechyd a Llesiant
Uned 5: Gwaith Tîm, Arweinyddiaeth a Chyfathrebu yn y Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol
Uned 6: Y Llywodraeth a’r Gwasanaethau Amddiffyn
Uned 7: Cynllunio ar gyfer Digwyddiadau Brys ac Ymateb iddynt
Noder bod fersiynau hygyrch Word ar gael ar gyfer y ddau adnodd ar wahân.