Strategaeth i helpu disgyblion o bob oedran ddehongli celf. Daw'r darnau yma o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru a daw'r adnodd o wefan Hwb Llywodraeth Cymru.
Artistiaid o Gymru: Dehongli Celf
Lluniadu- Dobarth Meistr
Cymorth i athrawon a darlithwyr Celf a Dylunio ar godi sgiliau lluniadu dysgwyr yn seiliedig ar gymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yn benodol ond gall fod o ddiddordeb i staff sy'n dysgu cyrsiau galwedigaethol ar lefelau 2 a 3 hefyd. Mae'r pecyn yn darparu enghreifftiau ymarferol defnyddiol sy’n dangos yr holl wahanol fathau o luniadu y gellir eu hintegreiddio mewn cynlluniau gwaith. Fel yn achos ysgrifennu mae gan luniadu lawer o wahanol bwrpasau, ac mae’n bwysig bod myfyrwyr yn ymwybodol ohonynt a’u bod yn cael eu hargyhoeddi o werth caffael sgiliau priodol a fydd yn eu galluogi i ddatblygu eu syniadau creadigol a’u cyfleu’n weledol, ym mha ddisgyblaeth bynnag y byddant yn ei hastudio. Mae’r pecyn adnoddau hefyd yn cynnwys deg enghraifft o unedau gwaith sy’n sicrhau bod lluniadu, yn enwedig lluniadu arsylwadol ar sail ffynonellau gwreiddiol (nid ffotograffau), wrth wraidd cynlluniau gwaith cyrsiau sylfaen.
Adnoddau Trawsieithu
Adnoddau gan Dr Alex Lovell, Prifysgol Abertawe i gynorthwyo gyda'r sgil o Drawsieithu, sy'n rhan o fanyleb Cymraeg Ail Iaith UG/Safon Uwch (U2 Uned 5, Adran B). Adnoddau yn cynnwys: Gweithdy Iaith: Trawsieithu - darlith fideo Sleidiau PowerPoint Gweithdy Iaith Trawsieithu Taflen waith Trawsieithu Mae'r adnoddau yn: ystyried beth yw 'trawsieithu' a beth yw'r manteision? trafod sut i ysgrifennu trawsieithiad effeithiol dadansoddi enghraifft dda cynnig tasgau i ymarfer sgiliau trawsieithu ymhellach Adnoddau wedi eu creu gan Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Panel Trafod: Yr Hengerdd a Dafydd ap Gwilym
Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod Yr Hengerdd a cherddi Dafydd ap Gwilym. Yn ystod y sesiwn, ceir trafodaeth ar waith Aneirin, Talieisin a Dafydd ap Gwilym gan arbenigwyr ar yr hengerdd a'r cywyddau, sef Yr Athro Jerry Hunter, Dr Aled Llion Jones a'r Athro Peredur Lynch, y tri o Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 13 sy'n astudio ar gyfer arholiad Cymraeg (Uned 5) ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwaith y beirdd hyn. Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Mai 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Chwilio am fwy o adnoddau adolygu? Gwyliwch ein sesiynau adolygu Ar-lên sydd ar gael yma neu yma.
Panel Trafod: Branwen
Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod y chwedl, Branwen, ferch Llŷr. Yn ystod y sesiwn, ceir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r chwedl gan arbenigwyr ar ryddiaith yr Oesoedd Canol, sef Yr Athro Jerry Hunter a Dr Aled Llion Jones, Prifysgol Bangor, a Dr Rhiannon Ifans. Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 13 sy'n astudio'r chwedl ar gyfer arholiad Cymraeg (Uned 5) ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yn rhyddiaith yr Oesoedd Canol. Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Ebrill 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Chwilio am fwy o adnoddau ar Branwen? Gwyliwch ein sesiynau adolygu Ar-lên sydd ar gael yma.
Panel Trafod: Hedd Wyn
Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod y ffilm arobryn, Hedd Wyn, a sgriptiwyd gan Alan Llwyd ac a gyfarwyddwyd gan Paul Turner. Yn ystod y sesiwn, geir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r ffilm gan gynnwys y cyd-destun hanesyddol a diwylliannol, y themâu yr ymdrinnir â hwy, y portread o’r cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt yn ogystal â’r defnydd o symbolaethau o fewn y ffilm. Ystyrir hefyd bwysigrwydd a chyfraniad y ffilm o fewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol. Panel yn cynnwys Dr Manon Wyn Williams a'r Athro Gerwyn Wiliams, Prifysgol Bangor, yr actor Huw Garmon a Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth yr Ysgwrn. Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 sy'n astudio'r ffilm ar gyfer arholiad llafar Cymraeg UG (Uned 1), ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr hanes. Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Mawrth 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Chwilio am fwy o adnoddau ar Hedd Wyn? Gwyliwch ein sesiwn adolygu Ar-lên sydd ar gael yma.
Dewisa Lefel A Cymraeg: Ymgyrch ac adnoddau
Ymgyrch a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dewisa Lefel A Cymraeg sy'n ceisio annog rhagor o ddysgwyr ifanc i astudio Lefel A Cymraeg drwy ddarparu adnoddau hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth o’r manteision di-ben-draw sydd gan yr iaith i fywyd academaidd, gwaith a chyfleoedd diwylliannol. Mae gan yr ymgyrch, a lansiwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, gynnwys y gall athrawon ac ysgolion ei ddefnyddio fel ffordd o ennyn diddordeb dysgwyr, rhieni a gofalwyr yn y Gymraeg drwy’r canlynol: Tynnu sylw at y ffaith bod Lefel A Cymraeg yn agor drysau i gyfoeth o lwybrau prifysgol Pwysleisio’r amrywiaeth o yrfaoedd a diwydiannau lle mae’r Gymraeg yn sgil gwerthfawr iawn Rhoi cipolwg ar ehangder ac amrywiaeth cwricwlwm Lefel A Cymraeg Arddangos Lefel A Cymraeg fel pwnc modern, creadigol a pherthnasol Gwahodd dysgwyr i ymuno â chymuned lewyrchus o siaradwyr Cymraeg sy’n angerddol am eu diwylliant, eu treftadaeth a’r iaith Mae'r adnoddau yn cynnwys: Cynnwys gweledol: instazines, cardiau proffil, dyfyniadau, negeseuon holi ac ateb, negeseuon chwilio Fideos Posteri amrywiol Asedau cyfryngau cymdeithasol (GIFs) Pecyn cymorth athrawon Gellir defnyddio a rhannu'r adnoddau yn ddigidol neu mewn print, ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy eu hymgorffori mewn cyflwyniadau a phrospectws. Mae'r holl gynnwys ar gael yn ddwyieithog i'w lawrlwytho drwy'r ddolen Dropbox isod. I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch neu am y Gymraeg fel pwnc yn gyffredinol, cysylltwch â Dr Ffion Eluned Owen, Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg fel Pwnc y Coleg: ff.owen@colegcymraeg.ac.uk.
Stori Fer: Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel? (Adnoddau)
Adnoddau adolygu'r stori fer 'Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel?' gan Mihangel Morgan (o'r gyfrol Saith Pechod Marwol), sef un o'r straeon byrion ar fanyleb Cymraeg Ail Iaith UG/Safon Uwch (U2 Uned 6: Defnyddio Iaith a'r Stori Fer). Adnoddau yn cynnwys: Animeiddiad fideo o'r stori (gyda a heb isdeitlau) Darlith Fideo a chyflwyniad PowerPoint gan Yr Athro Tudur Hallam yn trafod y stori 'Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel?' Darlith Fideo a chyflwyniad PowerPoint gan Yr Athro Tudur Hallam yn sôn am eirfa ac ymadroddion defnyddiol i'w defnyddio wrth drafod y stori fer Adnoddau wedi eu creu gan Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Panel Trafod: Dod â Siwan yn Fyw
Cyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr ac wynebau cyfarwydd ym myd y ddrama Gymraeg yn trafod y ddrama Siwan gan Saunders Lewis. Panel yn cynnwys Dr Manon Wyn Williams, Prifysgol Bangor, Dr Llio Mai, a'r actorion Ffion Dafis a Dyfan Roberts. Yn ystod y sesiwn, ceir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r ddrama gan gynnwys ei hiaith, ei themâu, ei strwythur a’i chymeriadau gan hefyd ystyried ei chyfraniad o fewn cyd-destun y ddrama Gymraeg. Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 sy'n astudio'r ddrama ar gyfer arholiad llafar Cymraeg UG (Uned 1), ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn drama. Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Mawrth 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Chwilio am fwy o adnoddau ar Siwan? Gwyliwch ein sesiwn adolygu Ar-lên sydd ar gael yma.
Ar-lên 2023: Sesiynau Adolygu UG/Safon Uwch
Mae'r gweminarau adolygu byw hyn yn cael eu trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg Iaith Gyntaf UG/Safon Uwch. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, a llenorion ac academyddion blaenllaw eraill, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn Gymraeg drwy Zoom rhwng 4.30-5.30pm ar brynhawniau Mercher, gyda'r sesiwn gyntaf ar bnawn Mercher 1 Mawrth 2023. Amserlen: 1 Mawrth 2023: Dan Gadarn Goncrit (Mihangel Morgan), Dr Miriam Elin Jones, Prifysgol Abertawe (Bl.13) 8 Mawrth 2023: Mis Mai a Mis Tachwedd (Dafydd ap Gwilym), Iestyn Tyne (Bl.13) 15 Mawrth 2023: Blasu (Manon Steffan Ros), Dr Manon Wynn Davies (Bl.13) 23 Mawrth 2023: Un Nos Ola Leuad (Caradog Pritchard), Dr Siwan Rosser, Prifysgol Caerdydd (Bl.13) *Dydd Iau* 29 Mawrth 2023: Y Gymraeg mewn cyd-destun, Gruffydd Rhys Davies, Prifysgol Aberystwyth (Bl.13) 19 Ebrill 2023: 'Aneirin' (Iwan Llwyd), Dr Elis Dafydd, Prifysgol Bangor (Bl.12) 26 Ebrill 2023: 'Preseli' (Waldo Williams), Dr Elan Grug Muse (Bl.12) 3 Mai 2023: Ymarfer Papur Gramadeg, Yr Athro Peredur Lynch, Prifysgol Bangor (Bl.12) Bydd y ddolen ar gyfer y digwyddiad yn cael ei hanfon atoch ar e-bost ar y diwrnod neu'r diwrnod cynt. Croeso i ddisgyblion, myfyrwyr, athrawon ac athrawon dan hyfforddiant. Ni fyddwn yn gallu eich gweld, ond bydd modd defnyddio'r botwm sgwrsio i gyfrannu neu ofyn cwestiwn. Cofiwch ddilyn cyfrif Twitter @CymraegCCC a chyfrif Instagram @instagymraeg am fwy o wybodaeth a newyddion am y Gymraeg fel Pwnc. I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:
Astudiaethau Achos Busnes
Mae’r pecynnau hunan astudio yma’n defnyddio astudiaeth achos Cymreig i gyflwyno damcaniaethau busnes i ddysgwyr mewn colegau addysg bellach. Mae’r pecynnau wedi cael eu hanelu at ddysgwyr ar lefel tri ond gallant fod yn berthnasol i ddysgwyr ar lefelau is ac uwch hefyd. Mae’r adnoddau yn cyflwyno: Nodweddion gwasanaeth cwsmer da Nodweddion busnes mân-werthu Rheoli cadwyn gyflenwi Rheoli digwyddiad Adeiladu tîm mewn busnes Yn ogystal â’r pecynnau, ceir dolen at yr astudiaethau achos ar ffurf fideo ar wahân.
Gweithdai Mathemateg 2023
Awydd astudio Mathemateg yn y brifysgol? Eisiau cael blas ar fywyd myfyriwr Mathemateg a darganfod at ba yrfa y gallai gradd Mathemateg arwain? Dyma’ch cyfle i gael ragor o wybodaeth, cael blas ar fodiwlau a holi’ch cwestiynau i ddarlithwyr a chyn-fyfyrwyr! Fel rhan o’r gyfres bydd tri gweithdy byw ar-lein. Bydd y ddau gyntaf yn cael eu harwain gan ddarlithwyr Mathemateg o brifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd ac fe’u cefnogir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ystod y gweithdai hyn, bydd cyfle i chi gael blas ar fodiwl prifysgol; cyfarfod a dod i adnabod darlithwyr cyfrwng Cymraeg; gael rhagflas o'r hyn y mae'r brifysgol yn ei gynnig i fyfyrwyr sy'n astudio Mathemateg yn Gymraeg (e.e. dewis o fodiwlau, y math o gyrsiau sydd ar gael – anrhydedd sengl, cyfun); holi unrhyw gwestiynau. Cyflogadwyedd fydd ffocws y gweithdai olaf. O gyfrifydd i beiriannydd meddalwedd i feteorolegydd, mae gradd mewn Mathemateg yn agor llu o ddrysau. Bydd graddedigion Mathemateg sydd bellach yn y byd gwaith yn rhannu eu profiadau o fuddion gradd mewn Mathemateg, sut mae’r radd wedi eu helpu yn eu gyrfa ac yn rhoi rhagflas o’i gwaith. Y GWEITHDAI: Nos Iau 9 Mawrth 2023, 7pm – Prifysgol Aberystwyth Dr Tudur Davies a Dr Gwion Evans fydd yn arwain y gweithdy hwn, a ‘Geometreg arwynebau minimol’ fydd thema’r modiwl y byddwch yn cael blas arno. Bydd cyfle i chi holi eich cwestiynau. Nos Iau 16 Mawrth 2023, 7pm – Prifysgol Caerdydd Dr Dafydd Evans, Dr Mathew Pugh a Dr Geraint Palmer fydd yn arwain y gweithdy hwn, a ‘Hapgerddediadau’ fydd thema’r modiwl y byddwch yn cael blas arno. Bydd cyfle i chi holi eich cwestiynau. Dydd Llun 19 Mehefin 2023, 9:30yb, Cyflogadwyedd Dewch i glywed am yr ystod eang o yrfaoedd sydd modd i chi eu hystyried ar ôl astudio gradd Mathemateg a chlywed profiadau graddedigion. Bydd cyfle i chi holi eich cwestiynau. Siaradwyr i’w cadarnhau. Os oes gennych unrhyw gwestiwn cysylltwch â l.rees@colegcymraeg.ac.uk