Cyfres o bedwar gweithdy rhithiol i fyfyrwyr blwyddyn 12, neu flwyddyn gyntaf mewn colegau addysg bellach, sydd â diddordeb mewn Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Iaith a Lleferydd, Ffisiotherapi a Fferylliaeth. Dyma gyfle i ddysgu mwy am y swyddi hyn, a'r gwasanaeth iechyd yn gyffredinol, yn ogystal â derbyn cyngor ar sut i ymgeisio'n llwyddiannus. Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn wythnosol ym mis Mai rhwng 4.30-6.00 pm.
- 5 Mai 2021 - Taith Iechyd teulu Brynglas (cyflwyniad i'r gwasanaeth iechyd)
- 12 Mai 2021 - Nyrsio a Bydwreigiaeth
- 19 Mai 2021 - Therapi Iaith a Lleferydd, Ffisiotherapi a Fferylliaeth
- 26 Mai 2021 - Sut i ymgeisio'n llwyddiannus ar gyrsiau iechyd
I gofrestru, cliciwch isod: