Mae Darlith Edward Lhuyd yn gyflwyniad blynyddol ar wahanol agweddau o fywyd academaidd a chyfoes Cymru a'r byd. Ceir amrywiaeth eang o themâu gan gynnwys daeareg, llenyddiaeth, ecoleg neu hanes. Trefnir y ddarlith rhwng y Coleg a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Noder, ni fu darlithoedd yn 2020 - 2022 oherwydd Covid-19.
Darlith Flynyddol Edward Lhuyd
Be Ddywedodd Marx I – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan W. J. Rees. Mae'r casgliad hwn yn edrych ar syniadau'r athronydd chwyldroadol ar gymdeithas a chymdeithaseg. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Marx II – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Yma ceir disgrifiadau gan Marx ar wahanol fathau o gymdeithas, e.e. cymdeithasau cyntefig, ffiwdal, cyfalafol. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Weber – Ellis Roberts a Robat Powel
Detholiad o waith Max Weber yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Weber oedd un o brif sylfaenwyr cymdeithaseg fodern a llywiodd ei ddull gweithio newydd 'Verstehen', sef dull deongliadol neu gyfranogol o astudio ffenomena gymdeithasol, y maes. Rhoddodd Weber bwyslais ar ddeall yr ystyr a phwrpas mae unigolyn yn ei roi i'w weithredoedd ei hun.
Chwaraeon yn y Gymdeithas – Dr Hywel Iorwerth a Dr Carwyn Jones
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Ysgol Chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi mynd ati i ddatblygu ystod o fodiwlau cyfrwng Cymraeg newydd. Yn wir, mae'r adran yn cynnig dros ddeg modiwl cyfrwng Cymraeg erbyn hyn, ac mae nifer y myfyrwyr sy'n dewis astudio'r modiwlau hynny yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Ond er bod y myfyrwyr yn derbyn eu darlithoedd i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg – a bod deunyddiau dysgu perthnasol wedi eu llunio i gyd-fynd â'r darlithoedd hynny – nid oes llawer o destunau darllen ychwanegol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd. Yn sgil hyn, mae'n rhaid i fyfyrwyr ddibynnu bron yn gyfan gwbl ar lyfrau ac erthyglau cyfrwng Saesneg wrth astudio eu pwnc y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Yn anad dim felly, mae cyhoeddi'r gyfrol hon yn ymateb i'r galw am destun academaidd cyfrwng Cymraeg cynhwysfawr ar gyfer defnydd myfyrwyr sy'n astudio chwaraeon mewn cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol.O ran hynny, mae'r llyfr hwn yn arddangos arwyddocâd cymdeithasegol ac athronyddol pellgyrhaeddol byd y campau, drwy esbonio bod chwaraeon yn gyfrwng gweladwy a phoblogaidd, sy'n gallu hybu ac atgyfnerthu gwerthoedd a chredoau cymdeithasol ar y naill law, neu herio a thrawsnewid y ffordd yr ydym ni'n ymwneud gyda'r byd sydd o'n cwmpas ar y llaw arall.Mae'r gyfrol wedi ei rhannu'n ddwy brif ran: cyflwynir y cysyniad o astudio chwaraeon mewn cyd-destun cymdeithasol ehangach yn y rhan gyntaf, a gan gyfeirio at lenyddiaeth academaidd berthnasol – sydd eisoes wedi ymdrin â rhai pynciau o fewn y maes – anogir y darllenwyr i feddwl fel cymdeithasegwyr. Athroniaeth chwaraeon yw ffocws ail ran y llyfr. Gan ganolbwyntio'n benodol ar foeseg, arddangosir pam bod angen mynd ati i edrych ar y maes hwnnw yng nghyd-destun byd y campau.Drwy fynd ati i astudio cymdeithaseg ac athroniaeth, y gobaith yw y gallwn ddeall mwy am y cymdeithasau yr ydym yn byw ynddynt, ac am arwyddocâd ehangach y modd yr ydym yn ymddwyn. Heb os – gan ei fod yn gyfrwng mor boblogaidd a gweledol – mae chwaraeon yn faes hollbwysig i'w astudio yn y cyd-destun hwn.Awduron Chwaraeon yn y Gymdeithas yw Dr Hywel Iorwerth a Dr Carwyn Jones (sydd, ill dau, yn darlithio yn Ysgol Chwaraeon arloesol a blaenllaw Met Caerdydd ar hyn o bryd), a chyhoeddir y gyfrol drwy gefnogaeth y Coleg Cymraeg ..
Cymuned gan Hywel Williams (2014)
Mewn rhaglen ddogfen onest, yr hanesydd Hywel Williams fydd yn herio'r syniad bod Cymru'n genedl 'gymunedol'. Aiff Hywel ati yn ei ffordd ddihafal ei hun i ddryllio'r ddelwedd yma o Gymru fel gwlad 'gymunedol': cymuned glos, saff a mewnblyg. Ond o ble daw'r syniad yma yn y lle cyntaf ac ai ystrydeb yw'r cyfan? Drwy ddefnydd crefftus o archif, sgript, cerddoriaeth a barddoniaeth, bydd Hywel yn cyflwyno dadl ddeallusol a gweledol fydd yn codi cwestiynau ac yn tanio trafodaeth. Awen.tv, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Anufudd-dod Dinesig – Meredydd Evans
Darlith yn trafod amodau moesol gweithredu anghyfreithlon, neu anufudd-dod dinesig, dros yr iaith Gymraeg. Dyma Ddarlith Goffa J. R. Jones, 1993.
Areithiau Eisteddfod Aberafan – J. R. Jones (gol.)
Casgliad o bedair araith gan J. R. Jones, Siôn Daniel, Emyr Llywelyn ac Alwyn D. Rees a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan ym 1966 yn trafod ymgyrchu dros y Gymraeg a lle gweithredu anghyfreithlon yn dilyn ethol aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans.
Cyflwyniad yr Athro Gareth Williams ar ysgrifau sydd wedi dylanwadu arno
Mae'r Athro Gareth Williams yn hanesydd disglair, yn arbenigo ar ddiwylliant poblogaidd yng Nghymru yn y 19eg a'r 20fed ganrif. Mae bellach yn Athro Emeritws Prifysgol De Cymru. Yma, mewn darlith a draddododd ym Mhrifysgol Abertawe ar 17 Ebrill 2013, mae'n trafod pa ysgrifau sydd wedi dylanwadu ar ei yrfa.
Catrin Fflur Huws, 'Siarad iaith yr aelwyd pan fo'r aelwyd yn anfforddiadwy' (2008)
Dros y chwarter canrif diwethaf, mae tai wedi mynd yn fwyfwy anfforddiadwy i'r mwyafrif helaeth o bobl. Mae'r erthygl hon yn ceisio mynd i'r afael â'r hyn sydd wedi achosi'r sefyllfa hon, a'i heffeithiau ar yr unigolyn ac ar y gymuned. Hefyd, bydd yn ystyried sut y mae tai anfforddiadwy a diffyg cyfleoedd tai ar gyfer pobl leol yn effeithio ar yr iaith Gymraeg. Yna, bydd yr erthygl yn ystyried y mecanweithiau a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Whitehall i ddatrys y problemau cydberthynol, sef tai anfforddiadwy a'r ffaith bod pobl leol yn methu â fforddio prynu tai yn eu hardal leol, ac i ba raddau y mae'r datrysiadau hyn yn cynnig atebion i'r dilema hwn sydd yn gynaliadwy yn y tymor hir. I orffen, cynigir awgrymiadau ynghylch sut i wella'r fframweithiau presennol, yn ogystal â dulliau mwy radical i sicrhau nad yw tai yn mynd yn foethusbeth. Catrin Fflur Huws, 'Siarad iaith yr aelwyd pan fo'r aelwyd yn anfforddiadwy', Gwerddon, 3, Mai 2008, 71-93.
Catrin Fflur Huws, 'Yr iaith Gymraeg fel model ar gyfer torri'r cylch diffyg defnydd mewn cyd-destun ieithoedd...
Gan ddefnyddio statws cyfredol yr iaith Gymraeg mewn addysg ôl-16 a gweinyddu cyfiawnder fel modelau, amcan yr erthygl hon yw esbonio cylchred o ddiffyg defnydd ieithyddol, sydd yn bodoli er gwaethaf darpariaeth ffurfiol ar gyfer gwasanaethau ac adnoddau drwy gyfrwng iaith leiafrifol. Wedi hynny, eglurir ymhle y gellir canfod gwendidau o fewn y rhediad hwn. Yna cloriannir sut gellir defnyddio deddfwriaeth a pholisiau cyfredol mewn modd mwy effeithlon er mwyn newid ymddygiad ieithyddol. Catrin Fflur Huws, 'Yr iaith Gymraeg fel model ar gyfer torri'r cylch diffyg defnydd mewn cyd-destun ieithoedd lleiafrifol', Gwerddon, 8, Gorffennaf 2011, 7-27.
Lowri Cunnington Wynn '"Beth yw'r ots gennyf i am Gymru?": Astudiaeth o allfudo a dyheadau pobl ifanc o'r broy...
Mae’r erthygl hon yn ystyried allfudo ymysg pobl ifanc o’r bröydd Cymraeg eu hiaith o safbwynt eu dyheadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae’r ymchwil doethur gwreiddiol (2014) yn seiliedig ar waith Hywel Jones (2010), sy’n dadlau bod pobl ifanc a anwyd y tu allan i Gymru oddeutu bedair gwaith yn fwy tebygol o fudo o Gymru na phobl ifanc a anwyd yma. Ceisiwyd sefydlu pa rai yw’r prif ffactorau sy’n effeithio ar gyfraddau allfudo ymysg pobl ifanc sydd heb eu geni yng Nghymru a’r rhai sy’n blant i rieni nad ydynt yn frodorion. Deuir i’r casgliad mai un o’r prif resymau dros allfudo ymysg y grŵp hwn yw ffactorau’n ymwneud â’r ymdeimlad o berthyn a’u lefelau integreiddio i’r cymunedau dan sylw, yn hytrach na ffactorau economaidd yn unig. Yn benodol, ystyrir sut mae diwylliant, cenedligrwydd ac ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg yn effeithio ar y duedd hon, sydd ag oblygiadau pwysig o safbwynt cadw siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd Cymraeg ‘traddodiadol’.