Mae'r cyn bêl-droediwr rhyngwladol, Owain Tudur Jones, ar daith i geisio dod i adnabod rhai o bêl-droedwyr rhyngwladol Cymru fu'n rhaid gadael y meysydd pêl-droed er mwyn wynebu brwydr lawer mwy ar faes y gad yn y Rhyfel Mawr. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Owain Tudur Jones Ar Faes y Gad
Cofio Tryweryn (1984)
Yn y rhaglen hon cawn atgofion rhai o hen deuluoedd a thrigolion Tryweryn am y gymdeithas cyn ei chwalu, hanes y cyfnod cyn gadael yr ardal am y tro olaf a'r tristwch a chwerwder o weld adfeilion y pentref. HTV Cymru, 1984. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Caradoc Evans: Ffrae My People (2015)
Yn 1915 cyhoeddwyd cyfrol o straeon byrion yng Nghymru greodd storm o atgasedd yn erbyn yr awdur a'i waith. Roedd byd tywyll Caradoc Evans yn 'My People' yn ddarlun hunllefus ac heriol o fywyd y capeli a'r gymdeithas Gymraeg wledig. Gorchmynodd Prif Gwnstabl Caerdydd i gopiau o'r llyfr gael eu llosgi'n gyhoeddus. Disgrifiodd y 'Western Mail' y straeon fel 'the literature of the sewer' gan ddweud mai Caradoc oedd '...the best-hated man in Wales'. Ni welwyd y fath gasineb ym myd y celfyddydau yng Nghymru - gynt nac wedyn. Ond erbyn heddiw prin ydy'r bobl sy'n cofio'r straeon na'u hawdur a gorddodd y dyfroedd yng Nghymru. Gan mlynedd yn ddiweddarach bydd Beti George yn mynd ar drywydd Caradoc Evans gan rannu blas o'i straeon gothic. Bydd yn olrhain ei ddylanwad pellgyrhaeddol ar ysgrifennu Saesneg yng Nghymru ac yn holi beth yn ei fagwraeth yn Rhydlewis, yn ne Ceredigion, a yrrodd Caradoc i greu byd sinistr 'My People'? Gorilla, 2015. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gŵyl MAP 2014 a 2015
Mae Gŵyl MAP yn cyfuno dosbarthiadau meistr gyda chyfle i ddangos a thrafod gwaith theatr o bob math. Trefnir yr ŵyl gan Brifysgol De Cymru o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ceir yn y casgliad yma gyfres o gyfweliadau gyda ymarferwyr theatr a fu'n arwain dosbarthiadau meistr yng Ngŵyl MAP 2014 a 2015. Cynhaliwyd Gŵyl MAP 2014 yn Aberystwyth a Gŵyl MAP 2015 yng Nghaerdydd.
Esboniadur Cerddoriaeth Cymru
Cofnodion yn ymwneud â cherddoriaeth Gymraeg a Chymreig. Mae'r cofnodion yn deillio o'r Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru (gol. Pwyll ap Siôn a Wyn Thomas), cyfeirlyfr awdurdodol sydd yn cwmpasu holl gyfoeth cerddoriaeth yng Nghymru o’r 6ed Ganrif hyd at y presennol. Ffrwyth prosiect cydweithredol rhwng Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw’r Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru. Cyhoeddir Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru ar ffurf llyfr clawr caled gan wasg Y Lolfa, Talybont gyda chefnogaeth a chymorth ariannol Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Tywyll Heno (1986)
Addasiad o un o glasuron Kate Roberts. Gyda Maureen Rhys a John Ogwen. Gwraig i weinidog yw Bet, gwraig gonest sydd ers blynyddoedd wedi anwybyddu'r rhagrith sydd o'i chwmpas. Yn y diwedd, mae ei ffydd Cristnogol yn pallu gan arwain at salwch meddwl. Ffilmiau Eryri, 1986. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Esboniadur Drama Radio
Gwybodaeth drylwyr am dair drama allweddol: Siwan gan Saunders Lewis Tair gan Meic Povey Tŷ ar y Tywod gan Gwenlyn Parry
Gadael Lenin (1993)
Ffilm gafodd ei ffilmio'n gyfan gwbl ar leoliad yn St Petersburg. Hon oedd y ffilm gyntaf o'r Gorllewin i gael ei ffilmio yn y Rwsia newydd wedi cwymp Comiwnyddiaeth. Mae'r ffilm yn dilyn hynt a helynt tri athro a chriw o ddisgyblion ar daith i ddarganfod trysorau celf St Petersburg. Fodd bynnag, cyn gynted ag y maent yn cyrraedd, mae rhywbeth annisgwyl yn digwydd gan wasgaru pawb i gyfeiriadau gwahanol a chreu dwy lefel ar gyfer dehongli'r ffilm. Gyda Sharon Morgan, Steffan Trefor, Wyn Bowen Harris, Ifan Huw Dafydd, Richard Harrington, Geraint Francis ac Ivan Schvedov. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Beirdd Cymru: Y Stori (2013)
O Drefaldwyn i Fwdapest, mae'r bardd Twm Morys yn olrhain hanes cerdd y mae pob plentyn Hwngaraidd yn medru ei hadrodd ar gof; cerdd sy'n symbolaeth gref o ryddid i drigolion Hwngari - ond cerdd sydd â chysylltiad Cymreig. Twm Morys ei hun sydd wedi trosi'r gerdd i'r Gymraeg ac mae Karl Jenkins wedi gosod y gerdd i gerddoriaeth. Rondo, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Frongoch: Man Geni'r IRA (2007)
Frongoch ger y Bala yng Ngogledd Cymru oedd y man lle carcharwyd 1,800 o wrthryfelwyr Gwyddelig ar ôl terfysgaeth Pasg 1916. Bathwyd y lle yn 'Brifysgol Gwrthryfel', ac yno casglwyd byddin gwrthryfel Iwerddon, yr IRA, at ei gilydd, ac yno cynlluniwyd ar gyfer y cyfnod gwaedlyd i ddod. Ai dyma gamgymeriad mwyaf Prydain? Cwmni Da, 2007. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Patagonia (2010)
Mae Patagonia yn adrodd stori dwy fenyw ar daith; un yn chwilio am ei gorffennol, a'r llall yn chwilio am ei dyfodol. Mae'r ffilm yn cael ei thorri rhwng y ddwy stori lle mae un yn teithio o'r de i'r gogledd yn ystod y gwanwyn yng Nghymru a'r llall trwy'r dwyrain i'r gorllewin yn ystod Hydref yn yr Ariannin. Malacara, 2010. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Patagonia: Dyddiadur Matthew Rhys – O'r Môr i'r Mynydd (2006)
Ffilm gan yr actor Matthew Rhys yn dilyn taith 500 milltir dros y paith ym Mhatagonia. Mae Matthew yn ail greu taith anturus un o'i arwyr, John Murray Thomas, yn 1885. Mae'r ffilm yn defnyddio dyddiadur fideo Mathew ac yn rhoi darlun unigryw o fywyd anturiaethwyr y paith. Roedd John Murray Thomas yn un o arweinwyr y Wladfa ac yn anturiaethwr, ffotograffydd a masnachwr llwyddiannus. Bydd ei or-?yr yn ymuno â'r criw sy'n ail-greu'r daith. A fydd Matthew Rhys yn llwyddo i ddilyn y llwybr yr holl ffordd? Boomerang, 2006. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.