Hanner canrif yn ôl, ym 1966, aeth y ffotograffydd o Ruddlan, Philip Jones Griffiths, i Fietnam am y tro cyntaf. Byddai'r profiad yn llywio ei yrfa. Tynnodd Griffiths luniau dirdynnol o effaith ddinistriol rhyfel, nid yn unig ar Fietnamiaid diniwed, ond hefyd ar y milwyr. Newidiodd ei lyfr o luniau du a gwyn, VIETNAM INC. ym 1971, ein dealltwriaeth am byth o'r gwrthdaro gwaedlyd. Gyda chyfweliadau gan y rhai oedd agosaf ato; teulu a ffrindiau a chyd-weithwyr yn cynnwys John Pilger, Don McCullin a'r Athro Noam Chomsky, mae'r rhaglen ddogfen arbennig hon yn bwrw golwg ar fywyd y dyngarwr, a'r etifeddiaeth a adawodd ar ei ôl. Yn glasuron y byd ffotonewyddiaduraeth, mae ei luniau mor bwerus heddiw ag erioed. Rondo, 2016. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel Fietnam (2016)
Pobl y Wladfa (1991)
Sut siap sydd ar y Gymraeg ym Mhatagonia 125 mlynedd wedi i'r Mimosa glanio? Gwyn Llewelyn sy'n yn ymweld adeg eisteddfod y Wladfa yn Nhrelew. Uned Hel Straeon, 1991. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Portreadau (1994-1998)
Portreadau o rai o lenorion amlycaf Cymru. Ffilmiau'r Bont, 1994-98. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Priodas Gwen (1992)
Mae'r paratoi drosodd, mwy neu lai, a'r diwrnod mawr wedi cyrraedd. Faint o obaith sydd i'r par ifanc gael priodas dda yn wyneb tystiolaeth yr oes sydd ohoni? Ffilmiau Bryngwyn, 1992. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Prosiect y Plygain (2009)
Prosiect diweddaraf Rhys Mwyn, y rheolwr cerddorol a'r cyn bync, sy'n mynd ag o yn ôl i'w wreiddiau yn Sir Drefaldwyn wrth iddo edrych ar yr hen draddodiad o ganu carolau Plygain. Ei fwriad yw trefnu noson Blygain fodern gyda cherddorion gwerin cyfoes Cymraeg. Sut groeso gaiff syniad Rhys o foderneiddio'r hen draddodiad, ac a bydd o'n medru llwyfannu ei noson? Cwmni Da, 2009. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Prydeindod – J. R. Jones
Trafodaeth gan yr athronydd J. R. Jones am hunaniaeth y Cymry Cymraeg a'u perthynas â Phrydain a Phrydeindod.
Pwy sy'n Gwisgo'r Trowsus? (2014)
Mae'r rhaglen hon yn edrych ar hanes pedair merch yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yng ngwesty'r Cambrian yn Aberystwyth mae Dafydd a Gareth Davies yn trafod eu modryb Jesse. Roedd Jesse yn nyrsio yn ystod y rhyfel ym Manceinion. Mae'r ddau wedi casglu lluniau ohoni ac wedi cadw ei llyfr lloffion. Mae'r hanesydd Catrin Stevens yn safle ffatri arfau Pen-bre gyda Beth Leyshon. Roedd perthynas i Beth - Olwen Leyshon - yn gweithio yn y ffatri. Mae Catrin yn trafod gwaith peryglus y munitionettes, ac angladd fawr dwy o'r merched yn Abertawe. Catrin hefyd sy'n holi Meic Haines o Abertawe am ei fam-gu, Edith. Hi oedd un o'r merched cyntaf i gael swydd clippie ar y bysiau yn Abertawe. Mae'r ddau yn cyfarfod yn amgueddfa fysiau Abertawe i drafod yr hanes. Yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth mae Dr Dinah Evans yn trafod Olwen Carey Evans gydag aelod o'r teulu - Manon. Roedd Olwen yn perthyn i'r VADs ac aeth i weithio yn Ffrainc. Yn y Llyfrgell mae lluniau a dyddiadur Olwen o'r cyfnod. Mae'r Dr Graham Jones yn rhoi hanes priodas Olwen yn ystod y rhyfel. Elen Phillips sydd yn sôn am hanes dillad cyn 1914, dyfodiad y trowsus a'r hyn ddigwyddodd i ffasiwn merched ar ddiwedd y rhyfel. Boom Cymru, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Rhaglen Ffau'r Ddraig Aberystwyth
Cystadleuaeth i ddisgyblion busnes blwyddyn 12 ac 13, gan ddilyn fformat y rhaglen deledu boblogaidd Dragons’ Den. Bydd angen mewngofnodi i weld yr adnoddau yma.
Rheolaeth Strategol
Mae'r sleidiau yma'n addas ar gyfer modiwl Rheolaeth Strategol, ar lefel 5/6. Maent yn cyflwyno'r prif offer ar gyfer dadansoddi sefydliadau yn fewnol ac yn allanol. Hefyd, maent yn cynnwys y prif themau sydd angen eu hystried er mwyn cynhyrchu opsiynau strategol addas i amrediad o sefydliadau. Datblygwyd y deunyddiau yma gan Sian Harris, darlithydd Rheolaeth a Busnes y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Rhosyn a Rhith (1987)
Ffilm ysgafn sydd wedi'i lleoli yn y Cymoedd. Mae'n adrodd hanes cynllun craff un dyn i wneud arian. Mae Trefor yn gaeth i'w fagwraeth dlawd yn un o gymoedd dirwasgedig Cymru. Pan fo sinema'r pentref yn cau mae'r taflunydd di-waith mewn cyfyngder ariannol. I oresgyn y broblem, benthyca Trefor arian oddi wrth Eli, ar yr amod y bydd yn talu am ei hangladd os bydd Eli yn marw cyn i Trefor ei had-dalu. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Rhyfel Cartref America (HTC-2156/3156)
Darlithoedd i gydfynd â modiwl (2016) Bydd angen mewngofnodi i gael mynediad i'r darlithoedd yma.
Rhyfeloedd y Ganrif
Dyma'r ganrif fwyaf gwaedlyd a rhyfelgar yn hanes dynoliaeth. Y ganrif a welodd dau ryfel byd. Ac er bod heddychiaeth yn draddodiad Cymreig nodedig, mae'r Cymry hefyd wedi profi rhyfel ac wedi cyfrannu'n helaeth i'r frwydro. Yn wir does dim yn ystod y ganrif sy'n tanlinellu'r cymhlethdod wrth ystyried y cysylltiad rhwng Cymru a Prydain a Chymreictod a Phrydeindod yn fwy amlwg na rhyfel. Yr Athro R Merfyn Jones sy'n cyflwyno. Ffilmiau'r Bont, 1999. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.