Mae'r sleidiau yma'n addas ar gyfer modiwl Rheolaeth Strategol, ar lefel 5/6. Maent yn cyflwyno'r prif offer ar gyfer dadansoddi sefydliadau yn fewnol ac yn allanol. Hefyd, maent yn cynnwys y prif themau sydd angen eu hystried er mwyn cynhyrchu opsiynau strategol addas i amrediad o sefydliadau. Datblygwyd y deunyddiau yma gan Sian Harris, darlithydd Rheolaeth a Busnes y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Blodeuwedd (1990)
Ffilm o'r ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis, wedi'i selio ar chwedl y Mabinogi am y ferch a wnaethpwyd allan o flodau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Pwy sy'n Gwisgo'r Trowsus? (2014)
Mae'r rhaglen hon yn edrych ar hanes pedair merch yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yng ngwesty'r Cambrian yn Aberystwyth mae Dafydd a Gareth Davies yn trafod eu modryb Jesse. Roedd Jesse yn nyrsio yn ystod y rhyfel ym Manceinion. Mae'r ddau wedi casglu lluniau ohoni ac wedi cadw ei llyfr lloffion. Mae'r hanesydd Catrin Stevens yn safle ffatri arfau Pen-bre gyda Beth Leyshon. Roedd perthynas i Beth - Olwen Leyshon - yn gweithio yn y ffatri. Mae Catrin yn trafod gwaith peryglus y munitionettes, ac angladd fawr dwy o'r merched yn Abertawe. Catrin hefyd sy'n holi Meic Haines o Abertawe am ei fam-gu, Edith. Hi oedd un o'r merched cyntaf i gael swydd clippie ar y bysiau yn Abertawe. Mae'r ddau yn cyfarfod yn amgueddfa fysiau Abertawe i drafod yr hanes. Yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth mae Dr Dinah Evans yn trafod Olwen Carey Evans gydag aelod o'r teulu - Manon. Roedd Olwen yn perthyn i'r VADs ac aeth i weithio yn Ffrainc. Yn y Llyfrgell mae lluniau a dyddiadur Olwen o'r cyfnod. Mae'r Dr Graham Jones yn rhoi hanes priodas Olwen yn ystod y rhyfel. Elen Phillips sydd yn sôn am hanes dillad cyn 1914, dyfodiad y trowsus a'r hyn ddigwyddodd i ffasiwn merched ar ddiwedd y rhyfel. Boom Cymru, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gwirionedd y Galon: Dr John Davies (2013)
Yn y rhaglen hon fe ddilynwn Dr John Davies, un o'n haneswyr pwysicaf, am chwe diwrnod. Down, trwy ei eiriau ei hun i ddeall mwy am agwedd y meddyliwr craff hwn am bethau Cymru a'r byd, yn ogystal â chael cip olwg ar wirioneddau ei galon. Telesgop, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Hughesofka a'r Rwsia Newydd (1991)
John Hughes aeth i'r Wcrain ganol y 19eg ganrif i gynhyrchu glo a haearn ar wahoddiad y tsar. Sefydlodd Gwmni'r Rwsia Newydd ac ymunodd llu o Gymry yn ei fenter. Y diweddar Athro Gwyn Alf Williams sy'n olrhain hanes y dyn, ei weithwyr, a'r dref a enwyd yn 'Hughesofka' [bellach Donestsk] tref Hughes, ar ei ôl. Teliesyn, 1991. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Beirdd Cymru: Y Stori (2013)
O Drefaldwyn i Fwdapest, mae'r bardd Twm Morys yn olrhain hanes cerdd y mae pob plentyn Hwngaraidd yn medru ei hadrodd ar gof; cerdd sy'n symbolaeth gref o ryddid i drigolion Hwngari - ond cerdd sydd â chysylltiad Cymreig. Twm Morys ei hun sydd wedi trosi'r gerdd i'r Gymraeg ac mae Karl Jenkins wedi gosod y gerdd i gerddoriaeth. Rondo, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cymuned gan Hywel Williams (2014)
Mewn rhaglen ddogfen onest, yr hanesydd Hywel Williams fydd yn herio'r syniad bod Cymru'n genedl 'gymunedol'. Aiff Hywel ati yn ei ffordd ddihafal ei hun i ddryllio'r ddelwedd yma o Gymru fel gwlad 'gymunedol': cymuned glos, saff a mewnblyg. Ond o ble daw'r syniad yma yn y lle cyntaf ac ai ystrydeb yw'r cyfan? Drwy ddefnydd crefftus o archif, sgript, cerddoriaeth a barddoniaeth, bydd Hywel yn cyflwyno dadl ddeallusol a gweledol fydd yn codi cwestiynau ac yn tanio trafodaeth. Awen.tv, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Pen Talar (2010)
Cyfres ddrama ddirdynnol, yn dilyn Defi a Doug o Dachwedd 1962 dros y degawdau hyd at 2010. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cymry Rhyfel Cartref America
Hanes Rhyfel Cartref America yng ngeiriau'r miloedd o Gymry a fu'n ymladd gyda byddinoedd yr Undeb yn erbyn y gwrthryfelwyr Cynghreiriol. Dyma'r tro cyntaf i lawer o'r deunydd – llythyrau a dyddiaduron y milwyr Cymreig – weld golau dydd. Mae'r gyfres yn ffrwyth pymtheng mlynedd o ymchwil gan y cyflwynydd, Dr. Jerry Hunter, ac yn cynnig golwg Gymreig unigryw ar y trobwynt mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Llais y Werin: T. E. Nicholas – Niclas y Glais (1989)
Carcharwyd T. E. Nicholas (1879-1971) oherwydd ei ddaliadau gwleidyddol. Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr cyn troi'n gomiwnydd o ddeintydd. Deil i greu cynnwrf yng Nghymru heddiw. Gwyn Alf Williams sy'n olhrain ei hanes. Teliesyn, 1989. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Prydeindod – J. R. Jones
Trafodaeth gan yr athronydd J. R. Jones am hunaniaeth y Cymry Cymraeg a'u perthynas â Phrydain a Phrydeindod.
Gerallt (2013)
Rhaglen ddogfen onest a threiddgar o'r Prifardd Gerallt Lloyd Owen sy'n codi'r llen ar gymeriad preifat ac enigmatig a ysgrifennodd rhai o gerddi enwocaf Cymru ac a fu'n Feuryn Talwrn y Beirdd am 30 mlynedd. Drwy gyfres o gyfweliadau estynedig, mynediad ecsgliwsif i'w gartref ynghyd â chyfweliadau gydag aelodau o'i deulu, mae'r ffilm-ddogfen hon yn cyflwyno ochr arall i'r persona cyhoeddus ac yn datgelu ei angerdd, ei ofnau a'i ellyllon. Gyda darlleniadau o rai o'i gerddi pwysicaf, mae'r rhaglen hon yn treiddio'n ddyfnach i'r themâu sydd wedi cydio ynddo gydol ei oes. Cwmni Da, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.