Cantores werin yw Martha sy'n dod yn ôl i ganol harddwch gerwin ei hardal enedigol yng Ngogledd Cymru er mwyn recordio albwm newydd. Ond mae darganfod pwy sy'n byw yn hen gartref y teulu yn ailagor hen glwyf ac yn ei gyrru hi ar berwyl mwy sinistr o lawer. Addasiad o Y Dylluan Wen, a enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn, 1995 i'w hawdures, Angharad Jones. Nant, 1998. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Frongoch: Man Geni'r IRA (2007)
Frongoch ger y Bala yng Ngogledd Cymru oedd y man lle carcharwyd 1,800 o wrthryfelwyr Gwyddelig ar ôl terfysgaeth Pasg 1916. Bathwyd y lle yn 'Brifysgol Gwrthryfel', ac yno casglwyd byddin gwrthryfel Iwerddon, yr IRA, at ei gilydd, ac yno cynlluniwyd ar gyfer y cyfnod gwaedlyd i ddod. Ai dyma gamgymeriad mwyaf Prydain? Cwmni Da, 2007. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cofio Tryweryn (1984)
Yn y rhaglen hon cawn atgofion rhai o hen deuluoedd a thrigolion Tryweryn am y gymdeithas cyn ei chwalu, hanes y cyfnod cyn gadael yr ardal am y tro olaf a'r tristwch a chwerwder o weld adfeilion y pentref. HTV Cymru, 1984. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Frongoch
Ar ôl 10 mlynedd o chwilio am destun drama fyddai’n apelio at y Cymry a’r Gwyddelod mae Llwyfan Gogledd Cymru, trwy gyfrwng llwyfanu traddodiadol a thechnoleg arbrofol, yn perfformio addasiad o lyfr dogfenol Sean O’ Mahonyo ‘Frongoch: University of Revolution.’ Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cofio T. Llew (2009)
Rhaglen deyrnged i'r awdur a'r bardd toreithiog a fu farw'n ddiweddar, gan gynnwys cyfweliad arbennig gyda T. Llew Jones o 2002. Myrddin ap Dafydd gafodd y fraint o'i holi mewn cyfweliad estynedig a oedd yn ymdrin a nifer o agweddau o'i fywyd a'i waith, ac mi fydd hefyd yn un o'r rhai a fydd yn dadansoddi cyfraniad T. Llew Jones i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif. Byddwn hefyd yn dysgu mwy am yr addasiadau ffilm a theledu o'i waith a'i ddylanwad ar blant Cymru heddiw. Cwmni Da, 2009. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Termau Addysg Uwch
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu geiriadur ar-lein i fyfyrwyr a staff i hwyluso'r broses o astudio, addysgu ac ymchwilio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel prifysgol. Mae'r geiriadur yn cynnwys termau technegol o ystod eang o feysydd academaidd, gan gynnwys Bioleg, Cemeg, Chwaraeon, y Gyfraith, Daearyddiaeth, Hanes, Busnes, Seicoleg, Rheoli Coetiroedd, y Diwydiannau Creadigol a Mathemateg a Ffiseg. Caiff ei ehangu'n gyson i gynnwys mwy o dermau a mwy o feysydd pwnc, ac fe nodir i ba faes y mae pob term yn perthyn. Ceir diffiniadau gyda'r termau hyn, gan gynnwys weithiau diagramau, hafaliadau a lluniau i egluro'r term yn well. Yn y diffiniadau, ceir dolenni at dermau eraill cysylltiedig.
Cofio Saunders Lewis (1985)
Gwyn Erfyl yn cyflwyno rhaglen deyrnged i Saunders Lewis. Ar 14 Gorffennaf 1984 bu darlith a chyflwyno cerfluniau i'r Amgueddfa a'r Llyfrgell Genedlaethol. Detholiad o'r noson yw'r rhaglen yma. Ceir cyfweliadau gyda Syr Alun Talfan Davies, Dewi Watcyn Powell, Dr Geraint Gruffydd, Dr Raymond Edwards, Dr Meredydd Evans, Canon Allchin, Ivor Roberts Jones, Emyr Humphreys, yr Esgob Mullins, Emrys James, Syr Alun Oldfield Davies, Maureen Rhys, John Ogwen a Dr Prys Morgan. ITV Cymru, 1985. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tair Chwaer (1996)
Drama wedi'i lleoli yn ardal y Tymbl ger Llanelli sy'n dilyn hynt a helynt tair chwaer sy'n perfformio mewn gr?p canu gwlad. Mae Sharon, Lyn a Janet yn defnyddio'r grwp fel dihangfa o'u bywyd beunyddiol ac mae'r gyfres yn olrhain eu problemau, eu breuddwydion, eu rhywioldeb, eu caru a'u cecru. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cof Patagonia (2002)
Hanes llafar yr ugeinfed ganrif yn Nhalaith y Chubut Ariannin, wedi’i fynegi trwy luniau ac atgofion personol disgynyddion y gwladfawyr cyntaf. Roedd hi’n ganrif a welodd gyffro anhygoel a pheryglon diri, yn enwedig gan y mewnfudwyr rheiny a oedd bellach yn Archentwyr. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Owain Tudur Jones Ar Faes y Gad
Mae'r cyn bêl-droediwr rhyngwladol, Owain Tudur Jones, ar daith i geisio dod i adnabod rhai o bêl-droedwyr rhyngwladol Cymru fu'n rhaid gadael y meysydd pêl-droed er mwyn wynebu brwydr lawer mwy ar faes y gad yn y Rhyfel Mawr. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Chwilio am Mary Vaughan Jones (2013)
Mary Vaughan Jones oedd un o awduron llenyddiaeth plant mwyaf llwyddiannus yr iaith Gymraeg. Creodd gymeriadau cofiadwy wnaeth symbylu cenhedlaethau o blant i ddysgu a mwynhau darllen. Yr enwocaf ohonynt wrth gwrs oedd Sali Mali. Bu farw Mary Vaughan Jones ym 1983 ac o ganlyniad ni fu iddi weld y llwyddiant rhyngwladol a ddaeth i ran Sali Mali drwy gyfrwng rhaglenni teledu ar S4C. Mae pawb yn adnabod ei chymeriadau, ond pwy oedd Mary Vaughan Jones? Lumedia, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ar Drywydd Dic Aberdaron (2007)
Luned Emyr a’r hanesydd celf Peter Lord sydd ar drywydd y gweithiau celf niferus a ysbrydolwyd gan un o’r ffigurau hynotaf yn hanes diwylliant Cymru - yr ieithydd chwedlonol Richard Robert Jones. Mae Peter yn credu fod Dic wedi ysbrydoli mwy o weithiau celf nag unrhyw Gymro neu Gymraes arall gydag eithriad posib David Lloyd George, ond faint o’r gweithiau hyn sydd wedi goroesi heddiw? Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.