Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: - 1.3K

Tir Neb (2014)

Disgrifiad

I lawer, 'tir neb' - y llain o dir diffaith rhwng y ffosydd yn Ffrainc a Fflandrys - yw'r symbol fwyaf ingol o'r gwastraff bywyd a fu yn ystod rhyfel gwaedlyd 1914-18. Mae Tir Neb yn ffilm ddogfen delynegol a thrasig sy'n adrodd hanes y Rhyfel Mawr, o'i ddechrau i'w ddiwedd, yng ngeiriau'r bobl a ddioddefodd ar ddwy ochr tir neb. Mae'n seiliedig ar lythyrau o'r cyfnod gan Almaenwyr, Ffrancwyr, ac Americanwyr - ynghyd â Chymry, fel Huw T. Edwards, Hughie Griffith a T. Salisbury Jones. Mae llawer o'r delweddau archif yn y ffilm heb eu gweld ar deledu yng Nghymru o'r blaen. Cwmni Da, 2014.

Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Hanes
Trwydded
ERA
Archif S4C
Password Protected
mân-lun Archif S4C

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.