MAP - Myfyrwyr, Arloesi, Perfformio Gŵyl rithiol i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg. Nod ‘Gŵyl Celf a Dylunio ar y MAP’ yw cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg i ddod ynghyd mewn un man i rannu a thrafod eu gwaith ac i elwa ar brofiad artistiaid ac eraill sy’n gweithio yn y diwydiant. Eleni am y tro cyntaf cynhaliwyd Gŵyl Celf a Dylunio ar y Map mewn tair sesiwn ar-lein yn ystod mis Mawrth. Wythnos 1: Cyflwyniadau a theithiau rhithiol o gwmpas Amgueddfeydd Cymru. Wythnos 2: Cyflwyniadau gan yr artistiaid Cefyn Burgess a Valériane Leblond Wythnos 3: Cyflwyniadau gan Gareth TW Rees ac Eddie Ladd Roedd cyfle i fynychwyr ymateb i'r cyflwyniadau amrywiol drwy ddilyn briff wythnosol a rhannu eu gwaith ar Instagram gan ddefnyddio'r hashnodau canlynol: Wythnos 1: #datblyguMAP21 #cadMAP21 Wythnos 2: #datganMAP21 #cadMAP21 Wythnos 3: #creuMAP21 #cadMAP21 Cliciwch isod i weld recordiadau o'r sesiynau arbennig.
Gwyl Celf ar y Map 2021 (Mawrth 2021)
Mentimeter
Dyma weithdy i'ch rhoi chi ar ben ffordd wrth ddefnyddio gwefan Mentimeter yn hyderus yn eich addysgu fel ffordd o ymgysylltu a'ch myfyrwyr. www.mentimeter.com Bydd y gweithdy hwn o fudd i unrhyw un sydd am ddatblygu ac adeiladu ar ddulliau addysgu ar-lein, dysgu arloesol, cyflwyno ar-lein ac ymgysylltu gyda myfyrwyr. Cefndir Hyfforddwr: Mae'r sesiwn hon yn cael ei harwain gan Dyddgu Hywel. Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i arbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, ymgysylltu a myfyrwyr a’r defnydd o dechnoleg.
Doctoriaid Yfory 4 2021-2022
Bwriad cynllun Doctoriaid Yfory yw cefnogi dysgwyr sydd ym mlwyddyn gyntaf o'u hastudiaethau yn ein colegau Addysg Bellach, ac ym mlwyddyn 12 yn ein hysgolion, sy'n siarad Cymraeg ag sydd am ymgeisio i astudio Meddygaeth yn y brifysgol. Mae'r cynllun yn cynnig cefnogaeth arbenigol gan aelodau o staff Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe sydd ynghlwm â'r broses ymgeisio. Gyda chefnogaeth staff y prifysgolion bydd y gweithdai canlynol yn cael eu trefnu: Mawrth: Cyflwyniad, Paned a Chlonc gyda Menai Evans, Sara Whittam, Sara Vaughan. Ebrill: Profiad gwaith gyda Llinos Roberts Mai: Cwricwlwm C21 gyda Rhian Goodfellow a Sut i Ddewis Cwrs gyda Myfyrwyr Meddygol Prifysgol Caerdydd Mai: Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r ysgoloriaeth CCC gydag Awen Iorweth ac Alun Owens Mehefin: Ysgrifennu Datganiad Personol Gorffennaf: Llwybrau Amgen gydag Alwena Morgan a [Siwan Iorwerth a Ffraid Gwenllian TBC] Medi: Speed Dating gyda meddygon proffesiynol! Hydref: Sesiwn cwestiwn ac ateb Datganiad Personol Tachwedd: Ymarfer MMIs Rhagfyr: Ymarfer MMIs
Troi'r Trai Mewn Tri Deg Mlynedd - Pwysigrwydd y Gymraeg yn y Gymru fodern
Mae'r modiwl ar-lein hwn yn edrych ar bwysigrwydd sgiliau da yn y Gymraeg wrth fynd i’r byd gwaith. Mae’n ystyried yn benodol beth yw manteision parhau i astudio’r Gymraeg ar ôl TGAU. Mae’r modiwl wedi ei anelu yn bennaf at ddisgyblion a myfyrwyr mewn ysgolion, colegau addysg bellach a phrifysgolion. Gall hefyd fod o ddefnydd i unrhyw un sydd eisiau dysgu am le a statws y Gymraeg yn y Gymru gyfoes a sut gallwn ni gyd wneud cyfraniad i nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Enillydd Adnodd Cyfrwng Cymraeg 2021 (gwobrau Darlithwyr Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol).
Cynhadledd 'Llais y Plentyn'
Cynhadledd ar gyfer myfyrwyr addysg, gofal plant a gwasanaethau plant a phobl ifanc mewn prifysgolion a cholegau addysg bellach. Bydd y gynhadledd yn trafod bywyd plant Cymru gan gynnwys: effaith Covid-19 ar blant, hiliaeth, a'r system eiriolaeth. Ceir hefyd gyflwyniad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland. Cynhaliwyd y gynhadledd ar 24 Chwefror 2021. Cliciwch isod i wylio recordiadau o'r cyflwyniadau:
Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith
Nod Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith yw darparu hyfforddiant arloesol a chyngor ymarferol ar adnoddau ac arferion da i staff yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bwriad hynny yw cefnogi ymarferwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid. Ceir cyfleoedd hyfforddiant Sgiliaith sy’n addas i bawb yn y sector, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg neu brofiad blaenorol. Mae Rhaglen Hyfforddiant Datblygu Staff Sgiliaith yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant i gefnogi dilyniant sgiliau dwyieithog ymarferwyr, a chynigia Cynllun Fentora Staff Sgiliaith gefnogaeth i ymarferwyr mewn sefyllfaoedd dysgu go iawn i fewnosod y Gymraeg/dwyieithrwydd yn y dosbarth neu yn y gweithle. Comisiynwyd rhaglen datblygu staff a rhaglen fentora cenedlaethol ar gyfer y sector ôl-16. Mae'r rhaglen yn cael ei ddarparu gan Sgiliaith ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Sgwrs Iach
Cyfres o glipiau fideo i addysgu pobl ifanc am y gwahanol ddewisiadau gyrfa sydd ar gael o fewn y sector iechyd a gofal yng Nghymru gyda'r bwriad o sbarduno diddordeb myfyrwyr yn y sector, a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg o fewn y sector. Datblygwyd yr adnoddau gan Goleg Cambria.
Pod Jomec Cymraeg
Mae Pod Jomec Cymraeg yn gyfres o bodlediadau gan fyfyrwyr Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd. Yn y gyfres mae myfyrwyr yn siarad gydag enwau adnabyddus o'r byd newyddiadurol a chyfathrebu. Mae'r pods yn addas ar gyfer myfyrwyr ac i bobl sydd gyda diddordeb cyffredinol yn y maes. Yn y gyfres, fe fydd myfyrwyr a thîm dysgu JOMEC yn edrych ar bob agwedd o newyddiaduraeth a chyfathrebu yng Nghymru. Ym mhob podlediad bydd un o’n myfyrwyr yn sgwrsio gyda rhywun sy’n gweithio yn y maes - o gyngor gyrfa i holi barn am bynciau llosg y dydd.
Rheoli amser a phwysau gwaith
Yn ystod yr amser ansicr hwn gall fod yn dasg a hanner i reoli amser yn effeithiol. Wrth i nifer ohonom addasu i weithio o bell, tra bod eraill yn dysgu addasu i weithio mewn awyrgylch wahanol ar y campws, gall reoli amser fod yn heriol. Dyma gyfle ymarferol i adolygu eich steil personol yn nhermau sut fyddwch chi'n rheoli eich gwaith, pobl, gweinyddiaeth, cydbwysedd bywyd a gwaith ac ati. Cynnwys: Mae gweithio yn rhithiol a rheoli pwysau gwaith amrywiol ynghyd â sialensiau gofal yn y cartref wedi herio y rhan fwyaf ohonom yn ddiweddar. Bydd y gweithdy hwn yn gyfle i feddwl am y pwysau newydd a’r effaith ar ein hamser, a bydd cyfle i ystyried ffyrdd o weithio yn fwy effeithiol yn unigol ac fel tîm. Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu: Adnabod problemau a chynhyrchu rhaglen weithredu. Adnabod y ffyrdd amlycaf o wastraffu amser. Gweithio yn well trwy gynllunio a blaenoriaethu. Gwneud defnydd effeithiol o’r dyddiadur/trefnydd personol. Cael gwared â phentwr o waith papur a negeseuon e-bost. Gwneud defnydd effeithiol o amser gydag eraill. Bywgraffiad Mari Ellis Roberts Mae Mari yn Swyddog Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Bangor ac yn gyfrifol am y ddarpariaeth Datblygu Staff mewnol. Yn ogystal mae hi’n rheoli cynllun Cymhelliant a Mentora'r Brifysgol ac yn rhedeg gweithdai effeithiolrwydd personol megis sgiliau rheoli amser, gosod nodau effeithiol ayb.
Amaeth Amdani
Profiad Gwaith yn y Diwydiant Amaeth Adnodd i gynorthwyo myfyrwyr amaeth i adnabod y sgiliau sydd eu hangen arnynt wrth adnabod a chymryd rhan mewn cyfnod o brofiad gwaith perthnasol i’r diwydiant. Mae’r adnodd yn yn cynorthwyo dysgwyr sydd yn paratoi am gyflogaeth o fewn y sector amaethyddol drwy; adnabod cyfleoedd cyflogaeth o fewn y diwydiant amaethyddol egluro’r broses o ymgeisio am swydd. egluro sgiliau rhyngbersonol da sydd yn angenrheidiol o fewn y diwydiant. Adran 1 - yn cynnwys cyfres o glipiau fidio sy’n adnabod cyfleoedd gwaith o fewn y sector amaethyddol. Adran 2 - yn cynnwys cyflwyniad sydd yn disgrifio’r broses o ymgeisio am swydd gan gynnwys sut mae darganfod swyddi gwag, creu CV, ysgrifennu llythyr cais. Adran 3 - yn cynnwys clip fidio gan gyflogwr yn egluro y sgiliau rhyngbersonol da sydd yn angenrheidiol ac yn ddisgwyliedig o fewn gweithle. Mae’r adnodd hwn wedi cael ei greu neu ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael wefan HWB.
Laura Beth Davies, 'Cyflogadwyedd, cyfrifoldeb, cael digon o’r Gymraeg? Dewisiadau ieithyddol dysgwyr Addysg B...
Mae’r erthygl hon yn archwilio’r rhesymau dros y nifer bychan o ddysgwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg ac yn ddwyieithog yn y sector Addysg Bellach, gan ganolbwyntio ar ddysgwyr galwedigaethol. Cynigia argymhellion i wella’r sefyllfa yng nghyd-destun targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Seilir yr ymchwil ar gyfweliadau lled-strwythuredig â staff mewn ysgolion a cholegau Addysg Bellach ac ar grwpiau ffocws â disgyblion Blwyddyn 11, mewn pedair ardal ar draws Cymru. Canfuwyd bod ffactorau economaidd, diwylliannol ac addysgol yn dylanwadu ar ddewisiadau dysgwyr. Dadleuir dros gynnig rhaglen ymwybyddiaeth iaith er mwyn ehangu disgwrs y Gymraeg fel offeryn cyflogadwyedd, a disgwrs manteision dwyieithrwydd i gynnwys manteision cymdeithasol.
Wyn Mason, 'Gwlad yr Asyn a’r golwg deublyg: diffinio’r ddrama ôl-drefedigaethol Gymreig'
Trafoda’r erthygl gwestiynau a gododd yn sgil llunio Gwlad yr Asyn, sef drama lwyfan ar ffurf monolog. Cafodd y ddrama ei hysgrifennu fel ymateb gwrthimperialaidd Cymreig i destun canonaidd Shakespeare, The Tempest. Yn gyntaf, ystyria’r erthygl y diffyg traddodiad a geir yng Nghymru o ysgrifennu dramâu gwrthddisgwrs Shakespearaidd o safbwynt Cymreig, cyn canolbwyntio ar y cwestiwn, ‘beth a ddylai nodweddu’r ddrama ôl- drefedigaethol Gymreig?’. Dadleua y dylai gyfleu ‘golwg deublyg’, hynny yw, cydnabod bod gan Gymru etifeddiaeth o ddwy ochr y rhaniad imperialaidd: gwlad a gafodd ei gwladychu ond sydd hefyd wedi gwladychu.