Yma, cyflwynir adroddiad gan y naturiaethwr a'r teithiwr Thomas Pennant (1726 – 98) ar Tsieina, sy'n rhan o'i lawysgrif amlgyfrol, 'Outlines of the Globe', a gedwir yn yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol.
Ceir tair adran i'r adnodd:
- ysgrif yn trafod ymdriniaeth Pennant â Tsieina;
- atodiad yn cynnwys delweddau o'r llawysgrif wreiddiol ynghyd â thrafodaeth yn eu gosod yn eu cyd-destun; a
- map rhyngweithiol yn dangos y lleoliadau a enwir yn yr adroddiad gan ganolbwyntio ar bum taith hanesyddol allweddol i Tsieina, ynghyd â thaith ddychmygol Pennant ar hyd arfordir y wlad.
Mae'r adnoddau'n addas ar gyfer myfyrwyr, ysgolheigion, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn Tsieina ac ym meysydd Astudiaethau Crefyddol, Celf, Daearyddiaeth, Economeg, Gwyddorau Amgylcheddol ac Eigion, a Hanes.
Cedwir yr holl adnoddau gyda'i gilydd ar wefan Teithwyr Chwilfrydig (https://curioustravellers.ac.uk/tsieina/). Yno, gellir lawrlwytho'r ysgrif a'r atodiad yn uniongyrchol, a gellir dilyn dolen i'r map rhyngweithiol. Ceir cyfarwyddiadau manwl ar sut i drin y map o fewn yr adnodd ei hun, o dan 'Canllaw i'r defnyddiwr', sydd wedi'i leoli o dan 'Gwybodaeth bellach' ar y ddewislen ar y bar llorweddol ar frig y dudalen.