Gwefan gan Senedd y DU sy’n cynnig adnoddau addysgu dwyieithog ar-lein ar gyfer dysgwyr o 5 oed i ôl-16 a thu hwnt. Mae’r adnoddau yn cyflwyno ac yn ymdrîn â phynciau ar draws cwricwla’r DU; gan gynnwys etholiadau, dadlau, Gwerthoedd Prydeinig a gwaith a rôl Senedd y DU yn ein democratiaeth.
Yn yr adran i ddysgwyr Ôl-16, ceir pecynnau fel:
Sut mae'n Gweithio: Y Senedd, Llywodraeth Democratiaeth a Chi
Systemau pleidleisio
Eich Stori, Ein Hanes: Deddfwriaeth anabledd
Eich Stori, Ein Hanes: Deddfwriaeth cysylltiadau hiliol
Eich Stori, Ein Hanes: Deddfwriaeth Pobl Lesbaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT)