Traddodwyd Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru 2024 gan yr Athro Paul O’Leary yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, ar 27 Tachwedd 2024. Pam fod gwleidyddion blaenllaw yn cyfeirio at hanes mor aml? A pha fath o hanes sy’n apelio atynt? Mae’r ddarlith hon yn dangos bod gwleidyddion yn mowldio hanes at ddibenion y presennol ac yn gweu mytholegau er mwyn cyfreithloni eu safbwyntiau heddiw. Bwriad y ddarlith yw archwilio'r mytholegau hyn mewn ymgais i ddangos sut y maent yn effeithio ar ein diwylliant gwleidyddol a'r drafodaeth ar hanes yn y pau cyhoeddus. Dangosir sut y mae gwleidyddion wedi cynhyrchu mytholegau ar gyfer y Gymru ddatganoledig mewn ymgais i greu fersiwn o'r gorffennol sy'n gweddu i'r ffordd newydd o lywodraethu'r wlad – senedd newydd, hanes newydd. Athro Emeritws ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Paul O'Leary ac mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Bu'n Athro Syr John Williams mewn Hanes Cymru yn Aberystwyth. Ymhlith ei lyfrau mae: yr e-lyfr Ffrainc a Chymru, 1830–1880: Dehongliadau Ffrengig o Genedl Ddi-wladwriaeth (Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2015); Claiming the Streets: Processions and Urban Culture in South Wales, c.1830–1880 (2012); ac Immigration and Integration: the Irish in Wales, 1798–1922 (2000). Gyda Beth Jenkins a Stephanie Ward fe gydolygodd y gyfrol Gender in Modern Welsh History: Perspectives on Masculinity and Femininity in Wales from 1750 to 2000 (2023).