Daeth rhyfel i Gymru ar y 3ydd o Fedi 1939 am yr ail dro mewn llai na chwarter canrif. Mae'r gyfres hon yn dangos sut y gwnaeth gwahanol agweddau ar y rhyfel effeithio bywydau'r Cymry. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Yr Alwad (1988)
Athrawes ifanc sydd wedi penderfynu protestio yn gwrthdaro yn erbyn cyfraith a threfn yn feunyddiol. Pan aflonyddir arni gan fygythiadau treisiol at bwy all hi droi? Ym mhwy all hi ymddiried? Lle mae tynnu'r llinell rhwng erlid a gwarchod? Gyda Betsan Llwyd a Meic Povey. Ffilmiau Bryngwyn, 1988. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Milwr Bychan (1987)
Ffilm rymus wedi ei lleoli yng Ngogledd Iwerddon ac wedi ei chyfarwyddo gan Karl Francis. Richard Lynch sy'n chwarae rhan Private William Thomas, sy'n cael ei gyhuddo o lofruddiaeth gan lywodraeth sydd eisiau cadw'r achos dan glo. Gyda Dafydd Hywel a Bernard Latham. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Sylfeini'r Gyfraith Gyhoeddus – Keith Bush
E-lyfr cynhwysfawr yn egluro Cyfraith Gyhoeddus a Chyfraith Cyfansoddiadol Cymru a'r DU. Mae'r fersiwn diwygiedig hwn o'r gyfrol wreiddiol a gyhoeddwyd yn 2016, yn adlewyrchu'r newidiadau pwysig a ddaeth yn sgil Deddf Cymru 2017, yn ogystal ag effaith 'Brexit' ar ddeddfwriaeth ac ar ddatganoli. Adnodd angenrheidiol i fyfyrwyr y gyfraith yng Nghymru a chyfrol anhepgor i unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes. Cyhoeddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2021.
America Gaeth a'r Cymry (2006)
Dr Jerry Hunter sy'n olrhain hanes cysylltiadau'r Cymry â chaethwasiaeth yn yr UDA rhwng 1619 a 1865. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Un Nos Ola' Leuad (1991)
Addasiad ffilm gan Endaf Emlyn a'r diweddar Gwenlyn Parry o nofel Caradog Prichard. Wedi'i lleoli yn ardal y chwareli yn Arfon, mae 'r ffilm yn ymdriniaeth gref o rai o themâu mwyaf egr bywyd: marwolaeth, diniweidrwydd coll a gwallgofrwydd. Wrth i'r dyn di-enw (Dyfan Roberts) grwydro bro ei febyd yn ystod 'un nos ola leuad' y teitl cyfyd atgofion arswydus ambrofiadau ysgeler ac anesboniadwy'r gorffennol. Stori hen ŵr am ei blentyndod tra'n byw gyda'i fam sydd yn weddw ac yn golchi dillad i ddod â dau ben llinyn ynghyd. Mae harddwch a hagrwch yn rhan o berthynas y fam a'i mab. Er iddi fod yn hael ei chariad tuag ato, eto y mae bwlch rhyngddynt, agendor a erys er gwaetha holl ymdrechion y llanc i'w pontio. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Merêd (2014)
Portread tyner o'r diweddar hanesydd canu gwerin, yr athronydd a'r cynhyrchydd adloniant o Danygrisiau, y Dr Meredydd Evans a fu farw flwyddyn yn ôl i heddiw (ar 21 Chwefror 2015). Drwy gyfres o gyfweliadau estynedig yn ei gartref diarffordd yng Nghwm Ystwyth ynghyd â chyfweliadau gyda chyfeillion, edmygwyr ac aelodau o'i deulu, dyma ddarlun o ddyn sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino dros hawliau i Gymru a'r Gymraeg dros y blynyddoedd ac sydd hefyd wedi cyfrannu'n uniongyrchol tuag at ddiwylliant y wlad. Ag yntau wedi penderfynu'n ddiweddar i ymddeol o lygad y cyhoedd, dyma lwyfan olaf Merêd, lle mae'n edrych yn ôl dros ei fywyd ac yn gwyntyllu ei farn ynglÅ·n â sawl pwnc sy'n agos at ei galon. Cwmni Da, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Oes yn y Wladfa (1985)
Sgwrs ag Elias Garmon Owen a dreuliodd dri chwarter canfrif ym Mhatagonia, a chyfle i rannu rhai o'i brofiadau yno ac yn Nyffryn Conwy ei ieuenctid. ITV Cymru, 1985. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Bywyd Newydd: Rhoi Organau (2015)
Bob blwyddyn yng Nghymru mae tua 30 o bobl yn marw wrth aros am drawsblaniad organ, ond mae rheolau newydd wedi dod i rym yma a fydd yn golygu o bosib y daw mwy o organau ar gael. Yn y rhaglen hon cawn gwrdd â'r rhai sydd yn aros am drawsblaniad, y rhai sydd wedi cael, a'r bobl sydd yn gweithio yn y maes yn cefnogi'r rhoddwyr a'r rhai sydd yn derbyn. Cawn wybod yn union sut beth yw byw ar y rhestr aros, a sut beth yw cael trawsblaniad - a'r cyfle am fywyd newydd. Cwmni Da, 2015. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cymdeithas yr Iaith yn 50 (2012)
Gwion Lewis, y bargyfreithiwr o Fôn, sydd yn cyflwyno rhaglen ddogfen arbennig yn pwyso a mesur hanner canrif o ymgyrchu brwd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, mudiad sydd wedi chwarae rhan bwysig yn llywio hunaniaeth a diwylliant Cymru. Rondo, 2012. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Martha, Jac a Sianco (2008)
Ffilm bwerus, ddramatig sydd yn olrhain blwyddyn ym mywyd y ddau frawd a chwaer, Martha, Jac a Sianco, ar y fferm deuluol, Graig Ddu. Nid oes dim byd wedi newid ar y fferm ers cenedlaethau, ond mae marwolaeth Mami a'r sylweddoliad ei bod wedi gadael y ffarm yn gyfartal rhwng y tri ohonynt yn cychwyn cadwyn o ddigwyddiadau sydd yn arwain at drasiedi. Mae yna elfen gre' o arswyd yn perthyn i'r ffilm wrth i'r brain bigo yn ddidrugaredd ar ffenestri'r fferm berfedd nos, buwch yn cnoi ei thethi ei hun ac effaith y gwenwyn sydd yn cael ei osod i ladd y brain. Yn ôl yr hen goel fe fydd y gwenwyn yn lladd saith gwaith a daw hynny yn wir erbyn diwedd y ffilm. Mae'r ffilm yn seiliedig ar y nofel lwyddiannus gan Caryl Lewis. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Fel 'Stafell (1999)
Drama rymus sy'n portreadu dyn sy'n troi at alcohol wrth geisio ymdopi â marwolaeth ei wraig. Owen Garon sy'n chwarae'r prif rôl. Bracan, 1999. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.