Y prif siaradwr yn y Gynhadledd Heriau Cyfieithu a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 27 Hydref 2017 oedd John Evans, Cyfieithydd yn y Comisiwn Ewropeaidd. Dyma'r delweddau sy'n cyd-fynd â'i gyflwyniad yn trafod rôl y cyfieithydd o fewn y Comisiwn Ewropeaidd.
John Evans: Cyfieithu i'r Comisiwn Ewropeaidd
John Rhidian Thomas a Siân W. Griffiths, 'Anifeiliaid ymledol a'u heffeithiau ar ecosystemau d?r croyw Prydain...
Cyflwyno rhywogaethau anfrodorol yw un o'r bygythiadau mwyaf sylweddol a wyneba bioamrywiaeth byd eang. Ceir effaith sylweddol ar ecosystemau d?r croyw, oherwydd cyflwynir nifer fawr o rywogaethau i lynnoedd ac afonydd ar gyfer dyframaethu a physgota. Yn yr erthygl hon, disgrifir yr anifeiliaid d?r croyw anfrodorol hynny sy'n bresennol ac yn ymledu ym Mhrydain, neu sy'n debygol o ymsefydlu dros y blynyddoedd nesaf. Esbonnir sut effaith y caiff yr anifeiliaid hyn ar ecosystemau d?r croyw ac economi Prydain, gan hefyd amlygu'r problemau hynny sy'n dod i'r amlwg wrth geisio rheoli'r ymledwyr. Trafodir hefyd sut y bydd newid hinsawdd a bygythiadau eraill yn effeithio ar ddosbarthiad rhywogaethau ymledol yn y dyfodol. John Rhidian Thomas a Siân W. Griffiths, 'Anifeiliaid ymledol a'u heffeithiau ar ecosystemau d?r croyw Prydain', Gwerddon, 25, Hydref 2017, 7–29.
Leila Salisbury, 'Golwg ar ganeuon serch Iolo Morganwg, gyda sylw arbennig i'r Ferch o'r Scerr'' (2010)'
Mae llawysgrifau Iolo Morganwg (1747-1826), yn ogystal â'i gasgliad o ganeuon gwerin brodorol, yn rhoi cipolwg unigryw i ni ar gyfnod pwysig yn hanes diwylliant Cymru yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Prif ffocws yr astudiaeth hon yw'r caneuon serch a geir yn ei gasgliad, ynghyd â'r cyd-destun a'r cefndir cymdeithasol ehangach sy'n sail i'r caneuon gwerin. Gellir olrhain y traddodiad hwn i feirdd yr uchelwyr ac, yn arbennig, i oes Dafydd ap Gwilym. Hefyd, trafodir un dôn werin benodol yn fanwl, 'Y Ferch o'r Scerr'. Mae'r stori serch, y dôn werin a'r geiriau sydd fel arfer yn gysylltiedig â'r 'Ferch o'r Scerr' i gyd yn dra hysbys mewn sawl cylch, fodd bynnag, mae'r dôn werin a recordiwyd gan Iolo yn gwbl anhysbys. Leila Salisbury, 'Golwg ar ganeuon serch Iolo Morganwg, gyda sylw arbennig i'r 'Ferch o'r Scerr'', Gwerddon, 5, Ionawr 2010, 53-80.
Lisa Lewis, 'O’r ddrama gymdeithasol i’r pasiant: theatr yn y gyfnewidfa ddiwylliannol rhwng Cymru a gogledd-d...
Mae’r erthygl hon yn defnyddio theatr fel modd i fewnsyllu ar gyfnewidfa ddiwylliannol Cymru a Bryniau Casia a Jaiñtia a wreiddir yn hanes Cenhadaeth Dramor y Methodistaid Calfinaidd Cymreig yng ngogledd-ddwyrain India rhwng 1841 ac 1969. Gan ganolbwyntio ar ddramâu Casi o’r cyfnod trefedigaethol yn ogystal ag enghraifft o berfformiad cenhadol a lwyfannwyd yng Nghymru yn 1929, cwestiynir i ba raddau y dylanwadodd canfyddiadau’r Cymry o theatr a’r ddrama ar berfformio brodorol Bryniau Casia, ac yn yr un modd, i ba raddau y dylanwadodd canfyddiad y cenhadon o India ar y syniad a’r gynrychiolaeth o’r wlad honno mewn portreadau perfformiadol ohoni yng Nghymru.
Lisa Sheppard, 'Troi Dalen "Arall"': Ail-ddehongli'r berthynas rhwng cymunedau Cymraeg a Saesneg de Cymru mew...
Enillydd Gwobr Gwerddon am erthygl orau 2015-17. Mae'r erthygl hon yn dadansoddi'r berthynas rhwng siaradwyr Cymraeg a Saesneg yn y golygfeydd tafarn mewn dwy nofel gyfoes o dde Cymru, sef Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd (2009) a The Book of Idiots gan Christopher Meredith (2012), yng ngoleuni damcaniaethau athronyddol am yr 'arall' ac aralledd. Olrheinir datblygiad cysyniad yr 'arall' gan ystyried gwaith athronwyr a damcaniaethwyr diwylliannol megis Georg Hegel, Simone de Beauvoir, Frantz Fanon a Homi Bhabha. Trwy droi at waith Charlotte Williams a Simon Brooks, dadleuir y gallai siaradwyr Cymraeg a Saesneg Cymru fel ei gilydd brofi aralledd, ac yna try'r erthygl at y nofelau er mwyn archwilio sut yr adlewyrchir hyn mewn testunau ffuglennol cyfoes. Daw'r erthygl i gasgliad ynglyˆn ag arwyddocâd aralledd i'r dychymyg a'r hunaniaeth Gymreig gyfoes, ac awgryma sut y gallai syniadau athronyddol eraill ein helpu i ganfod tir cyffredin rhwng dwy brif gymuned ieithyddol y genedl. Lisa Sheppard, 'Troi Dalen “Arall”: Ail-ddehongli'r berthynas rhwng cymunedau Cymraeg a Saesneg de Cymru mewn dwy nofel ddiweddar yng ngoleuni ffigwr yr “arall”', Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 26-47.
Llawlyfr Creadigedd yn yr ysgol gynradd
Datblygwyd y llawlyfr ar-lein yma gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Mae’n cyflwyno a thrafod prif elfennau creadigrwydd yn yr ysgol gynradd ar gyfer ymarferwyr y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Mae’r llawlyfr yn ymateb i ddatblygiadau polisi Llywodraeth Cynlluniad Cymru ac yn cynnig arweiniad ar sut i baratoi, creu, cynllunio, datblygu, trefnu ac asesu gweithgareddau dysgu ‘creadigedd’ o ansawdd uchel.
Llawlyfr Hen Gymraeg – Alexander Falileyev
Dyma'r disgrifiad cynhwysfawr cyntaf un o Hen Gymraeg (iaith y 9fed ganrif hyd ddechrau'r ddeuddegfed) i ymddangos yn yr iaith Gymraeg. Mae'n addasiad (gan yr awdur ei hunan) o Gramadeg Hen Gymraeg, Alexander Falileyev, a gyhoeddwyd yn Rwsieg yn 2002, ac yn Ffrangeg yn 2008. Yn ogystal â throsi'r gwaith i'r Gymraeg, mae Dr Falileyev wedi'i addasu ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac wedi ymgorffori ffrwyth yr ymchwil diweddaraf ar y testunau hyn (peth ohono eto i'w gyhoeddi). Mae hyn yn golygu y bydd o ddiddordeb i ysgolheigion profiadol yn ogystal â myfyrwyr a lleygwyr. Mae'n cynnwys disgrifiadau manwl o'r testunau hysbys, gyda llyfryddiaeth lawn, penodau ar ffonoleg, gramadeg a chystrawen yr iaith, a detholiad o destunau golygedig gyda nodiadau cynhwysfawr a geirfa. Mae'r llyfr hwn yn rhoi cyfle, am y tro cyntaf, i'r Cymry ddod i adnabod rhai o'r enghreifftiau cynharaf hysbys o destunau yn eu hiaith. Mae Dr Falileyev, yn enedigol o St Petersburg, Rwsia, yn arbenigydd ar yr ieithoedd Celtaidd. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth ar enwau lleoedd a phersonol Celtaidd o Ewrop yn yr hen gyfnod, ac ar iaith a llenyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol Golygydd y Gyfres: Dr Simon Rodway, Prifysgol Aberystwyth.
Llawlyfr Technolegau Iaith
Mae’r llawlyfr hwn yn esbonio beth yw technolegau iaith ac yn ddisgrifio rhai o’r cydrannau mwyaf sylweddol yn ogystal â cheisio egluro’r dulliau a ddefnyddir i'w gwireddu. Mae wedi’i fwriadu ar gyfer myfyrwyr, datblygwyr, academyddion, swyddogion polisi, ac eraill sydd heb gefndir yn y maes ond sydd eisiau deall mwy am feysydd pwysig prosesu iaith naturiol, deallusrwydd artiffisial, technoleg cyfieithu a thechnoleg lleferydd. Mae'r llawlyfr hefyd ar gael ar wefan Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru. Ysgrifennwyd gan swyddogion o Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, a Cymen Cyf gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Lowri Cunnington Wynn '"Beth yw'r ots gennyf i am Gymru?": Astudiaeth o allfudo a dyheadau pobl ifanc o'r broy...
Mae’r erthygl hon yn ystyried allfudo ymysg pobl ifanc o’r bröydd Cymraeg eu hiaith o safbwynt eu dyheadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae’r ymchwil doethur gwreiddiol (2014) yn seiliedig ar waith Hywel Jones (2010), sy’n dadlau bod pobl ifanc a anwyd y tu allan i Gymru oddeutu bedair gwaith yn fwy tebygol o fudo o Gymru na phobl ifanc a anwyd yma. Ceisiwyd sefydlu pa rai yw’r prif ffactorau sy’n effeithio ar gyfraddau allfudo ymysg pobl ifanc sydd heb eu geni yng Nghymru a’r rhai sy’n blant i rieni nad ydynt yn frodorion. Deuir i’r casgliad mai un o’r prif resymau dros allfudo ymysg y grŵp hwn yw ffactorau’n ymwneud â’r ymdeimlad o berthyn a’u lefelau integreiddio i’r cymunedau dan sylw, yn hytrach na ffactorau economaidd yn unig. Yn benodol, ystyrir sut mae diwylliant, cenedligrwydd ac ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg yn effeithio ar y duedd hon, sydd ag oblygiadau pwysig o safbwynt cadw siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd Cymraeg ‘traddodiadol’.
M. Wynn Thomas, 'Y werin a'r byddigions: Gwaed yr Uchelwyr' a diwylliant llên troad y ganrif' (2017)'
Dadl greiddiol yr ysgrif yw y byddai'n werth gosod drama nodedig Saunders Lewis, Gwaed yr Uchelwyr, yng nghyd-destun nifer o nofelau Saesneg Cymru a gyhoeddwyd ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n ymdrin â pherthnasedd yr hen bendefigaeth i'r Gymru Newydd yr oedd mudiad Cymru Fydd yn ei hybu. Awgrymir y gall amgyffred y testunau hyn finiogi a chyfoethogi ein dehongliad o ddrama sy'n gynnil ac yn amwys iawn ei goblygiadau. M. Wynn Thomas, 'Y werin a'r byddigions: Gwaed yr Uchelwyr a diwylliant llên troad y ganrif', Gwerddon, 24, Awst 2017, 66-82.
Manon Jones, 'Seiliau seicolegol darllen yn rhugl: adolygiad' (2014)
Mae deugain mlynedd o waith ymchwil wedi nodi sawl un o'r prosesau seicolegol sy'n sail i'r gallu i ddarllen. Serch hynny, tan yn ddiweddar, bu seiliau gwybyddol (cognitive) rhuglder darllen yn gymharol anhysbys. Yn yr adolygiad hwn, rhoddir disgrifiad o ruglder darllen fel ffenomen wybyddol a niwrofiolegol, gan gynnwys y gwaith ymchwil a wnaed i ddeall y broses hon. Mae fy ngwaith i a'm cyd-weithwyr yn canolbwyntio ar y maes hwn, ac amlinellaf ein prif ganfyddiadau hyd yma. Deuir â'r gwaith i'w derfyn drwy amlinellu goblygiadau'r gwaith mewn perthynas â deall rhuglder darllen yn achos oedolion medrus ynghyd â'r rhai sydd â'r cyflwr dyslecsia. Manon Jones, 'Seiliau seicolegol darllen yn rhugl: adolygiad', Gwerddon, 18, Medi 2014, 41-54.
Manon Mathias, 'Meiddio Byw': Agwedd y llenor at fywyd yng ngohebiaeth George Sand, Gustave Flaubert, Kate Rob...
Yn yr erthygl hon, cymherir llythyron adnabyddus Kate Roberts a Saunders Lewis â gohebiaeth dau o awduron blaenllaw Ffrainc y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Gustave Flaubert a George Sand, gan ystyried gwerth a phwrpas gohebiaeth i lenorion. Yn ogystal â dyfnhau ein dealltwriaeth o waith Kate Roberts a Saunders Lewis, y mae'r erthygl hefyd yn gosod gohebiaeth Sand a Flaubert mewn cyd-destun gwahanol ac yn ystyried datblygiad gohebiaeth lenyddol ar hyd y blynyddoedd. Deuir i gasgliadau gwreiddiol drwy ddangos bod llythyron llenyddol yn parhau i gyflawni swyddogaeth hollbwysig i awduron yn yr ugeinfed ganrif: cynnig anogaeth a chyngor, cyfle i ddianc rhag eu hamgylchiadau, ac arf hanfodol yn eu brwydr yn erbyn gwagedd cymdeithas fodern. Manon Mathias, '“Meiddio Byw”: Agwedd y llenor at fywyd yng ngohebiaeth George Sand, Gustave Flaubert, Kate Roberts a Saunders Lewis', Gwerddon, 12, Rhagfyr 2012, 79-95.