Mae gan yr Haul faes magnetig cymhleth sy'n ymdreiddio drwy'r ffotosffer (arwyneb yr Haul) i'r corona (atmosffer yr Haul). Ymddengys fod fflwcs magnetig newydd yn codi drwy arwyneb yr Haul ar ffurf dolenni caeëdig gydag un rhan o'r ddolen yn treiddio i'r ffotosffer, gan ehangu i'r corona. Mae'r broses yn nodweddiadol o ardaloedd bywiog yn y corona. Trwy gydol y broses, caiff y maes magnetig yn y corona ei greu a'i adnewyddu'n gyson. Mae hefyd yn bosibl i'r maes magnetig a phlasma (nwy trydanol egnïol) gael eu cludo allan o'r corona drwy lifo gyda gwynt yr Haul i'r heliosffer (y gofod yng nghynefin yr Haul sy'n cynnwys cysawd yr Haul). Ceir cludiant o'r fath yn ystod digwyddiadau ffrwydrol ar yr Haul. Yn ôl y llenyddiaeth gyfredol, ni cheir cludiant oni cheir digwyddiad ffrwydrol, ac felly pan na cheir ffrwydrad, disgwylir y caiff meysydd magnetig caeëdig ardaloedd bywiog y corona eu hynysu rhag yr heliosffer. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno tystiolaeth wahanol i'r llenyddiaeth gyfredol. Mae'r arsylwadau a gyflwynir yn dangos y dystiolaeth gyntaf y gall y maes magnetig caeëdig ehangu'n uniongyrchol o'r corona heb ddigwyddiad ffrwydrol gan ffurfio rhan bwysig o wynt yr Haul. Cesglir y dystiolaeth drwy gymhwyso technegau delweddu newydd i arsylwadau o'r corona. Cyflwynir yr arsylwadau a thrafodir eu goblygiadau i'r darlun cyfredol a geir o'r prosesau sy'n cysylltu'r Haul â'r heliosffer. Huw Morgan, 'Ehangiad ardaloedd bywiog o'r Haul i'r gofod', Gwerddon, 18, Medi 2014, 10-22.
Huw Morgan, 'Ehangiad ardaloedd bywiog o'r Haul i'r gofod' (2014)
Gerwyn Wiliams, 'Cynan, Y Sefydliad a Chwyldro'r 1960au' (2014)
Cynan (Albert Evans-Jones, 1895-1970) oedd un o brif gynrychiolwyr Y Sefydliad yng Nghymru am ran helaeth o'r ugeinfed ganrif. Bu'n Archdderwydd ddwywaith a chwaraeodd ran ganolog ym mhenderfyniad dadleuol yr Orsedd i gymryd rhan yn seremoni Arwisgo'r Tywysog Siarl yng nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969. Ef hefyd oedd un o awduron Rheol Iaith yr Eisteddfod Genedlaethol, rheol y daliodd yn gryf o'i phlaid fel Llywydd Llys yr Eisteddfod tuag at ddiwedd ei oes. O gymharu, Dafydd Iwan oedd un o arweinwyr amlycaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mudiad a fabwysiadodd 'ddulliau chwyldro' yn ystod y 1960au. Yn yr erthygl hon, ystyrir y gwrthdaro rhwng Cynan a Dafydd Iwan a'r modd y cynrychiolai'r gwrthdaro hwnnw ymrafael ynghylch yr union ddiffiniad o Gymreictod ar y pryd. Gerwyn Wiliams, 'Cynan, Y Sefydliad a Chwyldro'r 1960au', Gwerddon, 17, Mawrth 2014, 12-22.
Adnoddau dysgu ac addysgu Cymraeg fel ail iaith (Cynllun Colegau Cymru gynt)
Casgliad o adnoddau hylaw ar gyfer darlithwyr a hyfforddeion i hwyluso dysgu ac addysgu Cymraeg ail iaith ar draws y sector addysg cynradd. Gellir defnyddio'r matiau fel sail i ddarlithoedd, yn ganllaw ymarferol i hyrwyddo iaith achlysurol, ac fel cymorth i sicrhau cywirdeb wrth lunio taflenni, murluniau a modelu ysgrifennu. Nid yw Cynllun Colegau Cymru yn bodoli bellach. Fe’i ddisodlwyd gan y Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg yn 2018. Dyma’r Fframwaith a fabwysiedir i fesur sgiliau iaith holl hyfforddeion ar gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae’r tasgau a gweithgareddau iaith yn y deunyddiau isod yn parhau yn berthnasol ond nid yw’r cyfeiriadau penodol at y lefelau a’r camau oedd yn perthyn i Gynllun Colegau Cymru.
Cynhadledd Ryngwladol 2014
Yn y casgliad hwn ceir cyflwyniadau o Gynhadledd Ryngwladol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 1-3 Gorffennaf 2014. 'Pa le i'n hiaith mewn Addysg Uwch?' oedd thema'r gynhadledd ac mae'r cyflwyniadau'n ymwneud yn bennaf â pholisi iaith ac addysg yng Nghymru ac Ewrop.
Coffáu’r Rhyfel Mawr yng Nghymru – seminar gyda'r Athro Syr Deian Hopkin
Coffáu’r Rhyfel Mawr yng Nghymru – seminar gyda'r Athro Syr Deian Hopkin
Yr Athro Syr Deian Hopkin yn siarad â myfyrwyr ar 20 Mawrth 2014 ynglŷn â sut i goffáu’r Rhyfel Mawr yng Nghymru yn ystod canmlwyddiant dechrau'r rhyfel.
Gloywi Iaith
Cyfres o adnoddau hylaw i loywi iaith ar gyrsiau hyfforddi cychwynnol athrawon. Gall y deunydd gael ei ddefnyddio gan athrawon newydd gymhwyso ac athrawon profiadol i wirio adnoddau a chynlluniau gwersi.
Be Ddywedodd Weber – Ellis Roberts a Robat Powel
Detholiad o waith Max Weber yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Weber oedd un o brif sylfaenwyr cymdeithaseg fodern a llywiodd ei ddull gweithio newydd 'Verstehen', sef dull deongliadol neu gyfranogol o astudio ffenomena gymdeithasol, y maes. Rhoddodd Weber bwyslais ar ddeall yr ystyr a phwrpas mae unigolyn yn ei roi i'w weithredoedd ei hun.
Be Ddywedodd Marx I – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan W. J. Rees. Mae'r casgliad hwn yn edrych ar syniadau'r athronydd chwyldroadol ar gymdeithas a chymdeithaseg. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Marx II – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Yma ceir disgrifiadau gan Marx ar wahanol fathau o gymdeithas, e.e. cymdeithasau cyntefig, ffiwdal, cyfalafol. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Athronyddu am Grefydd – Dewi Z. Phillips
Casgliad o ysgrifau ar athroniaeth crefydd yn ymateb i ddisgwrs y cyfnod ar ystyr bodolaeth ac argyfwng cymdeithas sy'n ymwrthod â chrefydd gristnogol a bodolaeth Duw. Trafodir natur yr iaith a geir mewn credoau crefyddol a'n dealltwriaeth ohoni a thrafodir theorïau ynglŷn â thragwyddoldeb.
Sgiliau astudio - Gwaith Ysgrifenedig
Casgliad o glipiau fideo i helpu myfyrwyr i weithio'n effeithiol ac i gyflwyno gwaith ysgrifenedig da.
Crefft y Stori Fer – Saunders Lewis (gol.)
Casgliad o sgyrsiau rhwng Saunders Lewis ac awduron straeon byrion yn 1947-8, cyfnod pwysig yn natblygiad y stori fer Gymraeg. Ceir darlun drwy'r sgyrsio o fywydau'r llenorion, y gymdeithas oedd yn ysbrydoliaeth i'w llên a'r hyn a'u hysgogodd i ysgrifennu.