Mae'r sleidiau yma'n addas ar gyfer modiwl Rheolaeth Strategol, ar lefel 5/6. Maent yn cyflwyno'r prif offer ar gyfer dadansoddi sefydliadau yn fewnol ac yn allanol. Hefyd, maent yn cynnwys y prif themau sydd angen eu hystried er mwyn cynhyrchu opsiynau strategol addas i amrediad o sefydliadau. Datblygwyd y deunyddiau yma gan Sian Harris, darlithydd Rheolaeth a Busnes y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Rhyfel Cartref America (HTC-2156/3156)
Darlithoedd i gydfynd â modiwl (2016) Bydd angen mewngofnodi i gael mynediad i'r darlithoedd yma.
Saunders Lewis a Williams Pantycelyn – R. Tudur Jones
Darlith Goffa Henry Lewis 1987 a draddodwyd gan R. Tudur Jones. Edrycha'r awdur ar ymdriniaeth Saunders Lewis o weithiau Williams Pantycelyn gan ail-ystyried dadansoddiad Saunders Lewis o ddiwinyddiaeth a datblygiad Pantycelyn. Gellir lawrlwytho'r e-lyfr ar ffurf PDF, ePub neu Mobi (gweler Cyfryngau Cysylltiedig uchod). I ddarllen yr e-lyfr ar sgrin cyfrifiadur a/neu i argraffu rhannau ohono, lawrlwythwch y ffeil PDF. I ddarllen yr e-lyfr ar iBooks, Nook, Kobi a'r rhan fwyaf o ddyfeisiau e-ddarllen eraill, lawrlwythwch y ffeil ePub.I ddarllen yr e-lyfr ar Kindle, lawrlwythwch y ffeil Mobi. Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido
Seiliau Beirniadaeth: Cyfrol 1, Rhagarweiniad – R. M. Jones
Astudiaeth ar ffurfiau a chynnwys y traddodiad llenyddol Cymraeg gan yr academydd a'r beirniad R. M. Jones. Cyhoeddwyd cyfres o bedair cyfrol yn seiliedig ar gwrs gradd allanol yn y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn ystod yr 1980au. Cyfrol 1, Rhagarweiniad: Mae'r gyfrol gyntaf yn ragarweiniad sy'n gosod sylfeini theoretig eang i'r dadansoddiad manylach sy'n dilyn yn y cyfrolau eraill. Trafodir beth yw beirniadaeth lenyddol a gwahanol ysgolion o fewn y maes. Edrychir hefyd ar nodweddion arddull fel cyferbynnu, cymharu, dieithrio a pherthynas s?n a synnwyr. Cyfrol 2, Ffurfiau Seiniol: Agwedd seiniol y traddodiad barddol yw ffocws y gyfrol hon. Wrth edrych ar odl, mydr a chynghanedd mae'r awdur yn tynnu sylw at egwyddorion y patrymau seiniol. Dadansoddir natur y ffurf lenyddol mewn dull adeileddol, a hynny, yn arloesol, am y tro cyntaf erioed mewn unrhyw iaith. Cyfrol 3, Ffurfiau Ystyrol: Edrychir yn fanylach ar fecanwaith seicolegol y traddodiad llenyddol yn y gyfrol hon. Cyfrol 4, Cyfanweithiau Llenyddol: Edrych yn ôl dros yr ymdriniaeth yn y cyfrolau blaenorol ac adolygu'r egwyddorion a wneir yma. Ystyrir fod yna ffurfiau llenyddol cyffredinol mewn sain.
Seiliau Beirniadaeth: Cyfrol 2, Ffurfiau Seiniol – R. M. Jones
Astudiaeth ar ffurfiau a chynnwys y traddodiad llenyddol Cymraeg gan yr academydd a'r beirniad R. M. Jones. Cyhoeddwyd cyfres o bedair cyfrol yn seiliedig ar gwrs gradd allanol yn y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn ystod yr 1980au. Agwedd seiniol y traddodiad barddol yw ffocws y gyfrol hon. Wrth edrych ar odl, mydr a chynghanedd mae'r awdur yn tynnu sylw at egwyddorion y patrymau seiniol. Dadansoddir natur y ffurf lenyddol mewn dull adeileddol, a hynny, yn arloesol, am y tro cyntaf erioed mewn unrhyw iaith. Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido
Seiliau Beirniadaeth: Cyfrol 3, Ffurfiau Ystyrol – R. M. Jones
Astudiaeth ar ffurfiau a chynnwys y traddodiad llenyddol Cymraeg gan yr academydd a'r beirniad R. M. Jones. Cyhoeddwyd cyfres o bedair cyfrol yn seiliedig ar gwrs gradd allanol yn y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn ystod yr 1980au. Edrychir yn fanylach ar fecanwaith seicolegol y traddodiad llenyddol yn y gyfrol hon ac mae'r awdur yn defnyddio'r un dulliau adeileddol a welwyd wrth edrych ar
Seiliau Beirniadaeth: Cyfrol 4, Cyfanweithiau Llenyddol – R. M. Jones
Astudiaeth ar ffurfiau a chynnwys y traddodiad llenyddol Cymraeg gan yr academydd a'r beirniad R. M. Jones. Cyhoeddwyd cyfres o bedair cyfrol yn seiliedig ar gwrs gradd allanol yn y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn ystod yr 1980au. Edrych yn ôl dros yr ymdriniaeth yn y cyfrolau blaenorol ac adolygu'r egwyddorion a wneir yma. Ystyrir fod yna ffurfiau llenyddol cyffredinol: 1.
Sesiynau Arfer Da
Cyfres o sesiynau arfer da ar gyfer ddarlithwyr sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Cefnogi Myfyrwyr, Dr Dylan Foster Evans Arwain a Rheoli, Heledd Bebb Datblygu Darpariaeth, Manon George Marchnata Modiwlau Cymraeg, Manon Jones
Sglefrio ar Eiriau – John Rowlands (gol.)
Cyfres o erthyglau gan feirniaid yn trafod agweddau amrywiol ar lenyddiaeth, gan geisio osgoi'r rhigolau confensiynol. Llenyddiaeth fel rhywbeth diddorol a pherthnasol yw eu pwnc ac edrychir ar lên drwy sbectol strwythuraeth, ôl-strwythuraeth, dadadeiladu, Marcsiaeth, ffeministiaeth a hanesyddiaeth newydd. Ond does yma ddim gorbwyslais ar theori, ond yn hytrach sgrifennu bywiog sy'n taflu goleuni newydd ar amryw bynciau gan feirniaid hyddysg yn y syniadau beirniadol diweddaraf.
Sgriptio teledu
Y sgriptwyr proffesiynol, Roger Williams a Kirsty Jones, sydd wedi cyfrannu i gyfresi teledu megis Caerdydd, Gwaith Cartref, Zanzibar, Rownd a Rownd yn ogystal â'r operâu sebon Eastenders, Pobol y Cwm a Hollyoaks, yn rhoi cyflwyniad anffurfiol i'r broses o lunio sgript ar gyfer y teledu fel cyfrwng gan gyfeirio'n uniongyrchol at enghreifftiau o'i waith. 23 a 30 Hydref 2012, Prifysgol Bangor.
Llyfryddiaeth Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol
Dyma Lyfryddiaeth ar gyfer y cwrs uwchraddedig Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol.
Lowri Edwards et al., 'Canfyddiadau athrawon Addysg Gorfforol ynghylch Addysg Gorfforol o ansawdd uchel o fewn...
Mewn adroddiad yn 2013, awgrymodd Llywodraeth Cymru fod codi statws Addysg Gorfforol (AG) i fod yn bwnc craidd, fel Cymraeg a Mathemateg, yn hanfodol er mwyn ceisio atal yr epidemig gordewdra presennol. Serch hynny, mae'n rhaid cael gwersi AG o ansawdd uchel er mwyn cael effaith gorfforol gadarnhaol ar ddisgyblion. Mae gan athrawon AG rôl hanfodol wrth weithredu AG o ansawdd uchel, ac felly bydd deall eu canfyddiadau ynghylch AG o ansawdd uchel yn bwysig. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda deg o athrawon AG ysgolion cyfrwng Cymraeg de Cymru (saith dyn a thair menyw). Daeth i'r amlwg fod tebygrwydd rhwng theori cyfredol yn y maes a chanfyddiadau'r athrawon, er enghraifft pwysigrwydd creu amgylchedd dysgu cadarnhaol. Fodd bynnag, roedd yna wahaniaethau rhwng y theori a'r ymarfer, er enghraifft dryswch gyda'r term llythrennedd corfforol. Goblygiad yr astudiaeth yw fod angen ymgynghori gydag athrawon AG i lunio polisïau AG o ansawdd uchel. Yn y dyfodol dylid cynnal ymchwil gweithredol i hybu'r term llythrennedd corfforol. Lowri Edwards, Anna Bryant ac Anwen Mair Jones, 'Canfyddiadau athrawon Addysg Gorfforol ynghylch Addysg Gorfforol o ansawdd uchel o fewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne Cymru', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 44-60.