Sgwrs banel: Rhannu arferion da ar gyfer rheolwyr canol (addysg bellach a phrentisiaethau) Recordiad o drafodaeth banel gyda phedwar rheolwr maes cwricwlwm Addysg Bellach wrth iddynt drafod eu hymagwedd at gynyddu’r ddarpariaeth ddwyieithog / Gymraeg o fewn eu hadrannau. Maent yn trafod eu harferion da yn ogystal â sut maent wedi goresgyn heriau: Yusuf Ibrahim, Pennaeth Cynorthwyol – Addysg Uwch, Astudiaethau Academaidd, Dysgu Sylfaenol ac Oedolion - Coleg Caerdydd a'r Fro (Cadeirio) Lucy Breckon, Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith (Iechyd, Gofal a Mentrau Masnachol) – Coleg Sir Benfro Rhian Pardoe, Rheolwr Maes Dysgu Iechyd a Gofal – Coleg Gwyr Abertawe Amy Thomson, Rheolwr Maes Rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus – Grŵp Llandrillo Menai Rachel Lewis, Rheolwr Cwricwlwm Adeiladwaith – Coleg Pen y Bont Cynhaliwyd y digwyddiad yn ar y 5ed o Chwefror 2025.
Rhannu arferion da ar gyfer rheolwyr canol
Dysgwrdd TAR AHO
Wyt ti'n astudio'r cwrs TAR AHO? (Tystysgrif Addysg i Raddedigion, Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol). Yn siarad Cymraeg, neu eisiau cynyddu dy hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg? Dalia i fyny gyda'r sesiwn yma! Ymunodd Sgiliaith â ni i roi cyngor ar sut i annog a chefnogi myfyrwyr i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac amlygodd aelod profiadol o staff sydd bellach yn addysgu’n ddwyieithog yn y sector rai adnoddau defnyddiol. Cynhaliwyd y sesiwn hon ar 29 Ionawr 2025.
TestunRhydd
Mae TestunRhydd yn eich helpu i ddadansoddi a delweddu data testun rhydd yn Gymraeg a Saesneg, megis data o arolygon a holiaduron. Mae TestunRhydd yn eich galluogi i gynnal hyd at chwe math gwahanol o ddadansoddi data testunol ar gyfer pob ffeil. Nid oes angen i chi allu codio nac i ddysgu sut i greu graffiau, chwaith - mae TestunRhydd yn gwneud y gwaith caled ar eich cyfer! Datblygwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect ymchwil ar y cyd rhwng cydweithwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerhirfryn
Llesiant Ymchwilydd Cymru
Adnodd ar-lein yw Llesiant Ymchwilydd Cymru (RWC) a gynlluniwyd i alluogi ymchwilwyr doethurol i feithrin ymdeimlad o lesiant iach. Gall eich helpu i lywio eich taith ddoethurol, dod yn fwy gwydn a nodi ffyrdd buddiol o weithio. Gallwch ddisgwyl enghreifftiau a adnoddau am weithio gyda’ch goruchwylwyr, rheoli’ch amser, a chadw’ch cymhelliant. Bu ymchwilwyr doethurol o brifysgolion ar draws Cymru yn ymwneud â chreu adnoddau. Datblygwyd yr adnodd hwn gan academyddion a staff gwasanaethau proffesiynol sy’n ymwneud ag addysg ddoethurol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad gyda phrifysgolion eraill Cymru.
Deallusrwydd artiffisial ac ymchwil
Cyflwyniad gan Dr Seren Evans ar ei gwaith ymchwil i rôl Deallusrwydd Artiffisial mewn rhagfynegi anafiadau digyswllt i’r goes o fewn Rygbi’r Undeb, a recordiad o drafodaeth banel ar ddeallusrwydd artiffisial a'i oblygiadau, ei heriau a’i gyfleoedd i ymchwilwyr gyda: Dr Cynog Prys, Uwch ddarlithydd, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Prifysgol Bangor Dr Seren Evans, Darlithydd, Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Bangor Dr Neil Mac Parthaláin, Uwch ddarlithydd, Cyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Huw Morgan, Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth Cynhaliwyd y digwyddiad yn Aberystwyth ar 27 Mehefin 2024.
Cynhadledd Ymchwil 2024
Cynhelir y Gynhadledd hon ar ffurf hybrid eleni eto, ar 28 Mehefin, gyda chynulleidfa wyneb yn wyneb yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac fe’i darlledir yn fyw i gynulleidfa rithiol. Bydd recordiad o'r digwyddiad i'w weld isod ar ôl y Gynhadledd. Mae rhagor o wybodaeth am y Gynhadledd yn y calendr digwyddiadau ar wefan y Coleg Cymraeg.
Cefnogi iechyd meddwl a lles ymchwilwyr ôl-raddedig
Canllaw i oruchwylwyr doethuriaethau ar sut i gefnogi iechyd meddwl a lles eich myfyrwyr ymchwil. Mae'r canllaw yn cynnwys yr heriau y gallai ymchwilwyr eu hwynebu yn ystod pob cam o'u doethuriaeth, a datrysiadau posib. Cyfieithwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cydweithrediad â UKCGE.
Paratoi ar gyfer y Viva
Canllaw i ymgeiswyr doethurol ar baratoi ar gyfer yr arholiad Viva. Mae'r pecyn yn cynnwys gwybodaeth ar sut i baratoi at yr arholiad, beth i'w ddisgwyl ar y diwrnod, a chwestiynau cyffredin a ofynnir mewn arholiad Viva. Cyfieithwyd y wybodaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cydweithrediad â UKCGE.
Gwefan Meddwl.org
Sefydlwyd gwefan meddwl.org fis Tachwedd 2016, a chaiff ei redeg gan grŵp bach o wirfoddolwyr, er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i helpu pobol sy’n byw gyda chyflwr iechyd meddwl, a’u teuluoedd a’u ffrindiau. Dyma’r wefan gyntaf o’i math sy’n cynnwys gwybodaeth ar faterion iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Mae gan bawb iechyd meddwl. Mae meddwl.org yn lle i gael cefnogaeth a gwybodaeth, ac i ddarllen a rhannu profiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am Filiwn: Podlediad
Podlediad sy’n trin a thrafod agweddau ar fyd addysg sy’n datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg yng nghyd-destun anelu at filiwn o siaradwyr. Bydd y podlediad yn apelio at unrhyw un sy’n dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso, neu’n aelod o’r gweithlu addysg. Bydd o ddiddordeb hefyd i unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am rôl byd addysg wrth anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr. Mae'n adnodd arbennig o dda i gydfynd â'r Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg.
Cynhadledd Ymchwil 2023
Cynhelir y Gynhadledd hon ar ffurf hybrid eleni eto, ar 30 Mehefin, gyda chynulleidfa wyneb yn wyneb yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac fe’i darlledir yn fyw i gynulleidfa rithiol. Mae rhagor o wybodaeth am y Gynhadledd yn y calendr digwyddiadau ar wefan y Coleg Cymraeg.
Dwyieithrwydd ar gyfer y gweithle: Sgiliau proffesiynol
Pwrpas yr adnodd hwn yw helpu datblygu hyder i weithio'n ddwyieithog. Twy gyfres o ymarferion bydd cyfle i ymarfer nifer o sgiliau perthnasol ar gyfer defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle gan gynnwys: drafftio e-bost paratoi CV gwneud cyflwyniad yn Gymraeg. Datblygwyd yr adnodd hwn gan Goleg Sir Benfro.