Gweler ddolen at wefan Atebol isod er mwyn prynu'r llyfr Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Egwyddorion a Chyd-destunau gan Carol Bennett, Sara Jones, Rhiannon Salisbury a Philip Webber.
Mae’r llyfr hwn yn addas ar gyfer cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau, sy’n rhan o’r gyfres o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yng Nghymru a ddarperir gan City & Guilds/CBAC. Mae’r cymhwyster a’r gyfrol hon wedi’u hanelu at ddysgwyr ôl-16 sy’n awyddus i ddysgu mwy am y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn addas ar gyfer Lefel 3 Tystysgrif, Diploma Sylfaen, Diploma neu’r Diploma Estynedig.
Yn cynnig llwybr dilyniant addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi astudio cymwysterau Lefel 2 ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant. Mae’r cymhwyster a’r gyfrol hon yn addas hefyd ar gyfer dysgwyr nad ydyn nhw wedi astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol o’r blaen.
Adnodd penodol ar gyfer Unedau 4, 5 a 6 y cymhwyster. Bydd hefyd yn eich paratoi ar gyfer arholiadau allanol a’r asesiadau perthnasol.
Yn cynnig arweiniad ar gyfer astudio’r gwahanol bynciau er mwyn gwneud yn siŵr y bydd gennych yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol sy’n sylfaen gadarn i lwyddiant yn y maes hwn.
Cyfle i fyfyrio ar eich profiadau a chyfle hefyd i wneud gwaith ymchwil pellach i wella eich dealltwriaeth.
Astudiaethau achos sy’n rhoi cyfle i chi osod yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu o fewn cyd-destun yr hyn y byddwch yn ei wynebu yn eich gwaith o ofalu am eraill.