Cyfieithiad Cymraeg o Faniffesto'r Blaid Gomiwnyddol (Manifest der Kommunistischen Partei). Cyhoeddwyd y cyfieithiad gwreiddiol yn 1948 i ddathlu canmlwyddiant y Maniffesto. Seiliodd W. J. Rees ei gyfieithiad ar y pedwerydd argraffiad Almaeneg (1890). Aethpwyd ati i gyhoeddi cyfieithiad diwygiedig yn 2008 a dyna'r fersiwn a geir yma, ynghyd â rhagair gwreiddiol cyhoeddiad 1948, rhagymadrodd 2008 gan Robert Griffiths a rhagair newydd i'r cyhoeddiad digidol gan Howard Williams.
Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol – Karl Marx a Frederick Engels
Darlith Gethin Matthews: 'Ffaith a Ffuglen - Cyn-filwyr a'u hatgofion
Darlith gan Dr Gethin Matthews, Prifysgol Abertawe, ar y testun 'Ffaith a Ffuglen - Cyn-filwyr a'u hatgofion'. Traddodwyd y ddarlith fel rhan o gynhadledd 'Creithiau: Dylanwad y Rhyfel Mawr ar Gymdeithas a Diwylliant yng Nghymru' dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym mis Ionawr 2014.
Adnoddau dysgu ac addysgu Cymraeg fel ail iaith (Cynllun Colegau Cymru gynt)
Casgliad o adnoddau hylaw ar gyfer darlithwyr a hyfforddeion i hwyluso dysgu ac addysgu Cymraeg ail iaith ar draws y sector addysg cynradd. Gellir defnyddio'r matiau fel sail i ddarlithoedd, yn ganllaw ymarferol i hyrwyddo iaith achlysurol, ac fel cymorth i sicrhau cywirdeb wrth lunio taflenni, murluniau a modelu ysgrifennu. Nid yw Cynllun Colegau Cymru yn bodoli bellach. Fe’i ddisodlwyd gan y Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg yn 2018. Dyma’r Fframwaith a fabwysiedir i fesur sgiliau iaith holl hyfforddeion ar gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae’r tasgau a gweithgareddau iaith yn y deunyddiau isod yn parhau yn berthnasol ond nid yw’r cyfeiriadau penodol at y lefelau a’r camau oedd yn perthyn i Gynllun Colegau Cymru.
Areithiau Eisteddfod Aberafan – J. R. Jones (gol.)
Casgliad o bedair araith gan J. R. Jones, Siôn Daniel, Emyr Llywelyn ac Alwyn D. Rees a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan ym 1966 yn trafod ymgyrchu dros y Gymraeg a lle gweithredu anghyfreithlon yn dilyn ethol aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans.
Gloywi Iaith
Cyfres o adnoddau hylaw i loywi iaith ar gyrsiau hyfforddi cychwynnol athrawon. Gall y deunydd gael ei ddefnyddio gan athrawon newydd gymhwyso ac athrawon profiadol i wirio adnoddau a chynlluniau gwersi.
Adolygiad Barnwrol
Cyfres o chwe darlith gan Manon George, Prifysgol Caerdydd, ar Adolygiad Barnwrol.
Sel Williams, 'Cloriannu Cymdeithasiaeth: Syniadaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg' (2014)
Yn yr erthygl hon, edrychir ar gymdeithasiaeth, sef set o syniadau gwleidyddol a ddatblygwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg (CYIG), sy'n codi o brofiad ymgyrchu'r gymdeithas. Prif amcan yr erthygl yw cloriannu cymdeithasiaeth, ac ystyrir y syniadaeth a'r berthynas rhwng y theori ac ymarfer gwleidyddol. Mae cymuned yn greiddiol i athroniaeth cymdeithasiaeth, ac yn yr erthygl hon ceisir ateb y cwestiwn; 'beth yw rôl cymuned a pherthnasedd gwleidyddol cymdeithasiaeth heddiw?' Dechreuir drwy edrych ar syniadaeth cymdeithasiaeth fel y datblygodd ochr yn ochr â phrofiad gweithredu CYIG. Yna edrychir ar y gymuned yng ngwleidyddiaeth Cymru fodern, ynghyd â natur a rôl datblygu cymunedol heddiw. Mae hyn yn gosod sail i'r drafodaeth sy'n dilyn ar gloriannu cymdeithasiaeth. Sel Williams, 'Cloriannu Cymdeithasiaeth: Syniadaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg', Gwerddon, 17, Mawrth 2014, 41-57.
Sgiliau astudio - Gwaith Ysgrifenedig
Casgliad o glipiau fideo i helpu myfyrwyr i weithio'n effeithiol ac i gyflwyno gwaith ysgrifenedig da.
Huw Morgan, 'Ehangiad ardaloedd bywiog o'r Haul i'r gofod' (2014)
Mae gan yr Haul faes magnetig cymhleth sy'n ymdreiddio drwy'r ffotosffer (arwyneb yr Haul) i'r corona (atmosffer yr Haul). Ymddengys fod fflwcs magnetig newydd yn codi drwy arwyneb yr Haul ar ffurf dolenni caeëdig gydag un rhan o'r ddolen yn treiddio i'r ffotosffer, gan ehangu i'r corona. Mae'r broses yn nodweddiadol o ardaloedd bywiog yn y corona. Trwy gydol y broses, caiff y maes magnetig yn y corona ei greu a'i adnewyddu'n gyson. Mae hefyd yn bosibl i'r maes magnetig a phlasma (nwy trydanol egnïol) gael eu cludo allan o'r corona drwy lifo gyda gwynt yr Haul i'r heliosffer (y gofod yng nghynefin yr Haul sy'n cynnwys cysawd yr Haul). Ceir cludiant o'r fath yn ystod digwyddiadau ffrwydrol ar yr Haul. Yn ôl y llenyddiaeth gyfredol, ni cheir cludiant oni cheir digwyddiad ffrwydrol, ac felly pan na cheir ffrwydrad, disgwylir y caiff meysydd magnetig caeëdig ardaloedd bywiog y corona eu hynysu rhag yr heliosffer. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno tystiolaeth wahanol i'r llenyddiaeth gyfredol. Mae'r arsylwadau a gyflwynir yn dangos y dystiolaeth gyntaf y gall y maes magnetig caeëdig ehangu'n uniongyrchol o'r corona heb ddigwyddiad ffrwydrol gan ffurfio rhan bwysig o wynt yr Haul. Cesglir y dystiolaeth drwy gymhwyso technegau delweddu newydd i arsylwadau o'r corona. Cyflwynir yr arsylwadau a thrafodir eu goblygiadau i'r darlun cyfredol a geir o'r prosesau sy'n cysylltu'r Haul â'r heliosffer. Huw Morgan, 'Ehangiad ardaloedd bywiog o'r Haul i'r gofod', Gwerddon, 18, Medi 2014, 10-22.
Athronyddu am Grefydd – Dewi Z. Phillips
Casgliad o ysgrifau ar athroniaeth crefydd yn ymateb i ddisgwrs y cyfnod ar ystyr bodolaeth ac argyfwng cymdeithas sy'n ymwrthod â chrefydd gristnogol a bodolaeth Duw. Trafodir natur yr iaith a geir mewn credoau crefyddol a'n dealltwriaeth ohoni a thrafodir theorïau ynglŷn â thragwyddoldeb.
Jeff Smith, 'Model amldonfedd i ddelweddu a dadansoddi meysydd magnetig yng nghorona'r Haul' (2014)
Mae'r Haul yn system ddynamig, gymhleth, sy'n llawn nodweddion diddorol a phwysig. Gellir modelu'r fath nodweddion drwy sawl dull, e.e. modelau Meysydd Di-rym Aflinol (NLFFF: non-linear force-free field). Yn y papur hwn, adeiladir efelychiadau NLFFF. Y bwriad yw amcangyfrif patrymau gofodol y maes magnetig yng nghromosffer a chorona'r Haul ynghyd â newidiadau yn yr egni rhydd sydd yn y system, fel colledion egni oherwydd ffrwydradau ar yr Haul. Mae gan y rhan fwyaf o fodelau sydd eisoes yn bodoli gydraniad amserol (temporal cadence) o 12 munud ar y gorau (h.y. efelychir y sefyllfa bob 12 munud). Mae'r dull a drafodir yn y papur hwn yn gwneud sawl bras amcan ond mae'n anelu at gyrraedd cydraniad amserol o 45 eiliad. Canfyddir bod y dull a ddefnyddir yma yn efelychu data synthetig yn llwyddiannus, ac wrth ymdrin â data go iawn, mae'n cynhyrchu delweddau sy'n aml yn cyfateb yn dda i arsylwadau. Gwelir sawl cwymp yn yr egni rhydd o fewn y system, sy'n cyfateb i ffrwydradau yr arsylwyd arnynt. Gyda hynny, rhoddir golwg newydd ar brosesau cyflym sydd i'w gweld ar yr Haul. Jeff Smith, 'Model amldonfedd i ddelweddu a dadansoddi meysydd magnetig yng nghorona'r Haul', Gwerddon, 18, Medi 2014, 23-40.
Cynhadledd Ryngwladol 2014
Yn y casgliad hwn ceir cyflwyniadau o Gynhadledd Ryngwladol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 1-3 Gorffennaf 2014. 'Pa le i'n hiaith mewn Addysg Uwch?' oedd thema'r gynhadledd ac mae'r cyflwyniadau'n ymwneud yn bennaf â pholisi iaith ac addysg yng Nghymru ac Ewrop.