"Yr Athro R Merfyn Jones sy’n cyflwyno. Dyma’r ganrif fwyaf gwaedlyd a rhyfelgar yn hanes dynoliaeth. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cymru 2000 Rhyfeloedd y Ganrif
Cymdeithas yr Iaith yn 50 (2012)
Gwion Lewis, y bargyfreithiwr o Fôn, sydd yn cyflwyno rhaglen ddogfen arbennig yn pwyso a mesur hanner canrif o ymgyrchu brwd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, mudiad sydd wedi chwarae rhan bwysig yn llywio hunaniaeth a diwylliant Cymru. Rondo, 2012. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Colli Iaith (1991)
Golwg ar gyflwr yr iaith Gaeleg yn yr Alban, ac ar yr ymgyrch i gael mwy o oriau i'r Galeg trwy gyfrwng y teledu. Dyma adroddiad Agenda ar dristwch a gobaith sy'n wynebu'r iaith Gaeleg yn Yr Alban. Agenda, 1991. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cofio T. Llew (2009)
Rhaglen deyrnged i'r awdur a'r bardd toreithiog a fu farw'n ddiweddar, gan gynnwys cyfweliad arbennig gyda T. Llew Jones o 2002. Myrddin ap Dafydd gafodd y fraint o'i holi mewn cyfweliad estynedig a oedd yn ymdrin a nifer o agweddau o'i fywyd a'i waith, ac mi fydd hefyd yn un o'r rhai a fydd yn dadansoddi cyfraniad T. Llew Jones i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif. Byddwn hefyd yn dysgu mwy am yr addasiadau ffilm a theledu o'i waith a'i ddylanwad ar blant Cymru heddiw. Cwmni Da, 2009. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Chwilio am Mary Vaughan Jones (2013)
Mary Vaughan Jones oedd un o awduron llenyddiaeth plant mwyaf llwyddiannus yr iaith Gymraeg. Creodd gymeriadau cofiadwy wnaeth symbylu cenhedlaethau o blant i ddysgu a mwynhau darllen. Yr enwocaf ohonynt wrth gwrs oedd Sali Mali. Bu farw Mary Vaughan Jones ym 1983 ac o ganlyniad ni fu iddi weld y llwyddiant rhyngwladol a ddaeth i ran Sali Mali drwy gyfrwng rhaglenni teledu ar S4C. Mae pawb yn adnabod ei chymeriadau, ond pwy oedd Mary Vaughan Jones? Lumedia, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
#Fi: Ben a Hollie (2013)
Cyfres ddogfen i bobl ifanc. Mae Ben yn 'sgrifennu blog ar ei wefan er mwyn rhannu ei brofiad o fod â chwaer awtistig. Mae her fawr yn ei wynebu fe a'i chwaer wrth iddyn nhw helpu i drefnu cyngerdd arbennig i godi arian tuag at awtistiaeth. Boom Cymru, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ar Drywydd Dic Aberdaron (2007)
Luned Emyr a’r hanesydd celf Peter Lord sydd ar drywydd y gweithiau celf niferus a ysbrydolwyd gan un o’r ffigurau hynotaf yn hanes diwylliant Cymru - yr ieithydd chwedlonol Richard Robert Jones. Mae Peter yn credu fod Dic wedi ysbrydoli mwy o weithiau celf nag unrhyw Gymro neu Gymraes arall gydag eithriad posib David Lloyd George, ond faint o’r gweithiau hyn sydd wedi goroesi heddiw? Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ar Doriad Gwawr (2005)
Rhaglen ddogfen bwerus sy'n coffau milwyr o Gymru a Chanada a gyhuddwyd o lwfrdra ac am encilio ac a'u saethwyd i farwolaeth ar doriad gwawr. Mae'r rhaglen yn cynnwys un o'r cyfweliadau olaf a phrin gyda Harry Patch, yr olaf o'r milwyr fu'n brwydro yn ffosydd y rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n adrodd rhai o'r atgofion erchyll o'r cyfnod. Boomerang, 2005. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Angharad Tomos (1985)
Rhaglen ddogfen yn dilyn Angharad Tomos wrth iddi weithio gyda grwpiau o blant ysgolion cynradd yn llunio straeon yn cynnwys y plant fel cymeriadau. Bydd Angharad yn trafod ei magwraeth heb deledu ac yn esbonio sut y gwnaeth ei rhieni creadigol feithrin ei hoffder o arlunio a chreu cymeriadau a straeon. Ar ôl gorffen ymarfer dysgu, cafodd gyfle i weithio gyda Chwmni Theatr Mewn Addysg: Cwmni'r Frân Wen, ar ddrama i blant, a chawn weld sut yr oedd cael gweithio gydag awdur yn brofiad difyr i'r theatr a'r actorion. HTV Cymru, 1985. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ailgofio Tryweryn (1997)
Rhaglen sydd fel yn ailystyried ac yn cloriannu'r hyn a ddigwyddodd yn Nhryweryn. Bu cyflwynydd y rhaglen, Dr John Davies, yn protestio yn erbyn y boddi, ac yr oedd yn un o'r rhai a beintiodd y sloganau sydd dal i'w gweld ar hyd a lled Cymru. Teledu Opus, 1997. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Achos Preifat Spiers (1997)
Ym mis Awst 1911, yn ystod Streic Rheilffordd Llanelli, cafodd dau streiciwr ifanc eu saethu'n farw ac anafwyd eraill gan y fyddin. Gwrthododd un milwr, Preifat Harold Spiers, ufuddhau'r gorchymyn i saethu. Mae'r rhaglen hon yn olrhain hanes y driniaeth a gafodd gan y fyddin o ganlyniad i'r weithred hon. Teliesyn, 1997. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Aberfan (2006)
Gyda Rhys Ifans yn lleisio, bydd y rhaglen ddogfen yma'n adrodd hanes trychineb Aberfan dros ddeugain mlynedd yn ôl, gyda chyfweliadau dadlennol gyda'r rhai a oroesodd, athrawon, rhieni, achubwyr, newyddiadurwyr, gwleidyddion a haneswyr yn helpu adrodd hanes a fydd yn aros mewn cof cenedl am byth. ITV Cymru, 2006. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.