Mae'r cerddor, cyfansoddwr a'r bardd Geraint Jarman wedi cael ei ddylanwadu'n fawr gan gerddoriaeth y Caribî - yn enwedig gwaith Bob Marley. Yn y rhaglen hon, mae Geraint yn mynd ar bererindod i Jamaica i ddarganfod mwy am y dyn a'i fiwsig sydd yn golygu gymaint iddo. Wrth siarad â chyfeillion yr ynys, mae'n dod i adnabod Bob Marley fel dyn, nid yr eicon arferol. Yr ydym yn holi nifer o gerddorion Cymraeg am ddylanwad bywyd a cherddoriaeth Bob Marley arnynt hwy. Uchafbwynt y rhaglen yw Geraint yn recordio teyrnged i'r dyn ei hun, 'Gerddi Babylon' yn yr un stiwdio a arferai Bob ei ddefnyddio, Tuff Gong. Acme, 2005. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Geraint Jarman a Bob Marley (2005)
Gerallt (2013)
Rhaglen ddogfen onest a threiddgar o'r Prifardd Gerallt Lloyd Owen sy'n codi'r llen ar gymeriad preifat ac enigmatig a ysgrifennodd rhai o gerddi enwocaf Cymru ac a fu'n Feuryn Talwrn y Beirdd am 30 mlynedd. Drwy gyfres o gyfweliadau estynedig, mynediad ecsgliwsif i'w gartref ynghyd â chyfweliadau gydag aelodau o'i deulu, mae'r ffilm-ddogfen hon yn cyflwyno ochr arall i'r persona cyhoeddus ac yn datgelu ei angerdd, ei ofnau a'i ellyllon. Gyda darlleniadau o rai o'i gerddi pwysicaf, mae'r rhaglen hon yn treiddio'n ddyfnach i'r themâu sydd wedi cydio ynddo gydol ei oes. Cwmni Da, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Graffiti (pennod 1) (1990)
Twm Morys a Llinos Ann sy'n cyflwyno. Mae'r rhaglen yn cynnwys yr eitemau canlynol: agoriad arddangosfa'r artist Keith Andrew yn Amgueddfa'r Gogledd, Llanberis; Steve Eaves yn canu 'Tir Neb'; Bardd yr Wythnos; Geraint Tilsley yn adrodd 'Muriau'; eitem ar y cerflunydd a'r llenor, Jonah Jones, a Bob Delyn a'r Ebillion yn perfformio 'Pethe'. HTV Cymru, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gruffydd Jones et al., 'Rhododendron ponticum: Hanes ei gyflwyno a'i ymlediad yng Nghymru, y bygythiad i fioam...
Llwyn bytholwyrdd coediog yw Rhododendron ponticum L., sy'n aelod o deulu'r Ericaceae. Daw yn wreiddiol o Sbaen, Mynyddoedd y Cawcasws ac arfordir y Môr Du. Cafodd ei gyflwyno i Brydain yn y ddeunawfed ganrif. Ers hynny, fodd bynnag, mae wedi datblygu i fod yn un o rywogaethau ymledol mwyaf niweidiol Prydain, gan achosi difrod ecolegol ac economaidd sylweddol. Bydd yr erthygl hon yn trafod hanes R. ponticum yng Nghymru, gan ystyried y ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol sydd wedi cyfrannu at ei lwyddiant yma. Disgrifir y sefyllfa bresennol yng Nghymru, gan gynnwys y mathau o niwed y mae'n eu hachosi, yn ogystal â'r ymdrechion i reoli ei ymlediad. I gloi, bydd yr erthygl yn edrych ar rai o heriau amgylcheddol y dyfodol, a sut y gall y rhain ddylanwadu ar ymlediad R. ponticum. Gruffydd Jones, John Scullion, Ana Winters, Rhys Owen, John Ratcliffe, Doug Oliver a Dylan Gwynn-Jones, &lsquoRhododendron ponticum: Hanes ei gyflwyno a'i ymlediad yng Nghymru, y bygythiad i fioamrywiaeth a'r dyfodol', Gwerddon, 27, Hydref 2018, 20-38.
Gwaed Gwirion (2014)
Gwaed Gwirion gan Emyr Jones yw'r brif nofel yn y Gymraeg am y Rhyfel Byd Cyntaf. Ers ei chyhoeddi ym 1965, mae wedi ennill clod gan feirniaid a gwybodusion fel campwaith a chlasur a chafodd y gwaith ei gydnabod gan yr Academi Gymreig gan ennill gwobr Griffith John Williams am nofel Gymraeg deilyngaf y flwyddyn. Yn y rhaglen ddogfen hon, cawn hanes a chefndir y gyfrol a'i hawdur wrth i'r Athro Gerwyn Wiliams ein tywys ar daith gan ddilyn y cymeriadau trwy feysydd brwydro Fflandrys a Ffrainc. Bydd yn taflu goleuni newydd ar amgylchiadau creu'r gwaith ac yn datgelu gwybodaeth amdani a fydd yn creu cryn gynnwrf yn y byd llenyddol yng Nghymru. Ffranc, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gwaedd yng Nghymru – J. R. Jones
Casgliad o ysgrifau gan yr athronydd J. R. Jones yn trafod parhad yr iaith Gymraeg a hunaniaeth Gymreig yn wyneb Prydeiniad y gymdeithas, yr Arwisgiad a dadfeiliad crefydd.
Atgofion Gohebydd o Gymro (1983)
Rhaglen am David Raymond, yn enedigol o Gydweli, ond sydd bellach wedi ymgartrefu ym Mharis. Gohebydd tramor ydoedd, yn gweithio i'r Daily Mail, Raynolds News a'r Daily Mirror. Glansevin, 1983.
Athronyddu am Grefydd – Dewi Z. Phillips
Casgliad o ysgrifau ar athroniaeth crefydd yn ymateb i ddisgwrs y cyfnod ar ystyr bodolaeth ac argyfwng cymdeithas sy'n ymwrthod â chrefydd gristnogol a bodolaeth Duw. Trafodir natur yr iaith a geir mewn credoau crefyddol a'n dealltwriaeth ohoni a thrafodir theorïau ynglŷn â thragwyddoldeb.
Be Ddywedodd Gerallt Gymro am ei Gyfoeswyr – Huw Pryce a Glenda Carr
Roedd Gerallt Gymro yn sylwebydd craff ac yn awdur dysgedig a thoreithiog a ysgrifennodd ar amrywiaeth o bynciau. Dyma gasgliad difyr o sylwadau ganddo am ei gyfoeswyr sy'n darlunio'r cyfnod ac yn dweud llawer am Gerallt ei hun yn ogystal.
Be Ddywedodd Marx I – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan W. J. Rees. Mae'r casgliad hwn yn edrych ar syniadau'r athronydd chwyldroadol ar gymdeithas a chymdeithaseg. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Marx II – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Yma ceir disgrifiadau gan Marx ar wahanol fathau o gymdeithas, e.e. cymdeithasau cyntefig, ffiwdal, cyfalafol. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Meyerhold – W. Gareth Jones a Mona Morris
Y mae Fsefolod Meyerhold yn ffigwr canolog yn hanes datblygiad theatr yn yr ugeinfed ganrif. Datblygodd theatr gorfforol a gwerinol oedd yn chwyldroi confensiynau. Yn y gyfrol hon ceir detholiad o lyfr Meyerhold, Am y Theatr, wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg.