Cynhadledd ar Farchnata, Busnes ac ieithoedd lleiafrifol Cynhadledd ar gyfer darlithwyr, myfyrwyr a gweithwyr ym maes marchnata a'r Gymraeg ar 24 Mehefin 2022 ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian, Abertawe SA1 8EN. Bydd y gynhadledd yn cyflwyno a thrafod ymchwil sydd yn edrych ar faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac ieithoedd eraill, megis Llydaweg, Gwyddeleg, neu Fasgeg, a maes Busnes. Mynediad a lluniaeth am ddim. Cofrestrwch i fynychu. Croeso i bawb. Mae'r gynhadledd yn y Gymraeg - does dim cyfieithu ar y pryd. Manylion pellach: s.jobbins@colegcymraeg.ac.uk Amserlen 10:00 - Coffi / Ymgynnull 10:30 - Croeso gan Yr Athro Elwen Evans CF, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol, Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe 10:45 - Siaradwr gwadd: Mari Stevens, Prif Swyddog Marchnata, Ogi: Hunaniaith: rôl y Gymraeg wrth farchnata yng Nghymru – ac ar draws y byd 11:15 - Sesiwn 1 Ieithoedd Lleiafrifol a Marchnata Lle (Cadeirydd: Llŷr Roberts) Cyfraniad Ieithoedd Lleiafrifol at greu Brand Unigryw wrth Farchnata Lle - Rhydian Harry (Prifysgol Abertawe) Pop Up Gaeltacht: adfywio dinesig ac ieithyddol? - Dr Osian Elias (Prifysgol Abertawe) Gwnaed yn Llydaw: Brand rhanbarthol. Model i Gymru? - Dr Robert Bowen (Prifysgol Abertawe/Caerdydd) 12:30 - Cinio (Ystafell GH014) 13:15: Siaradwr gwadd: Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr, Canolfan Uwchefrydiad Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru: Gwersi Basgeg - Cymharu Cymru a Gwlad y Basg 13:45 - Sesiwn 2 Y Cyd-destun Cymreig (Cadeirydd: Dr Robert Bowen) Dylanwad polisïau, gweithgareddau a thueddiadau economaidd ar y Gymraeg - Elen Bonner (Prifysgol Bangor) Cyflwyniad i Farchnata: datblygu gwerslyfr Cymreig yn ogystal â Chymraeg - Llŷr Roberts (Prifysgol De Cymru) Defnyddio cwmnïau Cymreig ar gyfer dysgu dulliau ymchwil a sgiliau ymarferol i fyfyrwyr busnes Cymraeg a rhyngwladol - Yr Athro Eleri Rosier (Prifysgol Caerdydd) a Dr Rhian Thomas (Prifysgol De Cymru) 15:00 - Panel Trafod (Cadeirydd: Yr Athro Eleri Rosier) 15:30 - Gorffen
Cynhadledd Iaith a Busnes
Gweminarau Busnes i Ddysgwyr Mewn Colegau Addysg Bellach (Tymor yr Hydref 2022)
Cyfres o weminarau i roi cyfle i ddysgwyr drafod eu pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. Trafodwyd y canlynol gan unigolion o nifer o fusnesau a sefydliadau. Sefydlu Busnes Bach Brandio Masnach Ar-lein Moeseg/Amgylchedd Defnyddio'r Gymraeg Ariannu Busnes Busnes B2B Cyfundrefn 'cyhoeddus' Busnes Cymdeithasol Mae modd gwylio'r sesiynau â recordiwyd isod.
Astudiaethau Busnes - Entrepreneuriaeth a Strategaeth Busnes
Mae’r adnoddau hyn yn diffinio ac yn archwilio’r thema ‘entrepreneuriaeth’, gan roi sylw manwl i’r elfennau sy’n rhaid eu hystyried wrth gynllunio, dechrau, datblygu a llwyddo mewn busnes. Mae pob uned yn cynnwys: crynodeb darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo cwis aml-ddewis cwestiynau seminar llyfryddiaeth Cyfranwyr y thema hon yw: Dr Robert Bowen Dr Eleri Rosier Dr Kelly Young Nerys Fuller-Love Jonathan Fry Gareth Hall Williams Mae’r holl unedau a restrir isod i’w cael yma mewn un pecyn: Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Profi
Gwefan i unigolion 14-18 mlwydd oed a hŷn i ddysgu mwy am sgiliau byd gwaith a sut i gadw cofnod o'u datblygiad wrth ymgymryd â phrofiadau a dysgu sgiliau newydd.
Dyfrffyrdd a Bywyd Gwyllt: Rheoli ein hamgylchedd naturiol
Adnodd ar wefan Hwb ar gyfer gwirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn rheolaeth amgylcheddol yw hwn. Gan ddefnyddio erthyglau nodwedd a gwybodaeth allweddol am gamlesi Cymru a thu hwnt, mae’r llawlyfr hwn yn gyflwyniad i gynefinoedd a bywyd gwyllt glan dŵr.
Peiriannau Fferm
Mae’r adnodd hwn, o wefan Hwb, yn addas ar gyfer dysgwyr ôl 16 Amaethyddiaeth, garddwriaeth a gofalu am anifeiliaid, yn amlygu pwysigrwydd deddfwriaeth peiriannau ar y fferm. Mae’n dangos egwyddorion gweithio a pharatoi peiriannau, yn edrych ar eu heffaith amgylcheddol, ac yn rhoi enghreifftiau o ddulliau o ofalu am beiriannau ar ôl gweithio gyda nhw fel nad ydyn nhw’n dirywio.
Cynhadledd Ymchwil 2022
Cynhaliwyd y Gynhadledd hon ar ffurf hybrid eleni, gyda chynulleidfa mewn person yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac fe’i darlledwyd yn fyw i gynulleidfa rithiol. Mae Cynhadledd Ymchwil flynyddol y Coleg ar gyfer pawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddir gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i drafod gydag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian. Bwriad y gynhadledd yw rhoi cyfle i’r to nesaf o academyddion i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Mae’r gynhadledd hefyd yn gyfle i rwydweithio ag ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith ac i feithrin cymuned ehangach o academyddion sy'n hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion. Cliciwch isod i weld cyflwyniadau byrion a recordiwyd yn arbennig ar gyfer y gynhadledd. Mae hefyd dolenni i weld y posteri ymchwil a arddangoswyd yn ystod y gynhadledd. Bydd recordiadau o'r prif gyflwyniadau a roddwyd yn fyw yn ystod y gynhadledd, a’r sesiynau cwestiwn ac ateb a gafwyd ar ôl pob cyflwyniad yn cael eu hychwanegu isod yn fuan.
Echelgais
Adnodd cyfrwng Cymraeg ar wefan HWB sy'n canolbwyntio ar 6 maes; Amaethyddiaeth, Busnes, Drama, Twristiaeth a Hamdden, Iechyd a Gofal a Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfryngau.
Fideos Rhannu Arfer Dda
Dyma gyfres o fideos o ddarlithwyr addysg bellach a darparwyr prentisiaethau yn rhannu arfer dda ynglŷn â hyfforddi, addysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog beth bynnag fo'ch sgiliau iaith Gymraeg.
Llunio Hanes: Hanesyddiaeth a Chrefft yr Hanesydd
Mae’r gyfrol hon yn cynnwys casgliad o benodau gan nifer o haneswyr ac ysgolheigion sydd yn cyflwyno rhai o brif themâu a chysyniadau hanes. Mae wedi ei anelu at fyfyrwyr israddedig sy'n astudio Hanes, mae'n gyflwyniad i hanesyddiaeth – yr astudiaeth o ysgrifennu hanes. Mae’r awduron yn tywys y darllenydd ar hyd llinyn amser, gan dynnu ar agweddau Ewropeaidd a thu hwnt er mwyn olrhain datblygiad hanes fel disgyblaeth proffesiynol. Penawdau'r gyfrol yw: Beth yw Hanes - Meilyr Powel O'r 'Gwleidyddol' i'r 'Cymdeithasol': Syrffio ar donnau Hanes dros y Degawdau - Gethin Matthews Hanes Cenedlaethol - Huw Pryce Hanes Marcsaidd - Douglas Jones Hanes o'r Gwaelod: Y Werin, Y Gweithwyr, Menywod, a'r Darostyngol - Arddun H. Arwyn Hanes ac Anthropoleg - Huw Morus Ôl-strwythuraeth a'r Tro Diwylliannol: Rhywedd, Dwyrainoldeb, ac Ôl-drefedigaethedd - Marion Löffler Epilog; Dyfodol Hanes - Meilyr Powel Mae’r e-lyfr hwn yn cynnwys casgliad o benodau gan nifer o haneswyr ac ysgolheigion sydd yn cyflwyno rhai o brif themâu a chysyniadau hanes. Fe'i golygwyd gan Dr Meilir Powel a Dr Gethin Matthews.
Cynhadledd Undydd: 'Heddwch ac Iechyd'
Bydd Academi Heddwch Cymru’n cynnal cynhadledd undydd (ar-lein) ar y thema Heddwch ac Iechyd – Mawrth 31ain 2022. Mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth, mae’r alwad am bapurau wedi denu cyfraniadau sy’n archwilio heddwch ac iechyd o sawl cyfeiriad. Drwy gydol y dydd bydd paneli’n trafod heddwch ac iechyd yng nghyd-destun e.e.: cynllunio trefol cynllunio iaith peirianneg dŵr llesiant grwpiau sydd wedi eu gwthio i’r cyrion creadigrwydd Siaradwyr agoriadol: Yr Athro Rowan Williams, Cadeirydd Academi Heddwch Yr Athro Colin McInnes, Prifysgol Aberystwyth
Astudiaethau Busnes: Economi Cymru
Nod yr unedau hyn yw cyflwyno gwahanol agweddau ar economi Cymru, ddoe a heddiw. Mae pob uned yn cynnwys: crynodeb darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo cwis aml-ddewis cwestiynau seminar llyfryddiaeth Mae’r holl unedau a restrir isod i’w cael yma mewn un pecyn. Cyfranwyr y thema hon yw: Guto Ifan Dr Rhys ap Gwilym Dr Edward Jones Elen Bonner Sam Parry Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.