Sut siap sydd ar y Gymraeg ym Mhatagonia 125 mlynedd wedi i'r Mimosa glanio? Gwyn Llewelyn sy'n yn ymweld adeg eisteddfod y Wladfa yn Nhrelew. Uned Hel Straeon, 1991. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Evan Jones a'r Cherokee (2016)
Yr Athro Jerry Hunter sy’n cyflwyno hanes y Cymro fu’n byw hefo’r Cherokee am y rhanfwyaf o’i oes, nes cael ei dderbyn yn aelod llawn o’r genedl. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Gwyddonydd – cyfrol 33, 2013
Y Gwyddonydd, Cyfrol 33 – Rhifyn Hanner Canmlwyddiant, 1963-2013 Ymddangosodd Y Gwyddonydd, cyfnodolyn gwyddonol Cymraeg, am y tro cyntaf yn 1963, ac fe'i cyhoeddwyd yn gyson hyd at 1996. I ddathlu'r achlysur fe wnaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ariannu a chydlynu rhifyn dathlu arbennig, gan hefyd redeg cystadleuaeth gwyddonydd ifanc. Lansiwyd y rhifyn arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych, 2013.
Yn ôl i Barcelona (1989)
Hanner can mlynedd ers i Rhyfel Cartref Sbaen ddod i ben [1989] a gwasgarwyd y Frigad Rhyngwladol a fu'n ymladd achos y Weriniaeth ar draws y byd, daethant unwaith eto ynghyd yn Barcelona. Gwyn Alf Williams sy'n dilyn Tom Jones o'r Rhos yn ôl yna i gyfarfod unigryw gyda'r hen filwyr hyn. Teliesyn, 1989. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Hir Oes i'r Iaith – Robert Owen Jones
Mae iaith a chymdeithaseg yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd. Ni all iaith fodoli heb bobl i'w siarad ac ni all unrhyw gymuned weithredu'n ystyrlon heb iaith. Yn y gyfrol hon edrychir ar y berthynas rhwng y ddwy wedd holl bwysig ar fywyd dyn gan geisio darlunio'r effaith a gaiff cyfnewidiadau cymdeithasol ar barhad a ffyniant iaith. Edrychwn ar y Gymraeg dros bedair canrif ar ddeg gan geisio dangos sut y gall digwyddiadau unigol lunio tynged iaith, a sut y gall newid mewn ymagweddiad roi anadl einioes mewn sefyllfa a oedd yn bur anobeithiol. Y Gymraeg sydd dan y chwyddwydr, ond cymherir y sefyllfa yng Nghymru â'r hyn a geir mewn gwledydd eraill. Dadleuir mai'r rhan bwysicaf ym mhroses adfer iaith yw deall pa ffactorau sy'n achosi erydiad. Yna gellir gweithredu polisi iaith a ddylai ddwyn ffrwyth, gan sicrhau 'hir oes i'r iaith'.
Yn Eu Geiriau Eu Hunain (1995)
Hanner can mlynedd yn union i Awst 28 eleni (1995) fe ddaeth yr Ail Ryfel Byd yn y Dwyrain Pell i ben. Am bron i bedwar mis ar ôl i'r Almaen ildio i fyddinoedd Prydain, America a'r Undeb Sofietaidd, roedd lluoedd milwrol ymerawdwr Siapan yn parhau i frwydro. Yn y rhaglen arbennig yma fe gawn glywed hanesion rhai o'r milwyr a ddaeth yn ôl o'r ymladd. Agenda, 1995. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gwefan Lleoedd Cymru
Mae gwefan Lleoedd Cymru yn caniatau i chi chwilio a darganfod eitemau neu wybodaeth berthnasol o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ryngwyneb daearyddol.
Ar Doriad Gwawr (2005)
Rhaglen ddogfen bwerus sy'n coffau milwyr o Gymru a Chanada a gyhuddwyd o lwfrdra ac am encilio ac a'u saethwyd i farwolaeth ar doriad gwawr. Mae'r rhaglen yn cynnwys un o'r cyfweliadau olaf a phrin gyda Harry Patch, yr olaf o'r milwyr fu'n brwydro yn ffosydd y rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n adrodd rhai o'r atgofion erchyll o'r cyfnod. Boomerang, 2005. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Her yr Hinsawdd
Mae'r Athro Siwan Davies yn gadael ei labordy ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae hi'n ymchwilio i newid hinsawdd y gorffennol pell, ac yn teithio i'r Ynys Las ac i'r Maldives i weld beth sydd yn digwydd i'r hinsawdd bresennol. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Llofrudd Iaith – Gwyneth Lewis
Nofel dditectif ar ffurf barddoniaeth, sy'n gyfraniad gwreiddiol a beiddgar i'r ddadl am ddyfodol yr iaith. Enillodd y casgliad wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru yn y flwyddyn 2000. Os gall iaith farw, gall rhywun ei lladd. Pwy sy'n gyfrifol am y corff ar y grisiau a thranc ein mamiaith? Y bardd? Yr archifydd? Y ffermwr? Mae'r pentre'n llawn o sibrydion a chymhellion tywyll, ac mae bwystfil peryglus yn crwydro'r mynyddoedd. At bwy y bydd Carma, y Ditectif, yn pwyntio bys? Ydych chi'n siwr nad chi sydd ar fai?
Cymru 2000 Rhyfeloedd y Ganrif
"Yr Athro R Merfyn Jones sy’n cyflwyno. Dyma’r ganrif fwyaf gwaedlyd a rhyfelgar yn hanes dynoliaeth. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Pymtheg Olaf (2014)
Bydd cyn-flaenasgellwr Cymru a Llanelli, Dafydd Jones, yn mynd ar drywydd y Pymtheg Olaf mewn rhaglen arbennig fydd yn dilyn hanes tîm rygbi Cymru 1914. Roedd tîm rygbi rhyngwladol Cymru yn 1914 yn dîm hynod lwyddiannus ac yn cynnwys llawer o'r chwaraewyr a oedd wedi ennill tair Camp Lawn rhwng 1908 a 1911. Caent eu hadnabod fel carfan rymus tu hwnt yn gorfforol, llysenw eu blaenwyr oedd 'the terrible eight'. Roedd hyn mewn cyfnod ymhell cyn i'r gêm fynd yn broffesiynol, ac roedd sawl crefft gwaith yn y tîm, gyda'r gweinidog Jenkin Alban Davies o Aberaeron yn gapten ar y garfan. Ond yn ystod y Rhyfel Mawr a ddechreuodd yn 1914, ymrestrodd naw ohonynt yn y fyddin, chwe wythnos wedi eu gêm ryngwladol olaf yn erbyn Iwerddon. Tinopolis, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.