Mae’r Cyfnod Sylfaen (CS) yn gwricwlwm statudol ym mhob ysgol gynradd y wladwriaeth yng Nghymru ers 2008. Mae’r bedagogeg yn ddatblygiadol, ac yn annog y plant i ymddiddori drwy ddysgu drwy brofiadau. Mae’r papur hwn yn rhan o werthusiad ehangach o’r CS a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2012, ac mae’n ystyried un o’r saith maes dysgu sy’n rhan o’r CS; ‘Datblygu’r Gymraeg’. Darganfu nad oedd gwahaniaeth arwyddocaol yn sut oedd y CS yn cael ei weithredu mewn ysgolion a lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Ond, yn gyffredinol, datblygir y Gymraeg yn ffurfiol mewn gweithgareddau boreol ar gyfer y dosbarth cyfan (e.e. amser cylch) sy’n mynd yn groes i weledigaeth Llywodraeth Cymru o gydblethu’r iaith ym mhob agwedd ar y CS. Mae’r papur yn ystyried sut mae ysgolion a lleoliadau yn mynd ati i ddatblygu unigolion dwyieithog, yn ôl gobeithion polisi Llywodraeth Cymru.
Mirain Rhys, 'Y Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen' (2018)
Manon Jones, 'Seiliau seicolegol darllen yn rhugl: adolygiad' (2014)
Mae deugain mlynedd o waith ymchwil wedi nodi sawl un o'r prosesau seicolegol sy'n sail i'r gallu i ddarllen. Serch hynny, tan yn ddiweddar, bu seiliau gwybyddol (cognitive) rhuglder darllen yn gymharol anhysbys. Yn yr adolygiad hwn, rhoddir disgrifiad o ruglder darllen fel ffenomen wybyddol a niwrofiolegol, gan gynnwys y gwaith ymchwil a wnaed i ddeall y broses hon. Mae fy ngwaith i a'm cyd-weithwyr yn canolbwyntio ar y maes hwn, ac amlinellaf ein prif ganfyddiadau hyd yma. Deuir â'r gwaith i'w derfyn drwy amlinellu goblygiadau'r gwaith mewn perthynas â deall rhuglder darllen yn achos oedolion medrus ynghyd â'r rhai sydd â'r cyflwr dyslecsia. Manon Jones, 'Seiliau seicolegol darllen yn rhugl: adolygiad', Gwerddon, 18, Medi 2014, 41-54.
Llawlyfr Creadigedd yn yr ysgol gynradd
Datblygwyd y llawlyfr ar-lein yma gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Mae’n cyflwyno a thrafod prif elfennau creadigrwydd yn yr ysgol gynradd ar gyfer ymarferwyr y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Mae’r llawlyfr yn ymateb i ddatblygiadau polisi Llywodraeth Cynlluniad Cymru ac yn cynnig arweiniad ar sut i baratoi, creu, cynllunio, datblygu, trefnu ac asesu gweithgareddau dysgu ‘creadigedd’ o ansawdd uchel.
Jessica J. Clapham, 'Dadansoddiad o ddefnydd athrawon dan hyfforddiant o gyfnewid cod mewn dosbarth uwchradd d...
Mae'r llenyddiaeth yn cynnwys sawl astudiaeth ar gyfnewid cod. Mae'r dull cymdeithasol-ddiwylliannol o astudio rhyngweithio yn y dosbarth fel y'i disgrifir gan Mercer (2000) yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o ddisgwrs dosbarthiadau iaith. Nododd Mercer nifer o dechnegau iaith a ddefnyddir gan athrawon. Mae'r erthygl hon yn dadansoddi safbwyntiau athrawon dan hyfforddiant ar gyfnewid cod fel ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Yn yr astudiaeth, cynhaliwyd archwiliad o ymarfer dosbarth dwy athrawes dan hyfforddiant oedd yn ddwyieithog mewn Cymraeg a Saesneg. Arsylwyd y ddwy a chofnodwyd eu haddysgu. Hefyd cynhaliwyd cyfweliadau gyda'r athrawon dan hyfforddiant er mwyn eu holi am eu hagweddau at y defnydd o'r iaith gyntaf mewn dosbarth uwchradd lle mae'r Saesneg yn ail iaith. Dadansoddir y data a gasglwyd gan ddefnyddio dulliau dadansoddi disgwrs beirniadol. Ystyrir yn benodol i ba raddau yr oedd yr athrawon dan hyfforddiant yn llwyddo i ddysgu mewn modd oedd o fewn cyrraedd y disgyblion dwyieithog o dan eu gofal. Roedd yr achlysuron pan oedd yr athrawon yn newid o'r Saesneg i'r Gymraeg am funud i weld yn cyfateb i'r swyddogaethau cyfnewid cod a nodwyd gan Camilleri. Mae'r cyfnewid cod yn awgrymu ffordd gyfreithlon o ddefnyddio adnoddau iaith cyffredin i sgaffaldio dysgu disgyblion. Jessica J. Clapham, 'Dadansoddiad o ddefnydd athrawon dan hyfforddiant o gyfnewid cod mewn dosbarth uwchradd dwyieithog: Achos o Gymru', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 158-95.
Hywel Jones, 'Goblygiadau newid ym mhroffeil oedran siaradwyr Cymraeg' (2007)
Mae dadansoddiadau Aitchison a Carter o'r Cyfrifiad dros y degawdau diwethaf wedi llwyddo i sicrhau bod y prif dueddiadau o ran dosbarthiad gofodol y Gymraeg yn hysbys i bawb sydd â diddordeb yn nyfodol yr iaith. Serch hynny, mae rhai agweddau yn dal i fod heb eu harchwilio. Ymgais yw'r papur hwn i roi golwg wahanol ar y tueddiadau drwy gyflwyno nifer o ddadansoddiadau newydd. Yn y rhan gyntaf, archwilir cynhyrchiad iaith rhwng 1991 a 2001 sydd yn effaith y system addysg. Dangosir bod cyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Ngwent wedi arwain at y newidiadau mwyaf. Yn yr ail ran, edrychir ar ddosbarthiad daearyddol siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yr ardaloedd hynny lle gallai mwy na 70% siarad Cymraeg. Cyflwynir rhai mynegeion er mwyn mesur y sefyllfa ac esbonio arwyddocâd yr ardaloedd hynny. Yn olaf, trafodir goblygiadau dosbarthiad gofodol (neu rwydwaith cymdeithasol) i ddefnydd y Gymraeg drwy ystyried damcaniaeth debygolrwydd fach. Hywel Jones, 'Goblygiadau newid ym mhroffeil oedran siaradwyr Cymraeg', Gwerddon, 2, Hydref 2007, 12-34.
Gloywi Iaith
Cyfres o adnoddau hylaw i loywi iaith ar gyrsiau hyfforddi cychwynnol athrawon. Gall y deunydd gael ei ddefnyddio gan athrawon newydd gymhwyso ac athrawon profiadol i wirio adnoddau a chynlluniau gwersi.
Enlli Thomas, 'Natur prosesau caffael iaith gan blant: Marcio cenedl enwau yn y Gymraeg' (2007)
Mae ymchwil ynghylch caffael cenedl ramadegol wedi dangos, mewn nifer o ieithoedd, fod plant yn cael meistrolaeth ar genedl yn gynnar. Yn aml, yn yr ieithoedd hyn, mae marcio cenedl yn eithaf amlwg ac mae'n cynnig cyfatebiaeth un-i-un glir rhwng marciwr a'r genedl a godiwyd. Yn y Gymraeg, fodd bynnag, mae marcio cenedl yn fwy cymhleth. Mae'n cael ei marcio drwy dreigladau, sef cyfres o newidiadau morffo- ffonolegol sy'n effeithio ar gytseiniaid cyntaf geiriau, ac mae'r mapio rhwng treiglad a chenedl yn eithaf anhryloyw. Defnyddir dau fath o dreiglad i farcio cenedl fenywaidd: mae enwau benywaidd yn cael eu newid gan y fannod benodol ac mae ansoddeiriau sy'n dilyn enwau benywaidd yn cael eu treiglo'n feddal, ac mae cenedl fenywaidd yr ansoddair meddiannol 'ei' yn cael ei marcio drwy dreiglo'r enw a newidir yn llaes. Mae'r papur hwn yn cyflwyno dwy astudiaeth sy'n archwilio meistrolaeth gynhyrchiol plant ac oedolion ar genedl fel y'i mynegir drwy dreiglo enwau a newidir gan y fannod benodol, ac ansoddeiriau yn newid enwau. Gwahoddwyd plant, rhwng 4½ a 9 oed, ac oedolion i gymryd rhan yn yr astudiaethau. Yn gyntaf, cynhaliwyd astudiaeth led-naturiolaidd i gael gwybodaeth am ddefnydd y siaradwyr o farcio cenedl. Yna, defnyddiwyd gweithdrefn Cloze i gymell y siaradwyr i greu ffurfiau gwrywaidd a benywaidd, gyda geiriau go iawn a ffurfiau disynnwyr, mewn amrywiaeth o gyd-destunau ieithyddol. Roedd rhai o'r cyd-destunau hyn yn rhoi awgrym o statws cenedl, ond nid oedd rhai eraill. Roedd y data a gafwyd yn dangos bod caffael y system genedl Gymraeg yn broses hirfaith, ac nad yw plant wedi meistroli'r system hyd yn oed erbyn 9 oed. Mae siaradwyr Cymraeg, hyd yn oed pan maent yn oedolion, yn rhoi ychydig o sylw, neu ddim, i'r awgrymiadau posibl sy'n bresennol yn y mewnbwn. Mae'r canlyniadau yn awgrymu, pan fo gan iaith system genedl gymhleth sydd wedi'i marcio gan brosesau morffo-ffonolegol anhryloyw, fod y cwrs datblygu yn faith ac yn amrywiol. Enlli Thomas, 'Natur prosesau caffael iaith gan blant: Marcio cenedl enwau yn y Gymraeg', Gwerddon, 1, Ebrill 2007, 53-81.
Cefnogi Pob Plentyn (gol. Nanna Ryder)
Nod y gyfrol hon yw cyflwyno rhai pynciau perthnasol mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig i fyfyrwyr sydd yn astudio Graddau Sylfaen yn y maes addysg a gofal. Nid canllaw arfer dda a geir yma ond yn hytrach fraslun o bolisïau, athroniaeth ac ymarfer cyfredol. Caiff pynciau penodol eu trafod ym mhob pennod ac mae’r rhain yn amrywio o ddatblygiad, hawliau, lles a diogelu plant i gynhwysiant, Anghenion Dysgu Ychwanegol, a chwarae a chreadigrwydd.
Bryn Jones, '"Amrywiaeth Caleidosgopig": Addysg ddwyieithog yng Nghymru heddiw' (2010)
Mae addysg ddwyieithog (h.y. Cymraeg a Saesneg) yn digwydd yn gyffredin yng Nghymru. Erbyn hyn, ceir amrywiaeth sylweddol yn narpariaeth addysg ddwyieithog ac, fel yn achos ieithoedd lleiafrifol mewn rhannau eraill o Ewrop, mae addysg ddwyieithog yng Nghymru yn gyfuniad o addysg mewn treftadaeth / cynhaliaeth iaith (Cymraeg iaith 1af) ac addysg drochi (Cymraeg 2il iaith). Gan fod addysg ddwyieithog ledled Cymru wedi’i nodweddu gan "amrywiaeth caleidosgopig" (Baker 1993:15), mae athrawon yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau addysgu ac addysgu dwyieithog. Yn dilyn cyfweliadau / arsylwadau mewn ysgolion uwchradd a chynradd dwyieithog ledled Cymru yn ystod 2007-2009, bydd y papur hwn yn esbonio nodau a methodoleg y prosiect ymchwil dan sylw, cyn symud ymlaen i drafod rhai canfyddiadau cychwynnol. Ceir cyfeiriad penodol at ddefnydd cydamserol, pwrpasol o iaith, gan fod athrawon yn defnyddio’r ddwy iaith ar yr un pryd yn ystod gwersi. Deuir i’r casgliad bod angen ymchwil bellach i ‘amrywiaeth caleidosgopig’ arferion addysg ddwyieithog mewn ysgolion yng Nghymru, yn ogystal â dadansoddiad a gwerthusiad o’r modiwlau addysgu dwyieithog yr arsylwyd arnynt.
Bagloriaeth Cymru
Bwriad y ddau becyn yma yw rhoi cymorth i athrawon i gyflwyno’r elfen Cymru, Ewrop a’r Byd o Fagloriaeth Cymru. Trefnwyd y pecynau o gwmpas themâu gwahanol, a phob un yn edrych ar le Cymru yn Ewrop ac yn y byd mewn modd bywiog a chyffrous.
Adroddiad Swan-Linx Cymru ar iechyd a lles plant ysgol
Dyma adroddiad sy'n deillio o waith Prifysgol Abertawe ar brosiect Swan-Linx, prosiect iechyd a ffitrwydd sydd â'r nod o ymchwilio i iechyd a lles plant ysgol ym mlynyddoedd 5 a 6 (9-11 oed). Mae'r adroddiad yn seiliedig ar ddata a gasglwyd drwy gyfrwng: Arolwg iechyd ar y we o'r enw CHAT (Child Health and Activity Tool) sy'n gofyn cwestiynau am ymddygiadau iechyd gwahanol gan gynnwys diet, gweithgaredd corfforol, cwsg a lles. Diwrnod Hwyl Ffitrwydd, lle cafodd BMI (Mynegai Màs y Corff), ffitrwydd aerobig, cyflymder, cryfder, ystwythder, p?er, a hyblygrwydd yn cael eu mesur. Ariannwyd y gwaith cyfrwng Cymraeg gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Sgiliau Iaith i Athrawon
Mae'r adnodd rhyngweithiol hwn yn cynnwys cyfres o adnoddau a ddatblygwyd i unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu sgiliau iaith ar gyfer y dosbarth. Mae'r adnoddau i'w cael yn llawn ar-lein, neu gellir lawrlwytho'r ap i'ch dyfais symudol er mwyn cael blas arnynt.