Cynhaliwyd cyfres o weithdai ym Mhrifysgol Caerdydd ar 27 Ionawr 2017 i drafod dwyieithrwydd a’r broses greadigol, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llenyddiaeth Cymru. Yn ogystal â gweithdy difyr ar yr heriau a’r cyfleoedd y mae dwyieithrwydd yn eu cynnig i awduron, beirniaid, cyhoeddwyr/cynhyrchwyr, a chyfranogwyr eraill i’r broses ysgrifennu, cafwyd cyfweliadau diddorol gydag Ed Thomas a Llwyd Owen, a thrafodaeth ford gron ddadlennol gyda Tony Bianchi, Catrin Dafydd, Alun Saunders a Branwen Davies.
Eitha different yndyn nhw...but it works'
Esboniadur Beirniadaeth a Theori Lenyddol
Dyma'r Esboniadur cynhwysfawr cyntaf yn y maes yn y Gymraeg, yn cynnwys cofnodion ar y prif feirniaid a’r prif theorïwyr yng Nghymru a thu hwnt, symudiadau hen a newydd ynghyd â dyfeisiau llenyddol.
Esboniadur Theatr Cymru Gynnar
Cofnodion ar ddramodwyr Cymreig a fu'n weithgar yn ystod yr hanner canrif rhwng 1880 a 1940, pob un â llyfryddiaeth lawn. R. G. Berry D. T. Davies Eic Davies J. Kitchener Davies Albert Evans-Jones (Cynan) Beriah Gwynfe Evans J. O. Francis W. J. Gruffydd Howard de Walden J. Tywi Jones T. Gwynn Jones Thomas Parry D. Matthew Williams
Ffrainc a Cymru 1830–1880: Dehongliadau Ffrengig o Genedl Ddiwladwriaeth – Paul O'Leary
Prif amcan yr e-lyfr hwn gan yr Athro Paul O'Leary yw archwilio'r modd y cafodd Cymru ei dehongli gan sylwebyddion a theithwyr Ffrangeg eu hiaith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwneir hyn trwy gyflwyno ffynonellau yn yr iaith wreiddiol gyda chyfieithiadau i'r Gymraeg o destunau nad ydynt, hyd yn hyn, wedi'u defnyddio gan haneswyr. Maent yn dangos yr amrywiaeth o drafodaethau am Gymru a gafwyd yn Ffrainc, yn bennaf yn yr hanner canrif rhwng tua 1830 a'r 1870au pan drawsnewidiwyd Cymru gan dwf yn y boblogaeth (yng ngwlad a thref) a diwydiannu prysur. Mae'r ffynonellau yn ymwneud â thair thema oedd yn ganolog i fywyd yr oes: y duedd ymhlith rhai carfannau o bobl i wrthryfela yn erbyn awdurdod mewn cyfnod o newidiadau cymdeithasol ac economaidd sylfaenol; yr ysfa i wybod am wreiddiau ac effeithiau twf diwydiant a masnach; a safle iaith ddiwladwriaeth a'i diwylliant mewn cyfnod pan oedd gwledydd Ewrop yn ymdrechu i greu cymunedau cenedlaethol uniaith ac unffurf.
Gafael Mewn Gramadeg – David Thorne
Astudiaeth gyfoes o ramadeg y Gymraeg sy'n amcanu i esbonio ei hanfodion. Y mae'r gyfrol yn cynnwys trafodaeth ar gywair ac amrywiaeth eang o arddulliau llafar ac ysgrifenedig. Rhoir nifer o enghreifftiau o sut y mae syniadau gramadegol yn berthnasol i'r iaith a welir ac a glywir o'n cwmpas bob dydd.
Gruffydd Jones et al., 'Rhododendron ponticum: Hanes ei gyflwyno a'i ymlediad yng Nghymru, y bygythiad i fioam...
Llwyn bytholwyrdd coediog yw Rhododendron ponticum L., sy'n aelod o deulu'r Ericaceae. Daw yn wreiddiol o Sbaen, Mynyddoedd y Cawcasws ac arfordir y Môr Du. Cafodd ei gyflwyno i Brydain yn y ddeunawfed ganrif. Ers hynny, fodd bynnag, mae wedi datblygu i fod yn un o rywogaethau ymledol mwyaf niweidiol Prydain, gan achosi difrod ecolegol ac economaidd sylweddol. Bydd yr erthygl hon yn trafod hanes R. ponticum yng Nghymru, gan ystyried y ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol sydd wedi cyfrannu at ei lwyddiant yma. Disgrifir y sefyllfa bresennol yng Nghymru, gan gynnwys y mathau o niwed y mae'n eu hachosi, yn ogystal â'r ymdrechion i reoli ei ymlediad. I gloi, bydd yr erthygl yn edrych ar rai o heriau amgylcheddol y dyfodol, a sut y gall y rhain ddylanwadu ar ymlediad R. ponticum. Gruffydd Jones, John Scullion, Ana Winters, Rhys Owen, John Ratcliffe, Doug Oliver a Dylan Gwynn-Jones, &lsquoRhododendron ponticum: Hanes ei gyflwyno a'i ymlediad yng Nghymru, y bygythiad i fioamrywiaeth a'r dyfodol', Gwerddon, 27, Hydref 2018, 20-38.
Gwaedd yng Nghymru – J. R. Jones
Casgliad o ysgrifau gan yr athronydd J. R. Jones yn trafod parhad yr iaith Gymraeg a hunaniaeth Gymreig yn wyneb Prydeiniad y gymdeithas, yr Arwisgiad a dadfeiliad crefydd.
Athronyddu am Grefydd – Dewi Z. Phillips
Casgliad o ysgrifau ar athroniaeth crefydd yn ymateb i ddisgwrs y cyfnod ar ystyr bodolaeth ac argyfwng cymdeithas sy'n ymwrthod â chrefydd gristnogol a bodolaeth Duw. Trafodir natur yr iaith a geir mewn credoau crefyddol a'n dealltwriaeth ohoni a thrafodir theorïau ynglŷn â thragwyddoldeb.
Be Ddywedodd Gerallt Gymro am ei Gyfoeswyr – Huw Pryce a Glenda Carr
Roedd Gerallt Gymro yn sylwebydd craff ac yn awdur dysgedig a thoreithiog a ysgrifennodd ar amrywiaeth o bynciau. Dyma gasgliad difyr o sylwadau ganddo am ei gyfoeswyr sy'n darlunio'r cyfnod ac yn dweud llawer am Gerallt ei hun yn ogystal.
Be Ddywedodd Marx I – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan W. J. Rees. Mae'r casgliad hwn yn edrych ar syniadau'r athronydd chwyldroadol ar gymdeithas a chymdeithaseg. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Marx II – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Yma ceir disgrifiadau gan Marx ar wahanol fathau o gymdeithas, e.e. cymdeithasau cyntefig, ffiwdal, cyfalafol. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Meyerhold – W. Gareth Jones a Mona Morris
Y mae Fsefolod Meyerhold yn ffigwr canolog yn hanes datblygiad theatr yn yr ugeinfed ganrif. Datblygodd theatr gorfforol a gwerinol oedd yn chwyldroi confensiynau. Yn y gyfrol hon ceir detholiad o lyfr Meyerhold, Am y Theatr, wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg.