Rhaglen deyrnged i'r awdur a'r bardd toreithiog a fu farw'n ddiweddar, gan gynnwys cyfweliad arbennig gyda T. Llew Jones o 2002. Myrddin ap Dafydd gafodd y fraint o'i holi mewn cyfweliad estynedig a oedd yn ymdrin a nifer o agweddau o'i fywyd a'i waith, ac mi fydd hefyd yn un o'r rhai a fydd yn dadansoddi cyfraniad T. Llew Jones i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif. Byddwn hefyd yn dysgu mwy am yr addasiadau ffilm a theledu o'i waith a'i ddylanwad ar blant Cymru heddiw. Cwmni Da, 2009. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Felin Bop [1945-1964] (1996)
Mae'r stori'n dechrau ym 1945 gyda chaneuon Jac a Wil, Bob Tai'r Felin a chyfansoddwyr fel Meredydd Evans ac Islwyn Ffowc Elis. Y rhain ac artistiaid a chyfansoddwyr tebyg a roddodd lais a bywyd newydd i 'hwyl' y Noson Lawen. Ceir cyfraniadau gan nifer o artistiaid a Shan Cothi sy'n adrodd y stori. Huw Brian Williams, 1996. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
3 Lle - Ifan Huw Dafydd (2010)
Yr actor Ifan Huw Dafydd, sydd yn ein tywys i dri lle sydd wedi bod yn bwysig yn ei fywyd. Y cyntaf yw bwthyn ei fam-gu a'i dad-cu, Tŷ Poeth ger Llandysul; yr ail le yw Clwyd Theatr Cymru a'r trydydd dewis yw ardal Coedwig Mametz yn Ffrainc, lleoliad brwydr fawr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Apollo, 2010. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tir Sir Gâr (2013)
Addasiad teledu o sgript y cynhyrchiad theatrig hynod o lwyddiannus Tir Sir Gâr. Pan mae ffermwr yn cwympo'n dost daw teulu at ei gilydd i drafod dyfodol y fferm. A fydd un o'r plant yn barod i gadw'r traddodiad teuluol yn fyw? Beth yw perthynas y genhedlaeth ifanc â'r tir? Beth sy'n cael ei golli wrth i bobl roi'r gorau i ffermio a gadael cefn gwlad? Mae'r ddrama gan Roger Williams (awdur Gwaith/Cartref) yn archwilio'r her sy'n wynebu ffermwyr a'r newidiadau cymdeithasol sy'n digwydd yng nghefn gwlad Cymru heddiw. Cast y cynhyrchiad theatr, gan gynnwys Rhian Morgan a Dewi Rhys Williams, sy'n ail-afael yn eu rhannau ar gyfer yr addasiad hwn. Joio, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gwaed Gwirion (2014)
Gwaed Gwirion gan Emyr Jones yw'r brif nofel yn y Gymraeg am y Rhyfel Byd Cyntaf. Ers ei chyhoeddi ym 1965, mae wedi ennill clod gan feirniaid a gwybodusion fel campwaith a chlasur a chafodd y gwaith ei gydnabod gan yr Academi Gymreig gan ennill gwobr Griffith John Williams am nofel Gymraeg deilyngaf y flwyddyn. Yn y rhaglen ddogfen hon, cawn hanes a chefndir y gyfrol a'i hawdur wrth i'r Athro Gerwyn Wiliams ein tywys ar daith gan ddilyn y cymeriadau trwy feysydd brwydro Fflandrys a Ffrainc. Bydd yn taflu goleuni newydd ar amgylchiadau creu'r gwaith ac yn datgelu gwybodaeth amdani a fydd yn creu cryn gynnwrf yn y byd llenyddol yng Nghymru. Ffranc, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dim ond Heddiw (1978)
Cyfres ddrama gan Meic Povey, wedi'i lleol yng nghanol bwrlwm prysur y brifddinas. Darlithydd parchus yw Gareth Samuel. Nid yw ei wraig mor barchus. Mae ei chysylltiadau ag isfyd y dociau ac un neu ddau o fyfyrwyr ei gŵr yn ei harwain i bob math o drybini... HTV Cymru Wales, 1978. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
#Fi: Jodie (2013)
Cyfres ddogfen i bobl ifanc. Mae bywyd Jodie Williams yn un prysur iawn. Nid yn unig mae hi'n ofalwr ifanc yn edrych ar ôl ei mam, ond mae hi hefyd yn gwneud tipyn o waith elusennol. Dilynwn Jodie ar adeg prysur yn ei bywyd wrth iddi drefnu digwyddiad elusennol yn yr ysgol a chael cyfle i fynd i premier ffilm go arbennig. Boom Cymru, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Byd ar Bedwar
Mae'r gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar wedi bod ar S4C ers dyddiau cynta'r sianel yn 1982, ac mae'n un o gonglfeini'r gwasanaeth. Mae'r rhaglen yn cynnig newyddiaduraeth ymchwiliadol o'r safon uchaf. HTV Cymru. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Rheolaeth Strategol
Mae'r sleidiau yma'n addas ar gyfer modiwl Rheolaeth Strategol, ar lefel 5/6. Maent yn cyflwyno'r prif offer ar gyfer dadansoddi sefydliadau yn fewnol ac yn allanol. Hefyd, maent yn cynnwys y prif themau sydd angen eu hystried er mwyn cynhyrchu opsiynau strategol addas i amrediad o sefydliadau. Datblygwyd y deunyddiau yma gan Sian Harris, darlithydd Rheolaeth a Busnes y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Dilyn Ddoe: Hynt Dau Gymro – Lloyd George a William Morris (1996)
Prin iawn yw'r Cymry sydd wedi eu hethol yn Brif Weinidogion. Mae'n siwr mai David Lloyd George yw'r unig un sy'n dod i feddwl llawer ohonom. Ond ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Cymro Cymraeg arall yn Brif Weinidog, a hynny'n bell o rif 10 Stryd Downing - ym mhen draw'r byd yn Awstralia. William Morris Hughes oedd ei enw a hanes y g?r hwnnw a'i berthynas â Lloyd George fydd dan sylw yn y rhaglen hon yng nghyfres Dilyn Ddoe. Elidir, 1996. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Plentyn Cyntaf (1990)
Ffilm yn creu darlun o'r dyfodol yw hon. Mae'r ffilm wedi'i lleoli ym mhencadlys cwmni cyffuriau mawr sydd hefyd yn glinig meddygol lle mae pobl yn cael eu defnyddio mewn arbrofion. Mae'r sefydliad mewn dyfroedd dyfnion ac mae Tomos Clay, myfyriwr sy'n gweithio yno fel swyddog diogelwch, yn meddwl am ffordd i'w achub. Ei syniad ef yw cynnal cystadleuaeth i weld pwy fydd baban cyntaf y mileniwm newydd, gan ddenu cyhoeddusrwydd gwerthfawr. Dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, a'r plant a anwyd fel rhan o'r gystadleuaeth bellach yn oedolion, mae yna ganlyniadau dramatig i weithredoedd Clay. Nid yw ysgwyd y gorffennol i ffwrdd mor syml ag a dybiodd. Ffilmiau Bryngwyn, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tipyn o Stad (2002)
Cyfres ddrama yn dilyn hynt a helynt trigolion stad Maes Menai. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.