Mae ymchwil ynghylch caffael cenedl ramadegol wedi dangos, mewn nifer o ieithoedd, fod plant yn cael meistrolaeth ar genedl yn gynnar. Yn aml, yn yr ieithoedd hyn, mae marcio cenedl yn eithaf amlwg ac mae'n cynnig cyfatebiaeth un-i-un glir rhwng marciwr a'r genedl a godiwyd. Yn y Gymraeg, fodd bynnag, mae marcio cenedl yn fwy cymhleth. Mae'n cael ei marcio drwy dreigladau, sef cyfres o newidiadau morffo- ffonolegol sy'n effeithio ar gytseiniaid cyntaf geiriau, ac mae'r mapio rhwng treiglad a chenedl yn eithaf anhryloyw. Defnyddir dau fath o dreiglad i farcio cenedl fenywaidd: mae enwau benywaidd yn cael eu newid gan y fannod benodol ac mae ansoddeiriau sy'n dilyn enwau benywaidd yn cael eu treiglo'n feddal, ac mae cenedl fenywaidd yr ansoddair meddiannol 'ei' yn cael ei marcio drwy dreiglo'r enw a newidir yn llaes. Mae'r papur hwn yn cyflwyno dwy astudiaeth sy'n archwilio meistrolaeth gynhyrchiol plant ac oedolion ar genedl fel y'i mynegir drwy dreiglo enwau a newidir gan y fannod benodol, ac ansoddeiriau yn newid enwau. Gwahoddwyd plant, rhwng 4½ a 9 oed, ac oedolion i gymryd rhan yn yr astudiaethau. Yn gyntaf, cynhaliwyd astudiaeth led-naturiolaidd i gael gwybodaeth am ddefnydd y siaradwyr o farcio cenedl. Yna, defnyddiwyd gweithdrefn Cloze i gymell y siaradwyr i greu ffurfiau gwrywaidd a benywaidd, gyda geiriau go iawn a ffurfiau disynnwyr, mewn amrywiaeth o gyd-destunau ieithyddol. Roedd rhai o'r cyd-destunau hyn yn rhoi awgrym o statws cenedl, ond nid oedd rhai eraill. Roedd y data a gafwyd yn dangos bod caffael y system genedl Gymraeg yn broses hirfaith, ac nad yw plant wedi meistroli'r system hyd yn oed erbyn 9 oed. Mae siaradwyr Cymraeg, hyd yn oed pan maent yn oedolion, yn rhoi ychydig o sylw, neu ddim, i'r awgrymiadau posibl sy'n bresennol yn y mewnbwn. Mae'r canlyniadau yn awgrymu, pan fo gan iaith system genedl gymhleth sydd wedi'i marcio gan brosesau morffo-ffonolegol anhryloyw, fod y cwrs datblygu yn faith ac yn amrywiol. Enlli Thomas, 'Natur prosesau caffael iaith gan blant: Marcio cenedl enwau yn y Gymraeg', Gwerddon, 1, Ebrill 2007, 53-81.
Enlli Thomas, 'Natur prosesau caffael iaith gan blant: Marcio cenedl enwau yn y Gymraeg' (2007)
Ffion Curtis et al., 'Iechyd a newidiadau ffordd o fyw sy'n gysylltiedig ag oedran mewn ardaloedd gwledig: y p...
Ystyrir y cynnydd yng nghanran y boblogaeth hŷn yn her fyd-eang yng nghyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol. Yn y Gymru gyfoes, mae'r anghydbwysedd cynyddol ym mhroffeil oedran y gymdeithas – mewn cymunedau gwledig yn arbennig – yn codi cwestiynau pwysig ynghylch darparu gofal iechyd addas i'r boblogaeth hÅ·n. Ceir galw cynyddol am y gofal hwnnw yn wyneb elfennau ffordd o fyw a gysylltir â henaint; lefelau isel o weithgaredd corfforol, llai o amlygiad i'r haul ynghyd â gallu'r corff i syntheseisio Fitamin D. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar ddau o'r problemau iechyd mwyaf sy'n ganlyniad i'r elfennau hyn, a bair ofid cynyddol yng Nghymru, sef clefyd siwgr (DM2: diabetes mellitus math 2) ac achosion o gwympo (cael codwm). Cyflwynir adolygiad beirniadol ar y dystiolaeth ddogfennol a gasglwyd ynghylch y berthynas rhwng lefelau gweithgaredd corfforol, Fitamin D a'r pathogenesis o DM2 ac achosion o gwympo. Eir ati hefyd i drafod natur ymyriadau cyfredol cyn cyflwyno cyfres o argymhellion ynglŷn â sut i ddarparu gwasanaethau gwell er mwyn mynd i'r afael â'r problemau hyn, yn bennaf yng Nghymru wledig. Gall targedu ffordd o fyw chwarae rhan bwysig yn y gwaith o leihau'r achosion o DM2 a chwympo; dau bryder cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru heddiw. Ffion Curtis, E. J. Oliver, A. W. Jones, S. Rice, a R. Thatcher, 'Iechyd a newidiadau ffordd o fyw sy'n gysylltiedig ag oedran mewn ardaloedd gwledig: y pwyslais ar bryderon cyfredol yng Nghymru', Gwerddon, 16, Hydref 2013, 28-39.
Gareth Clubb, 'Sbwriel ar heolydd bach Cymru: Astudiaeth achos Penisa'r Waun' (2012)
Casglwyd 701 o ddarnau o sbwriel fesul cilomedr o heol fach, wledig yng Ngwynedd. Lleiafswm cost 'gudd' flynyddol y sbwriel – sef y gost dybiedig o gasglu'r sbwriel na chesglir ar hyn o bryd – yw £11.81 y cilomedr. Amcangyfrif cost flynyddol sbwriel ar heolydd bach Cymru yw £230,000. Gellid cael gwared ar ganran helaeth o'r sbwriel dan sylw wrth gyflwyno system ernes i boteli a chaniau. Roedd 13 o gwmnïau unigol yn gyfrifol am gynhyrchu dros chwarter o'r sbwriel. Gallai Llywodraeth Cymru drefnu ad-daliad gan y cwmnïau hyn o £58,000 y flwyddyn er mwyn digolledu costau cudd y sbwriel sy'n gysylltiedig â nhw. Gareth Clubb, 'Sbwriel ar heolydd bach Cymru: Astudiaeth achos Penisa'r Waun', Gwerddon, 12, Rhagfyr 2012, 10-23.
Gareth Evans-Jones, ''Does dim gwadu ar Etifeddiaeth": Astudiaeth o'r modd yr ymdrinnir ag etifeddiaeth yn Ac ...
Un o brif themâu John Gwilym Jones yw’r modd y mae dyn ‘yn gaeth i’w gromosomau’ ar drugaredd ei etifeddeg a’i amgylchedd, ac yn yr erthygl hon, ystyrir y thema honno yn ei ddrama fawr Ac Eto Nid Myfi. Er mwyn ymdrin â’r llenor, yn hytrach na’r dramodydd yn unig, archwilir detholiad o’i straeon byrion yn ogystal. Trafodir pa mor ddylanwadol fu syniadau Darwin am etifeddeg ar y mudiad Naturiolaidd ac asesir y modd yr oedd John Gwilym Jones ei hun yn etifedd i’r syniadau Darwinaidd hynny.
Gareth Evans-Jones, 'Y Seren yn y Groes: effaith deddfau imperialaidd cynnar Rhufain ar y berthynas rhwng yr E...
Tymhestlog fu hanes perthynas yr Eglwys Gatholig Rufeinig a'r Iddewon, ac yn yr erthygl hon archwilir y modd yr effeithiodd deddfau imperialaidd cynnar Rhufain ar y berthynas honno. Gan gymryd detholiad o ddeddfau, ystyrir y modd y cawsant effaith ar safle cymdeithasol yr Iddew mewn byd a oedd yn troi'n fwyfwy Cristnogol. Eir ymlaen i drafod y modd yr ailgyflwynwyd ambell ddeddf wrth-Iddewig yn ystod yr Oesoedd Canol yn ogystal ag yn ystod y digwyddiad erchyll a oedd yn dyngedfennol i'r Iddew a'r Cristion, yr Holocost. Daw'r erthygl i ben gan bwyso a mesur gwir arwyddocâd y deddfau imperialaidd cynnar a chan gwestiynu perthynas yr Iddew â'r Cristion yn yr unfed ganrif ar hugain. Gareth Evans-Jones, 'Y Seren yn y Groes: effaith deddfau imperialaidd cynnar Rhufain ar y berthynas rhwng yr Eglwys a'r Iddewon', Gwerddon, 23, Mawrth 2017, 58-84.
Gareth Watkins, 'Gweithdrefnau cyfieithu'r Ganolfan Gyfieithu ar gyfer cyrff yr UE a'u perthnasedd i Gymru' (2...
Mae'r erthygl hon yn trafod y gweithdrefnau cyfieithu a'r dechnoleg a ddefnyddir yn y Ganolfan Gyfieithu ar gyfer cyrff yr Undeb Ewropeaidd (Centre de Traduction, CDT). Bydd perthnasedd y llif gwaith a'r dechnoleg yn cael ei drafod yn fyr yng nghyd-destun cyfieithu Saesneg-Cymraeg-Saesneg yng Nghymru, gan gyfeirio'n benodol at Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru. Gareth Watkins, 'Gweithdrefnau cyfieithu'r Ganolfan Gyfieithu ar gyfer cyrff yr UE a'u perthnasedd i Gymru', Gwerddon, 14, Ebrill 2013, 46-67.
Geraldine Lublin, 'Y Wladfa: Gwladychu heb drefedigaethu?' (2009)
Mae'r papur hwn yn cynnig dadansoddiad newydd o nifer o agweddau ar Y Wladfa ym Mhatagonia, drwy gyflwyno'r syniad o fod 'ar y trothwy' i'r drafodaeth, fel y'i dehonglwyd gan ddamcaniaeth ôl-wladychol. Ar ôl rhoi rhywfaint o gefndir hanesyddol y wladfa, sy'n rhoi ystyriaeth lawn i safbwynt yr Archentwyr, rydym yn mynd ati i archwilio nodwedd ddeuoliaeth amlwg yr arloeswyr o Gymru yn Chubut yn eu safle yn wladychwyr i bob pwrpas ac wedi'u gwladychu. Mae'r ymwybyddiaeth ddwbl y gellir ei holrhain yn ôl i ddechreuad y Fenter Fawr yn cael ei hastudio mewn cyd-destun cyffredinol a chan gyfeirio'n benodol at y berthynas gymhleth a ddatblygodd rhwng y mewnfudwyr o Gymru a phobl wreiddiol Patagonia. Geraldine Lublin, 'Y Wladfa: Gwladychu heb drefedigaethu?', Gwerddon, 4, Gorffennaf 2009, 8-23.
Gerwyn Wiliams, 'Cynan, Y Sefydliad a Chwyldro'r 1960au' (2014)
Cynan (Albert Evans-Jones, 1895-1970) oedd un o brif gynrychiolwyr Y Sefydliad yng Nghymru am ran helaeth o'r ugeinfed ganrif. Bu'n Archdderwydd ddwywaith a chwaraeodd ran ganolog ym mhenderfyniad dadleuol yr Orsedd i gymryd rhan yn seremoni Arwisgo'r Tywysog Siarl yng nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969. Ef hefyd oedd un o awduron Rheol Iaith yr Eisteddfod Genedlaethol, rheol y daliodd yn gryf o'i phlaid fel Llywydd Llys yr Eisteddfod tuag at ddiwedd ei oes. O gymharu, Dafydd Iwan oedd un o arweinwyr amlycaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mudiad a fabwysiadodd 'ddulliau chwyldro' yn ystod y 1960au. Yn yr erthygl hon, ystyrir y gwrthdaro rhwng Cynan a Dafydd Iwan a'r modd y cynrychiolai'r gwrthdaro hwnnw ymrafael ynghylch yr union ddiffiniad o Gymreictod ar y pryd. Gerwyn Wiliams, 'Cynan, Y Sefydliad a Chwyldro'r 1960au', Gwerddon, 17, Mawrth 2014, 12-22.
Gethin Matthews, 'Sŵn yr ymladd ar ein clyw': Cyflwyno'r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg' (2012)'
Y Rhyfel Mawr oedd un o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes Cymru gan fod goblygiadau'r Rhyfel wedi effeithio'n drwm ar gymdeithas a diwylliant y wlad am ddegawdau. Fodd bynnag, mae hanes y blynyddoedd o ymladd yn aml wedi cael ei gyflwyno i gynulleidfa Gymraeg mewn modd gor-syml, sy'n pwysleisio erchyllderau'r Rhyfel heb ystyried y cyd- destun. Mae'r astudiaeth hon yn olrhain yn fras sut mae'r ffordd yr edrychid ar y Rhyfel wedi datblygu ym Mhrydain dros y degawdau, cyn ystyried yn fanwl rhai o'r problemau â'r cyflwyniad o'r lladdfa a gafwyd mewn rhaglenni nodwedd Cymraeg. Gethin Matthews, ''Sŵn yr ymladd ar ein clyw”: Cyflwyno'r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 132-57.
Gwawr Ifan, 'Un Llef Pedwar Llais': Dylanwad canu corawl ar iechyd a lles yng Nghymru' (2012)'
Ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae canu corawl wedi chwarae rhan flaenllaw yn y diwylliant a'r gymdeithas Gymreig. Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, bu galw cynyddol i ystyried dylanwad lles a safon byw ar iechyd. Yn sgil hyn, mae llawer o ymchwil yn ystyried y celfyddydau cymunedol, a chanu corawl yn benodol, fel enghraifft o gyfalaf cymdeithasol, a'r modd y gall hyn ddylanwadu ar iechyd a lles personol a chymdeithasol. O ganlyniad i'r gydnabyddiaeth hon, canolbwyntia'r erthygl hon ar ymchwil i'r berthynas rhwng canu corawl – fel digwyddiad cerddorol a chymdeithasol – ac iechyd a lles cyffredinol ymhlith cantorion amatur yng Nghymru. Gwawr Ifan, ''Un Llef Pedwar Llais': Dylanwad canu corawl ar iechyd a lles yng Nghymru', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 15-39.
Gwennan Schiavone, 'Llais y genhades Gymreig, 1887-1930' (2007)
Mae'r erthygl hon yn archwilio goblygiadau diwylliannol enwogrwydd merched a enillwyd drwy gymryd rhan yng ngweithgarwch cenhadol trefedigaethol Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Cafodd merched eu gorchymyn i gyflawni swyddogaethau penodol yn y broses o greu cymunedau Cristnogol mewn trefedigaethau Prydeinig, gan gynnwys troi merched eraill a rhoi disgrifiadau ac esboniadau o'r genhadaeth i gynulleidfa gartref. Yn ogystal â darlithoedd a phregethau gan genhadon, ac arddangosfeydd cenhadol, y prif lwybr trosglwyddo ar gyfer y cyfathrebu hwn oedd y wasg genhadol enwadol. Mae'r erthygl hon yn archwilio sut yr oedd y cenhadon benywaidd yn eu cyflwyno eu hunain a'u gwaith i'r gynulleidfa gartref yn y wasg genhadol rhwng 1887 a 1930, ac yn awgrymu mai'r delweddau yr oeddent yn eu cyflwyno, a'r isleisiau y gellir eu cael yn eu hysgrifennu, oedd y brif ysbrydoliaeth i ferched Presbyteraidd Cymru gefnogi'r achos cenhadol, ac ymffurfio'n fudiad hynod a ddaeth yn sianel hollbwysig ar gyfer noddi gwaith cenhadol. Gwennan Schiavone, 'Y Genhades Gymreig, 1887-1930', Gwerddon, 1, Ebrill 2007, 27-42.
Gwyn Bellamy, 'Theori Cynrychioliad a Hynodion Cyniferydd Symplegol' (2019)
Mae rhan gyntaf yr erthygl hon yn gyflwyniad anffurfiol i theori cynrychioliadau (representation theory) y grŵp cymesur (symmetric group). Mae’r erthygl wedi ei hanelu at y mathemategydd cyffredin nad yw’n gwybod unrhyw beth am theori cynrychioliadau. Yn yr ail ran, rydym yn esbonio, yn fwy cyffredinol, sut y gellir defnyddio theori cynrychioliadau i astudio hynodion cyniferydd symplectig (symplectic quotient singularities). Yn wir, gallwn ddefnyddio theori cynrychioliadau i benderfynu pan fo’r gofodau hynod hyn yn derbyn cydraniad crepant (crepant resolution).