Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cyrsiau ar gael ar bedwar lefel: Ymwybyddiaeth, Dealltwriaeth, Hyder, Rhuglder ac mae cwis ar gael i ganfod pa lefel sy'n addas ar eich cyfer.
Sara Borda Green, Astudiaeth achos: effaith y cyfryngau digidol ar gynnwys a swyddogaeth O’r Pedwar Gwynt ac Y...
Mae’r erthygl hon yn edrych ar ddylanwad y cyfryngau digidol ar y maes llenyddol Cymraeg cyfoes wrth ddisgrifio a chymharu dau gylchgrawn llenyddol sy’n cyfuno elfennau printiedig a digidol. Lansiwyd O’r Pedwar Gwynt ac Y Stamp yn ystod 2016, a bellach dyma’r unig ddau gyhoeddiad llenyddol yn y Gymraeg sydd â phresenoldeb cyson ar bapur ac ar-lein. Trwy eu dadansoddi caiff syniadau traddodiadol ynglyˆn â’r broses cynhyrchu llenyddol eu herio, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â natur y gwrthrych llenyddol a rôl y cynhyrchwyr (golygyddion ac awduron) a’r derbynwyr (darllenwyr). Gan ddefnyddio cysyniadau sydd â’u gwreiddiau yn astudiaethau’r cyfryngau (Marshall McLuhan) a theori meysydd cymdeithasol (Pierre Bourdieu), rhoddir pwyslais ar bosibiliadau prosiectau sy’n cyfuno nodweddion cyfryngau a chynhyrchion llenyddol.
Ymwybyddiaeth Iaith mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Datblygwyd yr adnoddau ymwybyddiaeth iaith dwyieithog yma ar gyfer dysgwyr Addysg Bellach yn maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Nod y pecyn yw cynyddu dealltwriaeth dysgwyr sydd â gwahanol sgiliau iaith Gymraeg, o arwyddocad y Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Yn benodol, maent yn cefnogi addysgu Uned 1 y cymhwyster newydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2: Craidd: deilliannau dysgu 7 ac 8. Mae deilliant dysgu 7 yn gofyn i ddysgwyr ddeall pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Mae deilliant dysgu 8 yn gofyn i ddysgywr ddeall pwysigrwydd yr iaith a'r diwylliant Cymraeg i unigolion a gofalwyr. Mae’r cyrsiau hyn hefyd ar gael drwy byrth dysgu colegau Addysg Bellach.
Siân Wyn Siencyn, 'Darpariaeth Gymraeg i blant ifanc: hanes a heriau datblygiad addysg feithrin yng Nghymru' (...
Bu datblygiad addysg feithrin Cymraeg yn stori o lwyddiant arbennig dros y blynyddoedd diwethaf. Gyda sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2000, gwelwyd Cymru’n symud ymhellach yn ei dyheadau ar gyfer ei phlant ifanc. Un o flaenoriaethau cyntaf y Llywodraeth Gymreig gyntaf oedd y Cyfnod Sylfaen gyda’i hymagweddiad radical. Bydd y papur hwn yn ymdrin â datblygiad addysg feithrin yng Nghymru gyda thrafodaeth ar yr hanes cyn ac ar ôl datganoli. Gosodir polisïau Cymraeg oddi mewn i gyd-destun dylanwadau ymchwil a phedagogaidd ehangach ar addysg blynyddoedd cynnar, er enghraifft y dystiolaeth ynghylch arfer dda o du EPPE (The Effective Provision of Pre-School Education Project). Edrychir yn benodol ar ddarpariaeth Gymraeg a chyfraniad Mudiad Meithrin ynghyd â thrafodaeth ar y damcaniaethau ynghylch dwyieithrwydd, gyda golwg ar ddwyieithrwydd cynnar yn benodol. Ceir amlinelliad a beirniadaeth ddadansoddol o’r heriau sy’n wynebu’r maes yn sgil datblygiadau gwleidyddol cyfoes a pholisïau cyfredol. Er dibenion y papur hwn, diffinnir addysg feithrin fel gwasanaethau addysg a gofal ar gyfer plant ifanc o 3–5+ oed, a defnyddir y term ‘blynyddoedd cynnar’ i’r un diben.
Gweithdy Prezi gan Dyddgu Hywel
Mae’r gweithdy hwn gan Dyddgu Hywel, darlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cynnwys gwybodaeth a hyfforddiant syml cam-wrth-gam i ddefnyddio’r meddalwedd cyflwyno Prezi. Beth yw Prezi? Prezi yw meddalwedd cyflwyno sydd yn ymgysylltu gyda myfyrwyr yn y dosbarth. Mae’n ddull arloesol o gyflwyno gwahanol bynciau trwy ddefnyddio symudiad a gofod i ddod â’ch syniadau yn fyw, a’ch gwneud yn gyflwynydd unigryw. Cynnwys y sesiwn Beth yw Prezi? Rhagflas Prezi Hyfforddiant Prezi Manteision Prezi
E-lawlyfrau Syniadau Gwleidyddiaeth
Adnoddau digidol gan Elin Royles a Huw Lewis sy'n cyflwyno syniadau, cysyniadau ac egwyddorion creiddiol Gwleidyddiaeth. Cynhyrchwyd yr adnoddau hyn er mwyn cynorthwyo disgyblion ac athrawon sy’n astudio cwrs Safon Uwch ac Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth CBAC ac i ddarparu gwybodaeth gychwynnol ar gyfer myfyrwyr is-raddedig. Mae E-lawlyfr 1: Syniadau Hanfodol i Ddeall Systemau Gwleidyddol yn cynnwys wyth adnodd astudio unigol a phedwar fideo sy’n cyd-fynd ag agweddau ar fanyleb Uned 2 y cwrs Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, sef ‘Byw a Chyfranogi mewn Democratiaeth.’ Mae E-lawlyfr 2: Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol yn cynnwys wyth adnodd astudio unigol a phedwar fideo sy’n cyd-fynd ag agweddau ar fanyleb Uned 3 y cwrs Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, sef ‘Cysyniadau a Damcaniaethau Gwleidyddol.’ Cynhyrchwyd y deunydd hwn gan Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Ariannwyd y prosiect o Gronfa Datblygiadau Strategol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ap Hanfodion Dysgu Dwyieithog
Mae’r ap hwn yn helpu athrawon i roi’r cyfle i bawb i ddefnyddio eu dewis iaith yn yr ystafell ddosbarth.
Cwrs byr: Datblygu strategaethau astudio effeithiol
Dolen i gwrs byr 10 awr ar wefan OpenLearn Cymru gan y Brifysgol Agored. Gall dod i wybod sut rydych yn dysgu eich helpu i ddatblygu technegau astudio sy'n gweddu i'ch anghenion a'r dasg dan sylw. Bydd gwella eich strategaethau astudio yn arbed amser i chi, yn ysgafnhau eich baich gwaith ac yn helpu i wella ansawdd eich gwaith. Byddwch yn dysgu technegau ac yn datblygu sgiliau a fydd yn eich helpu gyda'ch astudiaethau.
Cwrs byr: Darllen a Gwneud Nodiadau
Dolen i gwrs byr 10 awr ar wefan OpenLearn Cymru gan y Brifysgol Agored. Mae darllen, gwrando a meddwl fel rhan o'ch astudiaeth yn aml yn mynd law yn llaw â gwneud nodiadau o ryw fath. Fe welwch fod sawl ffordd wahanol o ddarllen a sawl ffordd wahanol o wneud nodyn o rywbeth. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y byddwch yn darllen yn fwy neu'n llai am rywbeth, neu efallai y byddwch yn canolbwyntio ar un adran benodol o lyfr. Efallai y byddwch yn gwneud nodiadau helaeth, yn nodi ond rhai geiriau yn unig, yn gwneud diagramau neu efallai na fyddwch yn gwneud nodiadau o gwbl. Byddwch yn cael arweiniad ar ba dechnegau i'w defnyddio a phryd i'w defnyddio.
Ap Gofalu Trwy'r Gymraeg
Crewyd yr ap hwn ar gyfer Prifysgol Abertawe a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i helpu myfyrwyr i fagu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle neu wrth astudio. Mae'r eirfa wedi ei rhannu i 21 o adrannau gan gynnwys Ososteopathi, Bydwreigiaeth a Thechnoleg Glinigol. Gall defnyddwyr ddewis cuddio neu ddangos y Saesneg ar y tudalennau wrth i'w Cymraeg wella. Dyluniwyd, datblygwyd a recordiwyd sain yr ap gan Galactig. Y gyflwynwraig Nia Parry leisiodd yr ap.
Prysor Mason Davies ac Emily Parry, 'Pan fo addysgwyr yn ddysgwyr – safbwyntiau ar hyder ymarferwyr ail iaith ...
Mae 'Datblygu’r Gymraeg' yn y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru yn faes y rhoddir cryn dipyn o bwyslais arno, ac felly mae’r erthygl hon yn rhoi sylw i safbwyntiau ymarferwyr sydd yn siarad Cymraeg fel ail iaith ac sydd yn addysgu’r Gymraeg fel ail iaith yn y Cyfnod Sylfaen. Gwerthusir dyfnder yr heriau y teimlant y maent yn eu hwynebu wrth gyflwyno iaith nad ydynt yn gwbl hyderus ynddi, gan ystyried rhai o’r goblygiadau a amlygir gan eu safbwyntiau. Rhoddir ystyriaeth i hyder ymarferwyr yng nghyd-destun polisi a chwricwlwm Cymru ac amlygir bod yr elfen hon o addysg braidd yn anweledig yng nghyd-destun ystyriaethau datblygu’r Gymraeg, a’i bod yn effeithio ar niferoedd sylweddol o ddisgyblion Cyfnod Sylfaen yng Nghymru. Awgrymir bod yr agwedd hon ar y Cyfnod Sylfaen yn un sydd angen ystyriaeth a sylw buan.
Holiadur Pryder Perfformiad
Crewyd yr adnodd hwn er mwyn darparu cefnogaeth seicoleg chwaraeon cyfrwng Cymraeg i athletwyr sy'n siarad Cymraeg. Y nod yw deall yr ymateb pryder perfformiad yn llawn.