Pwrpas yr erthygl hon yw darganfod pa fudd y mae canu mewn gr?p yn ei gael ar bobl sydd â dementia, yn benodol drwy edrych ar sesiynau Singing for the Brain (SftB) a gynhaliwyd yng ngogledd Cymru yn ystod 2012–13 gan y Gymdeithas Alzheimer. Cychwynnir drwy drafod ymchwil sydd eisoes wedi ei gwblhau ar ganu mewn gr?p ym maes cerddoriaeth a dementia, yn ogystal ag olrhain tarddiad y prosiect Singing for the Brain ar draws Prydain. Yna, adroddir ar y gwaith maes gan gyflwyno'r casgliadau, ac yna ymlaen i ymdrin â gwerthuso'r casgliadau. Nia Davies Williams, 'Canu i'r Cof: Effeithiau prosiect Singing for the Brain ar gof ac ansawdd bywyd pobl sydd â dementia yng ngogledd Cymru', Gwerddon, 23, Mawrth 2017, 36-57.
Nia Davies Williams, 'Canu i'r Cof: Effeithiau prosiect Singing for the Brain ar gof ac ansawdd bywyd pobl syd...
Robert Ieuan Palmer, Kathleen Withers, Amanda Willacott a Grace Carolan-Rees, Gwella gwasanaethau gofal iechyd...
Golyga pwysau ar Wasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) Cymru fod angen ffyrdd newydd o ddarparu safonau uchel o ofal gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael. Un dull yw gweithio’n agosach â chleifion, gan gasglu Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Gleifion (Patient Reported Outcome Measures (PROMs) a Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion (Patient Reported Experience Measures) (PREMs). Gobeithir y bydd casglu data o’r fath yn helpu wrth geisio darparu gofal iechyd darbodus. Rhy’r erthygl hon arolwg o ddatblygu’r system gasglu genedlaethol gyntaf yng Nghymru. Casglodd y system 66,000 PROMs a PREMs gan 25,000 claf dros dair blynedd, a dengys defnydd cynnar o’r data hyn y potensial i wella gwasanaethau. Y bwriad hir-dymor yw gwneud casglu data o’r fath yn rhan reolaidd o ofal iechyd eilaidd yng Nghymru.
Adroddiad Swan-Linx Cymru ar iechyd a lles plant ysgol
Dyma adroddiad sy'n deillio o waith Prifysgol Abertawe ar brosiect Swan-Linx, prosiect iechyd a ffitrwydd sydd â'r nod o ymchwilio i iechyd a lles plant ysgol ym mlynyddoedd 5 a 6 (9-11 oed). Mae'r adroddiad yn seiliedig ar ddata a gasglwyd drwy gyfrwng: Arolwg iechyd ar y we o'r enw CHAT (Child Health and Activity Tool) sy'n gofyn cwestiynau am ymddygiadau iechyd gwahanol gan gynnwys diet, gweithgaredd corfforol, cwsg a lles. Diwrnod Hwyl Ffitrwydd, lle cafodd BMI (Mynegai Màs y Corff), ffitrwydd aerobig, cyflymder, cryfder, ystwythder, p?er, a hyblygrwydd yn cael eu mesur. Ariannwyd y gwaith cyfrwng Cymraeg gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Academi Cynhadledd Achos
Mae'r clipiau yma yn olrhain hanes cynhadledd achos er mwyn gwarchod plant. Mae’r clipiau yn cynnig enghraifft i fyfyrwyr o’r modd y cynhelir Cynhadledd Achos. Yn yr achos hwn, trafodir dau blentyn ifanc o’r enw Siân a Dylan. Mae Siân yn bump oed, a Dylan yn fabi deunaw mis oed. Pwrpas cynnal y Gynhadledd Achos yw i benderfynu a ddylai’r plant barhau ar y gofrestr amddiffyn plant ai peidio. Mae'r fideo wedi ei rannu mewn i 8 rhan. Dychmygol yw’r cymeriadau yn yr adnodd hwn, ond mae’r math yma o sefyllfa yn gyffredin iawn o fewn cyd-destun y Gynhadledd Achos.
Gweithdy Doctoriaid Yfory 2020
Adnodd ar gyfer aelodau o gynllun Doctoriaid Yfory 3. Mae’n trafod awgrymiadau ar gyfer sicrhau profiad gwaith yn y maes iechyd a gofal. Mae hefyd yn trafod beth i'w gynnwys yn y datganiad personol. Cyflwyniad ydyw gan Sara Whittam o Brifysgol Caerdydd.
Cyrsiau Blasu Dysgu Cymraeg Ar-lein
Cyrsiau 10-awr ar-lein sy'n rhoi blas ar ddysgu Cymraeg i weithwyr o wahanol sectorau, gan gynnwys Iechyd, Gofal, y Gwasanaethau Cyhoeddus, Twristiaeth, Manwerthu a Thrafnidiaeth. Maen nhw’n cyflwyno geirfa ac ymadroddion pob dydd ac maen nhw ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim. Mae’n rhaid mewngofnodi neu greu cyfrif i ddechrau cwrs, proses hawdd iawn (dewiswch ‘arall’ yn y ddewislen, wrth i chi greu eich cyfrif). Datblygwyd y cyrsiau gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Prentis-iaith
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cyrsiau ar gael ar bedwar lefel: Ymwybyddiaeth, Dealltwriaeth, Hyder, Rhuglder ac mae cwis ar gael i ganfod pa lefel sy'n addas ar eich cyfer.
Ap Hanfodion Dysgu Dwyieithog
Mae’r ap hwn yn helpu athrawon i roi’r cyfle i bawb i ddefnyddio eu dewis iaith yn yr ystafell ddosbarth.
Ymwybyddiaeth Iaith mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Datblygwyd yr adnoddau ymwybyddiaeth iaith dwyieithog yma ar gyfer dysgwyr Addysg Bellach yn maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Nod y pecyn yw cynyddu dealltwriaeth dysgwyr sydd â gwahanol sgiliau iaith Gymraeg, o arwyddocad y Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Yn benodol, maent yn cefnogi addysgu Uned 1 y cymhwyster newydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2: Craidd: deilliannau dysgu 7 ac 8. Mae deilliant dysgu 7 yn gofyn i ddysgwyr ddeall pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Mae deilliant dysgu 8 yn gofyn i ddysgywr ddeall pwysigrwydd yr iaith a'r diwylliant Cymraeg i unigolion a gofalwyr. Mae’r cyrsiau hyn hefyd ar gael drwy byrth dysgu colegau Addysg Bellach.
Nyrsio: Pecynnau Dysgu Cyfrwng Cymraeg
Pecynnau dysgu i ddatblygu gwybodaeth myfyrwyr yw'r adnoddau hyn, yn seiliedig ar sefyllfaoedd realistig. Mae'r pecynnau'n cyfrannu at fodiwlau penodol yn ysgol Nyrsio, Prifysgol De Cymru, ond gallant hefyd gael eu defnyddio gan fyfyrwyr o brifysgolion eraill sy'n astudio ar unrhyw gangen Nyrsio trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallant hefyd fod yn adnoddau a fyddai o ddefnydd i'r sawl sy'n ymddiddori yn y maes. Mae pump pecyn dysgu wedi eu datblygu. Mae'r Rhith Rheolwr Poen yn efelychu peiriant PCA (peiriant sy'n galluogi claf i weinyddu analgesia i'w hun). Pwrpas yr adnodd rhyngweithiol yma yw dysgu myfyrwyr sut i ddefnyddio'r peiriant ac i ystyried y fath o ofal nyrsio y dylid darparu mewn lleoliad ysbyty. Gellir lawrlwytho pedwar pecyn dysgu ychwanegol yn yr adran 'Cyfryngau cysylltiedig' ar ôl dilyn y ddolen isod. Mae'r pecynnau Rheoli Meddyginiaethau a Gofal, Tosturi a Chyfathrebu yn cynorthwyo myfyrwyr nyrsio i ddeall elfennau a rheolau ynghlwm â rhannau yma o rôl y nyrs. Bwriad y pecynnau Rheoli Poen Aciwt ac Oriau Canolbwyntio yw cynnig dull arall o ddysgu i fyfyrwyr nyrsio ynglŷn â gofalu am glaf mewn poen a chlaf sy'n dioddef o ganser.
Ap Gofalu Trwy'r Gymraeg
Crewyd yr ap hwn ar gyfer Prifysgol Abertawe a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i helpu myfyrwyr i fagu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle neu wrth astudio. Mae'r eirfa wedi ei rhannu i 21 o adrannau gan gynnwys Ososteopathi, Bydwreigiaeth a Thechnoleg Glinigol. Gall defnyddwyr ddewis cuddio neu ddangos y Saesneg ar y tudalennau wrth i'w Cymraeg wella. Dyluniwyd, datblygwyd a recordiwyd sain yr ap gan Galactig. Y gyflwynwraig Nia Parry leisiodd yr ap.