Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2017: 'Tros bedair gwaith o gwmpas y byd': Teithiau a Gweithiau William Williams, Pantycelyn, gan Eryn White, Prifysgol Aberystwyth. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Môn ar ddydd Mawrth 8 Awst 2017.
Darlith Flynyddol 2017: 'Tros bedair gwaith o gwmpas y byd': Teithiau a Gweithiau William Williams, Pantycelyn
David Willis, 'Datblygiad cystrawen y rhifolion yn y Gymraeg' (2019)
Mae’r rheolau sy’n pennu treigladau a ffurfiau enwau ac ansoddeiriau ar ôl rhifolion mewn Cymraeg Canol yn aml yn peri dryswch i ddarllenwyr cyfoes. Mae’r erthygl hon yn braslunio’r rheolau a rhoi dadansoddiad synchronig ohonynt. Dangosir eu bod yn seiliedig ar system gydlynol lle mae rhif (unigol, deuol, rhifol, lluosog) yn ganolog. Gellir cofnodi a dyddio’r newidiadau ieithyddol sydd wedi digwydd ers hynny yn fanwl drwy ddefnyddio tystiolaeth destunol. Dadleuir y gellir deall y newidiadau hyn fel camau ar hyd llwybr tuag at system newydd, yr un mor gydlynol â’i rhagflaenydd, lle y mae pob ymadrodd rhifol yn ramadegol unigol, a chenedl yn hytrach na rhif sy’n penderfynu ffurf a threigladau ill dau.
Gareth Evans-Jones, ''Does dim gwadu ar Etifeddiaeth": Astudiaeth o'r modd yr ymdrinnir ag etifeddiaeth yn Ac ...
Un o brif themâu John Gwilym Jones yw’r modd y mae dyn ‘yn gaeth i’w gromosomau’ ar drugaredd ei etifeddeg a’i amgylchedd, ac yn yr erthygl hon, ystyrir y thema honno yn ei ddrama fawr Ac Eto Nid Myfi. Er mwyn ymdrin â’r llenor, yn hytrach na’r dramodydd yn unig, archwilir detholiad o’i straeon byrion yn ogystal. Trafodir pa mor ddylanwadol fu syniadau Darwin am etifeddeg ar y mudiad Naturiolaidd ac asesir y modd yr oedd John Gwilym Jones ei hun yn etifedd i’r syniadau Darwinaidd hynny.
Gerwyn Wiliams, 'Cynan, Y Sefydliad a Chwyldro'r 1960au' (2014)
Cynan (Albert Evans-Jones, 1895-1970) oedd un o brif gynrychiolwyr Y Sefydliad yng Nghymru am ran helaeth o'r ugeinfed ganrif. Bu'n Archdderwydd ddwywaith a chwaraeodd ran ganolog ym mhenderfyniad dadleuol yr Orsedd i gymryd rhan yn seremoni Arwisgo'r Tywysog Siarl yng nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969. Ef hefyd oedd un o awduron Rheol Iaith yr Eisteddfod Genedlaethol, rheol y daliodd yn gryf o'i phlaid fel Llywydd Llys yr Eisteddfod tuag at ddiwedd ei oes. O gymharu, Dafydd Iwan oedd un o arweinwyr amlycaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mudiad a fabwysiadodd 'ddulliau chwyldro' yn ystod y 1960au. Yn yr erthygl hon, ystyrir y gwrthdaro rhwng Cynan a Dafydd Iwan a'r modd y cynrychiolai'r gwrthdaro hwnnw ymrafael ynghylch yr union ddiffiniad o Gymreictod ar y pryd. Gerwyn Wiliams, 'Cynan, Y Sefydliad a Chwyldro'r 1960au', Gwerddon, 17, Mawrth 2014, 12-22.
Hunydd Andrews, 'Llais y dysgwr: Profiadau oedolion sydd yn dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru' (2011)
Yn y papur hwn trafodir astudiaeth uchelgeisiol o oedolion sydd yn dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru. Mae dros 1,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y prosiect, sydd yn astudio profiadau dysgwyr ledled y rhanbarth am gyfnod o dair blynedd. Dyma'r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr o'i math yn y maes. Arweinir y gwaith gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru a'r Ganolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor. Rhwng Medi 2008 ac Awst 2010, dosbarthwyd dau holiadur i ddechreuwyr ar gyrsiau holl ddarparwyr gogledd Cymru. Trafodir isod ganlyniadau'r holiaduron hynny, gan gynnwys agweddau megis cefndir y dysgwyr, eu rhesymau dros ddysgu Cymraeg, eu profiadau yn ystod eu cwrs a'u bodlonrwydd â'r ddarpariaeth. Amlinellir hanes y maes a gosodir yr ymchwil yng nghyd-destun adfywio a chynllunio iaith yng Nghymru a thu hwnt. Hunydd Andrews, 'Llais y dysgwr: Profiadau oedolion sydd yn dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru', Gwerddon, 9, Rhagfyr 2011, 37-58.
Iwan Wyn Rees a Jonathan Morris, 'Astudiaeth o ganfyddiadau tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion o anawsterau ynganu ...
Cyflwyna'r erthygl hon ddadansoddiad manwl o safbwyntiau tiwtoriaid profiadol ar ynganu dysgwyr Cymraeg i Oedolion (CiO) a'r sylw a roddir i ddysgu ynganu yn y sector. Casglwyd y data a gyflwynir yma drwy ddosbarthu holiadur ar-lein i diwtoriaid profiadol o wahanol rannau o Gymru, a thrwy gynnal grwpiau ffocws â sampl o'r tiwtoriaid hyn mewn dau leoliad penodol yng Nghymru. Nodau'r ymchwil yw sefydlu sut y mae tiwtoriaid yn canfod anawsterau ynganu dysgwyr, a darganfod i ba raddau y maent wedi eu hyfforddi'n ddigonol ar gyfer cynorthwyo dysgwyr o safbwynt yr agwedd heriol hon ar ddysgu iaith. Archwilir hefyd i ba raddau y mae gwahanol elfennau ynganu (e.e. cynhyrchu seiniau penodol a goslefu) yn effeithio ar allu dysgwyr i gyfathrebu'n effeithiol y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Cyflwynir ar ddiwedd yr erthygl hon gyfres o argymhellion o ran y modd y gall y sector CiO wella ei darpariaeth o safbwynt ynganu. Mae'r argymhellion hyn yn ymwneud â darpariaeth y cyrsiau, yr hyfforddiant y mae ei angen ar diwtoriaid, yr adnoddau y gellid eu datblygu, y gweithgareddau allgyrsiol y gellid eu cynnal, yn ogystal ag ymchwil pellach a allai lywio pedagogeg y sector. Iwan Wyn Rees a Jonathan Morris, &lsquoAstudiaeth o ganfyddiadau tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion o anawsterau ynganu ymhlith dysgwyr yr iaith', Gwerddon, 27, Hydref 2018, 39-66.
Iwan Wyn Rees, '"Dim Sôn am Dduw na Dyn": Ar drywydd yr 'U Ogleddol' yng nghanolbarth Cymru' (2016)
Y mae'r llafariaid caeedig canol, neu'r 'u ogleddol' fel y'u gelwir yn aml, yn nodweddiadol o amrywiadau gogleddol ar y Gymraeg. Yn gyffredinol yng ngogledd Cymru, felly, ceir cyferbyniad rhwng parau o eiriau megis 'sur' / 'sir'. Yn y de ar y llaw arall, collir y cyferbyniad hwn, ac yno y mae'r parau hyn o eiriau yn homoffonau wrth iddynt gael eu hynganu ag 'i ddeheuol' yn gyson. Prif amcan yr astudiaeth hon, felly, yw cynnig dadansoddiad meintiol am y tro cyntaf o'r modd y collir y cyferbyniad rhwng 'u ogleddol' ac 'i ddeheuol' mewn rhannau o ganolbarth Cymru. Dangosir gan hynny fod strwythur cymhleth i amrywiadau un 'ardal drawsnewid' benodol, sef Bro Dysynni, a bod defnydd siaradwyr yr ardal hon o'r 'u ogleddol' wedi ei gyflyru gan sawl ffactor ieithyddol gwahanol. Yn olaf, cynigir yma ddamcaniaeth newydd, sef bod ymgyfnewid rhwng 'u ogleddol' ac 'i ddeheuol' yn gysylltiedig ag amrywiaeth yn hyd deuseiniaid, a thrafodir goblygiadau hyn. Iwan Wyn Rees, '“Dim Sôn am Dduw na Dyn”: Ar drywydd yr “U Ogleddol” yng nghanolbarth Cymru', Gwerddon, 22, Hydref 2016, 47–74. Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn
John D. Phillips, 'Effaith newidiadau diweddar ar hynodrwydd ieithyddol y Gymraeg' (2008)
Mae gan yr iaith Gymraeg sawl nodwedd yn ei gramadeg sy'n anghyffredin iawn ar draws ieithoedd. Mae'r papur hwn yn edrych ar bum nodwedd o'r fath, ar eu prinder yn ieithoedd y byd ac ar eu lle yng ngramadeg y Gymraeg. Mae'n dangos bod amlder testunol pob nodwedd, yng nghorff Cymraeg llafar ac ysgrifenedig, yn prinhau. Mae'r pum nodwedd hyn, a oedd yn sefydlog yn y Gymraeg ers y cofnodion cynharaf ymhell dros fil o flynyddoedd yn ôl, yn ystod oes siaradwyr hÅ·n, wedi mynd yn ddewisol neu'n ddarfodol yn yr iaith lafar: mae gramadeg yr iaith wedi newid. Mae'n debygol bod y Gymraeg yn newid oherwydd dwyieithrwydd. Ynghyd â'r cynnydd yn y defnydd cyhoeddus o'r Gymraeg yn ddiweddar, cafwyd cynnydd yn y defnydd o'r Saesneg ym mywydau pob dydd siaradwyr Cymraeg. Mae'r siaradwr Cymraeg cyffredin bellach yn siarad mwy o Saesneg na Chymraeg, y tu allan i'r teulu o leiaf. Dangoswyd bod siarad ail iaith yn rhugl ac yn rheolaidd yn effeithio ar iaith gyntaf y siaradwr, yn fwy na thebyg i leihau'r baich seicolegol wrth newid yn gyson rhwng y ddwy iaith. Dadleuir, mewn sefyllfa o'r fath, ar draws ieithoedd, fod nodweddion anghyffredin o'u hanfod yn fwy tueddol o gael eu colli. Yn olaf, mae'r papur yn edrych yn gyflym iawn ar ddatblygiadau posibl yn y dyfodol. John D. Phillips, 'Effaith newidiadau diweddar ar hynodrwydd ieithyddol y Gymraeg', Gwerddon, 3, Mai 2008, 94-117.
Lisa Lewis, 'O’r ddrama gymdeithasol i’r pasiant: theatr yn y gyfnewidfa ddiwylliannol rhwng Cymru a gogledd-d...
Mae’r erthygl hon yn defnyddio theatr fel modd i fewnsyllu ar gyfnewidfa ddiwylliannol Cymru a Bryniau Casia a Jaiñtia a wreiddir yn hanes Cenhadaeth Dramor y Methodistaid Calfinaidd Cymreig yng ngogledd-ddwyrain India rhwng 1841 ac 1969. Gan ganolbwyntio ar ddramâu Casi o’r cyfnod trefedigaethol yn ogystal ag enghraifft o berfformiad cenhadol a lwyfannwyd yng Nghymru yn 1929, cwestiynir i ba raddau y dylanwadodd canfyddiadau’r Cymry o theatr a’r ddrama ar berfformio brodorol Bryniau Casia, ac yn yr un modd, i ba raddau y dylanwadodd canfyddiad y cenhadon o India ar y syniad a’r gynrychiolaeth o’r wlad honno mewn portreadau perfformiadol ohoni yng Nghymru.
Lisa Sheppard, 'Troi Dalen "Arall"': Ail-ddehongli'r berthynas rhwng cymunedau Cymraeg a Saesneg de Cymru mew...
Enillydd Gwobr Gwerddon am erthygl orau 2015-17. Mae'r erthygl hon yn dadansoddi'r berthynas rhwng siaradwyr Cymraeg a Saesneg yn y golygfeydd tafarn mewn dwy nofel gyfoes o dde Cymru, sef Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd (2009) a The Book of Idiots gan Christopher Meredith (2012), yng ngoleuni damcaniaethau athronyddol am yr 'arall' ac aralledd. Olrheinir datblygiad cysyniad yr 'arall' gan ystyried gwaith athronwyr a damcaniaethwyr diwylliannol megis Georg Hegel, Simone de Beauvoir, Frantz Fanon a Homi Bhabha. Trwy droi at waith Charlotte Williams a Simon Brooks, dadleuir y gallai siaradwyr Cymraeg a Saesneg Cymru fel ei gilydd brofi aralledd, ac yna try'r erthygl at y nofelau er mwyn archwilio sut yr adlewyrchir hyn mewn testunau ffuglennol cyfoes. Daw'r erthygl i gasgliad ynglyˆn ag arwyddocâd aralledd i'r dychymyg a'r hunaniaeth Gymreig gyfoes, ac awgryma sut y gallai syniadau athronyddol eraill ein helpu i ganfod tir cyffredin rhwng dwy brif gymuned ieithyddol y genedl. Lisa Sheppard, 'Troi Dalen “Arall”: Ail-ddehongli'r berthynas rhwng cymunedau Cymraeg a Saesneg de Cymru mewn dwy nofel ddiweddar yng ngoleuni ffigwr yr “arall”', Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 26-47.
Llawlyfr Hen Gymraeg – Alexander Falileyev
Dyma'r disgrifiad cynhwysfawr cyntaf un o Hen Gymraeg (iaith y 9fed ganrif hyd ddechrau'r ddeuddegfed) i ymddangos yn yr iaith Gymraeg. Mae'n addasiad (gan yr awdur ei hunan) o Gramadeg Hen Gymraeg, Alexander Falileyev, a gyhoeddwyd yn Rwsieg yn 2002, ac yn Ffrangeg yn 2008. Yn ogystal â throsi'r gwaith i'r Gymraeg, mae Dr Falileyev wedi'i addasu ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac wedi ymgorffori ffrwyth yr ymchwil diweddaraf ar y testunau hyn (peth ohono eto i'w gyhoeddi). Mae hyn yn golygu y bydd o ddiddordeb i ysgolheigion profiadol yn ogystal â myfyrwyr a lleygwyr. Mae'n cynnwys disgrifiadau manwl o'r testunau hysbys, gyda llyfryddiaeth lawn, penodau ar ffonoleg, gramadeg a chystrawen yr iaith, a detholiad o destunau golygedig gyda nodiadau cynhwysfawr a geirfa. Mae'r llyfr hwn yn rhoi cyfle, am y tro cyntaf, i'r Cymry ddod i adnabod rhai o'r enghreifftiau cynharaf hysbys o destunau yn eu hiaith. Mae Dr Falileyev, yn enedigol o St Petersburg, Rwsia, yn arbenigydd ar yr ieithoedd Celtaidd. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth ar enwau lleoedd a phersonol Celtaidd o Ewrop yn yr hen gyfnod, ac ar iaith a llenyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol Golygydd y Gyfres: Dr Simon Rodway, Prifysgol Aberystwyth.
Llawlyfr Technolegau Iaith
Mae’r llawlyfr hwn yn esbonio beth yw technolegau iaith ac yn ddisgrifio rhai o’r cydrannau mwyaf sylweddol yn ogystal â cheisio egluro’r dulliau a ddefnyddir i'w gwireddu. Mae wedi’i fwriadu ar gyfer myfyrwyr, datblygwyr, academyddion, swyddogion polisi, ac eraill sydd heb gefndir yn y maes ond sydd eisiau deall mwy am feysydd pwysig prosesu iaith naturiol, deallusrwydd artiffisial, technoleg cyfieithu a thechnoleg lleferydd. Mae'r llawlyfr hefyd ar gael ar wefan Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru. Ysgrifennwyd gan swyddogion o Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, a Cymen Cyf gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.