Datblygwyd yr adnoddau ymwybyddiaeth iaith dwyieithog yma ar gyfer dysgwyr Addysg Bellach yn maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Nod y pecyn yw cynyddu dealltwriaeth dysgwyr sydd â gwahanol sgiliau iaith Gymraeg, o arwyddocad y Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn benodol, maent yn cefnogi addysgu Uned 1 y cymhwyster newydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2: Craidd: deilliannau dysgu 7 ac 8.
Mae deilliant dysgu 7 yn gofyn i ddysgwyr ddeall pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol o ran iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae deilliant dysgu 8 yn gofyn i ddysgywr ddeall pwysigrwydd yr iaith a'r diwylliant Cymraeg i unigolion a gofalwyr.
Mae’r cyrsiau hyn hefyd ar gael drwy byrth dysgu colegau Addysg Bellach.