Canllawiau adolygu sydd wedi cael eu creu gan ACT ar gyfer unedau 1-5 yn y cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd. Diolch i ACT am gytuno i rannu.
Canllawiau Adolygu ar Gyfer y Cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
O’r ymylon i’r canol: ailystyried taith gerddorol Grace Williams
Mae’r erthygl hon yn trafod dwy agwedd ar allbwn Grace Williams (1906–1977) sydd wedi eu hesgeuluso o’r llyfryddiaeth gyfredol amdani, sef ei threfniannau lleisiol o alawon gwerin Cymreig a’i hunig opera, ‘The Parlour’. Gan gofio mai â cherddoriaeth gerddorfaol y cysylltir Grace Williams yn bennaf, mae’r gwaith yn adlewyrchu’r awydd i ymchwilio a rhoi sylw haeddiannol i’r gweithiau a anwybyddwyd yn y gorffennol. Pwysleisir yr angen i ailystyried arwyddocâd y trefniannau gwerin a’r opera er mwyn cael darlun cyflawn o allbwn y gyfansoddwraig. Sail y darganfyddiadau yw gwaith ymchwil a gyflwynwyd eisioes fel gradd MARes (MA trwy ymchwil) (Prifysgol Bangor 2022) ac ymchwil gyfredol ar gyfer gradd ddoethur sydd i’w chwblhau yn y blynyddoedd nesaf. Awdur: Elain Jones
‘O sero i dri chant’: technegau caffael dwys ar gyfer y 300 gair cynnwys a ddefnyddir amlaf yn y Gymraeg
Mae’r erthygl hon yn amlinellu ymchwil a gynhaliwyd ymhlith dysgwyr Cymraeg sy’n ddechreuwyr wrth iddynt gaffael geirfa Gymraeg a ddefnyddir yn aml. Gofynnwyd i 23 chyfranogwr ddysgu 300 gair cynnwys dros 50 diwrnod (10 munud y dydd) gan ddefnyddio cardiau fflach. Rhoddwyd gwybodaeth am dechnegau i gefnogi eu dysgu, fel y dull allweddeiriau a rhoi sylw i rannau o eiriau. Datgelodd profion yn syth ar ôl dysgu a phrofion wedi’u hoedi wahaniaethau sylweddol rhwng ‘dysgadwyedd’ a dargadwedd (retention) y geiriau targed. Cafwyd gwybodaeth fanwl am brofiad dysgu’r cyfranogwyr trwy holiadur ar ddiwedd yr astudiaeth, a gwelwyd bod y dysgwyr mwyaf llwyddiannus yn defnyddio dulliau systematig iawn er mwyn dethol ac adolygu geiriau, ac yn defnyddio techneg allweddeiriau. Ar sail hyn, defnyddir rhestr o eiriau wedi’u trefnu yn ôl ‘dysgadwyedd’, ac mae sylwadau ar dechnegau dysgu gan gyfranogwyr a gafodd sgôr uchel yn darparu gwybodaeth ar gyfer adolygu deunyddiau dysgu. Awduron: Tess Fitzpatrick, Steve Morris
Adolygiad integredig o’r dull ysgol gyfan o gefnogi iechyd a lles emosiynol a meddyliol dysgwyr yng Nghymru
Arweiniodd y dirywiad mewn perthynas â materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru (Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion [SHRN] 2023) a diwygiadau diweddar i’r cwricwlwm at gyflwyno canllawiau statudol i hybu dull ysgol gyfan i gefnogi lles emosiynol a meddyliol positif holl randdeiliaid y gymuned ysgol (Llywodraeth Cymru [LlC] 2021). Mae’r ‘Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol’ (y Fframwaith) (LlC 2021) yn canolbwyntio ar sefydlu’r gwerthoedd craidd o ‘berthyn’, ‘effeithlonrwydd’ a ‘llais’ ar draws pob agwedd ar ddarpariaeth yr ysgol er mwyn creu cymuned gymdeithasol ac emosiynol gadarnhaol. Bydd yr adolygiad integredig hwn yn archwilio llenyddiaeth sy’n canolbwyntio ar y dulliau ysgol gyfan hyn, ac yn mynd i’r afael â rhai materion sy’n hwyluso ac yn rhwystro gweithredu’r rhain yn llwyddiannus. Dengys y canfyddiadau nad yw nifer o ysgolion wedi ymrwymo’n llawn i’r Fframwaith (LlC 2021) hyd yma, yn enwedig felly o safbwynt y dull ysgol gyfan, felly terfynir yr erthygl trwy gynnig argymhellion ar gyfer y ffordd ymlaen. Awduron: Nanna Ryder, Charlotte Greenway, Siobhan Eleri
Podlediadau Moeseg Chwaraeon
Cyfres o bodlediadau fideo sy'n cynnwys sgyrsiau anffurfiol gydag amrywiaeth o arbenigwyr yn trafod materion cyfoes Moeseg Chwaraeon. Mae'r pynciau dan sylw yn cynnwys: Chwaraeon galchu (Sportswashing) Modelau rôl Tegwch Hiliaeth Cenedlaetholdeb Categorïau cystadlu Mae crynodebau o'r sgyrsiau a rhestrau ddarllen i gyd-fynd gyda phob pennod ynghyd a geirfa/rhestr termau ar gyfer y chwe phwnc. Mae’r adnoddau ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio moeseg chwaraeon a phynciau eraill yn ymwneud ag addysg gorfforol.
Deallusrwydd artiffisial ac ymchwil
Cyflwyniad gan Dr Seren Evans ar ei gwaith ymchwil i rôl Deallusrwydd Artiffisial mewn rhagfynegi anafiadau digyswllt i’r goes o fewn Rygbi’r Undeb, a recordiad o drafodaeth banel ar ddeallusrwydd artiffisial a'i oblygiadau, ei heriau a’i gyfleoedd i ymchwilwyr gyda: Dr Cynog Prys, Uwch ddarlithydd, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Prifysgol Bangor Dr Seren Evans, Darlithydd, Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Bangor Dr Neil Mac Parthaláin, Uwch ddarlithydd, Cyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Huw Morgan, Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth Cynhaliwyd y digwyddiad yn Aberystwyth ar 27 Mehefin 2024.
Cynhadledd Technoleg a Dwyieithrwydd
Recordiadau o'r sesiynau a gynhaliwyd yn y Gynhadledd Technoleg a Dwyieithrywdd eleni. Roedd y gynhadledd yn ymdrin ag agweddau yn ymwneud â ddefnyddio technoleg i ddarparu’n ddwyieithog ac yn Gymraeg yn y sectorau addysg uwch, addysg bellach a phrentisiaethau.
Cynllunio a chyflwyno grwpiau ffocws
Mae’r canllaw hwn gan Data Cymru yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i unrhyw un sy’n ystyried defnyddio grwpiau ffocws fel dull ymchwil. Cynnwys: Beth yw grwpiau ffocws, eu pwrpas, a pham a phryd i’w defnyddio Y prif elfennau mae eu hangen i baratoi grwpiau ffocws effeithiol Cynllunio grŵp ffocws Recriwtio a chyfranogiad Cyflwyno grŵp ffocws yn effeithiol
Dylunio a dadansoddi arolygon
Mae’r canllaw hwn gan Data Cymru yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i bobl sydd angen paratoi, cynhyrchu a dylunio arolygon a dadansoddi’r data, gan ganolbwyntio ar holiaduron a chyfweliadau. Cynnwys: Beth yw grwpiau arolwg, eu pwrpas, a pham a phryd i’w defnyddio Mathau o arolygon Sut i greu arolwg Poblogaeth a samplo Dylunio cwestiynau Casglu data Dadansoddi’r data Rhannu’r canlyniadau
Offer-Astro (Cipwyr Comedau)
Offer ar gyfer symleiddio’r holl broses arsylwi gyda rhwydwaith telesgopau LCO trwy'r prosiect Cipwyr Comedau. Ceir offer ar gyfer cynllunio a threfnu arsylwadau, gwneud cais am yr arsylwadau, a chreu animeiddiad o’r lluniau telesgop. Mae’r adnoddau yma yn cael eu hanelu at ddisgyblion ysgol gynradd ac uwchradd sydd yn cymryd rhan yn y prosiect Cipwyr Comedau – ond mae’n ddefnyddiol i fyfyrwyr is- ac ôl-radd ar gyfer gwneud ceisiadau am luniau o gomedau/asteroidau o LCO. Mae cyfarwyddiadau ar gael ar y wefan am ddau offeryn, bydd mwy yn cael eu creu ar gyfer pob offeryn yn y dyfodol.
Cynhadledd Ymchwil 2024
Cynhelir y Gynhadledd hon ar ffurf hybrid eleni eto, ar 28 Mehefin, gyda chynulleidfa wyneb yn wyneb yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac fe’i darlledir yn fyw i gynulleidfa rithiol. Bydd recordiad o'r digwyddiad i'w weld isod ar ôl y Gynhadledd. Mae rhagor o wybodaeth am y Gynhadledd yn y calendr digwyddiadau ar wefan y Coleg Cymraeg.
Amserlen Fideo: Hanes yr Iaith
Adnodd fideo newydd sy’n dod â hanes yr iaith Gymraeg yn fyw mewn 4 munud. O’r Frythoneg, geni’r Gymraeg a’r fersiynau ysgrifenedig cynharaf yn Oes y Tywysogion drwy’r Deddfau Uno a’r Chwyldro Diwydiannol i sefydlu’r Urdd ac ysgolion cyfrwng Cymraeg yn yr ugeinfed ganrif, dyma fideo sy’n mynd o’r flwyddyn 40 i 2022, pan ddefnyddiwyd y Gymraeg am y tro cyntaf ar y llwyfan chwaraeon mwyaf un, sef yng Nghwpan pêl-droed y Byd. “Heddiw, mae dros hanner miliwn yn siarad yr iaith ac mae Llywodraeth Cymru am gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 fel bod y Gymraeg yn dod yn rhan annatod o fywyd bob dydd, mewn cymunedau, ysgolion, yn y gwaith a thechnoleg ddigidol.” Adnodd i’w ddefnyddio’n eang gyda dosbarthiadau Cymraeg o bob oed, ac yn benodol ar gyfer Cymraeg Ail Iaith Safon Uwch Uned 5 (Y Gymraeg yn y Gymdeithas.) Dolen i'r fideo ar YouTube - gllir dewis isdeitlau (Cymraeg) ar y fideo yn YouTube (bydd isdeitlau Saesneg ar gael yn fuan). Ariannir gan Lywodraeth Cymru.