Y gyntaf o ddwy gyfrol hunangofiant Huw T. Edwards, ffigwr blaenllaw yn hanes undebaeth a gwleidyddiaeth Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Yn y gyfrol hon ceir hanes gwreiddiau a magwraeth yr awdur yn ardal Penmaen-mawr, ei swyddi cynnar a'i gyfnod yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Clywn am y dylanwadau fu arno, ac am ddatblygiad ei yrfa fel undebwr a'i ymwneud â'r Blaid Lafur a bywyd cyhoeddus Cymru. Gweler yr ail gyfrol, Troi'r Drol,
Tros y Tresi – Huw T. Edwards
Dyddiadur Ellis: Y Claf Cyntaf (2014)
Hogyn ifanc o Drawsfynydd oedd Ellis Williams a ymatebodd fel llawer iawn o'i gyfoedion i'r alwad i fynd i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym mrwydr enwog Coed Mametz, dioddefodd anafiadau difrifol i'w wyneb. Treuliodd ddwy flynedd mewn ysbyty milwrol yn Ffrainc gan dderbyn llawdriniaethau arloesol lu mewn ymgais i ail-adeiladu ei wynepryd. Yn 1924, ysgrifennodd Ellis gofnod o'i brofiadau rhyfeddol, cofnod a fu o dan glawr tan nawr. Yn y rhaglen hon daw Huw Garmon â geiriau Ellis Williams yn fyw gan greu darlun gonest a theimladwy o fywyd milwr cyffredin o Gymro mewn rhyfel yn ei holl erchylltra. Ffranc, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
John Rhidian Thomas a Siân W. Griffiths, 'Anifeiliaid ymledol a'u heffeithiau ar ecosystemau d?r croyw Prydain...
Cyflwyno rhywogaethau anfrodorol yw un o'r bygythiadau mwyaf sylweddol a wyneba bioamrywiaeth byd eang. Ceir effaith sylweddol ar ecosystemau d?r croyw, oherwydd cyflwynir nifer fawr o rywogaethau i lynnoedd ac afonydd ar gyfer dyframaethu a physgota. Yn yr erthygl hon, disgrifir yr anifeiliaid d?r croyw anfrodorol hynny sy'n bresennol ac yn ymledu ym Mhrydain, neu sy'n debygol o ymsefydlu dros y blynyddoedd nesaf. Esbonnir sut effaith y caiff yr anifeiliaid hyn ar ecosystemau d?r croyw ac economi Prydain, gan hefyd amlygu'r problemau hynny sy'n dod i'r amlwg wrth geisio rheoli'r ymledwyr. Trafodir hefyd sut y bydd newid hinsawdd a bygythiadau eraill yn effeithio ar ddosbarthiad rhywogaethau ymledol yn y dyfodol. John Rhidian Thomas a Siân W. Griffiths, 'Anifeiliaid ymledol a'u heffeithiau ar ecosystemau d?r croyw Prydain', Gwerddon, 25, Hydref 2017, 7–29.
Y Traddodiad Cerddorol yng Nghymru – Ifor ap Gwilym
Hanes traddodiad cerddorol Cymru a geir yn y gyfrol hon. Rhennir y gyfrol yn bedair pennod; yn y gyntaf cawn drosolwg ar hanes y traddodiad cerddorol o'r cychwyn cyntaf hyd yr ugeinfed ganrif. Canolbwyntir ar delynorion a chrythorion yn yr ail bennod, gyda bywgraffiadau byr o offerynwyr oedd yn eu blodau rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg hyd yr ugeinfed ganrif, megis teulu'r Wood a Nansi Richards. Hanes bywydau cyfansoddwyr o Gymru a geir yn y drydedd bennod ac yna bywgraffiadau cantorion a wnaeth eu marc sydd yn y bedwaredd bennod.
Caradoc Evans: Ffrae My People (2015)
Yn 1915 cyhoeddwyd cyfrol o straeon byrion yng Nghymru greodd storm o atgasedd yn erbyn yr awdur a'i waith. Roedd byd tywyll Caradoc Evans yn 'My People' yn ddarlun hunllefus ac heriol o fywyd y capeli a'r gymdeithas Gymraeg wledig. Gorchmynodd Prif Gwnstabl Caerdydd i gopiau o'r llyfr gael eu llosgi'n gyhoeddus. Disgrifiodd y 'Western Mail' y straeon fel 'the literature of the sewer' gan ddweud mai Caradoc oedd '...the best-hated man in Wales'. Ni welwyd y fath gasineb ym myd y celfyddydau yng Nghymru - gynt nac wedyn. Ond erbyn heddiw prin ydy'r bobl sy'n cofio'r straeon na'u hawdur a gorddodd y dyfroedd yng Nghymru. Gan mlynedd yn ddiweddarach bydd Beti George yn mynd ar drywydd Caradoc Evans gan rannu blas o'i straeon gothic. Bydd yn olrhain ei ddylanwad pellgyrhaeddol ar ysgrifennu Saesneg yng Nghymru ac yn holi beth yn ei fagwraeth yn Rhydlewis, yn ne Ceredigion, a yrrodd Caradoc i greu byd sinistr 'My People'? Gorilla, 2015. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Stafell Ddirgel
Addasiad o nofel adnabyddus Marian Eames. Dyma stori rhai o gymeriadau enwocaf llenyddiaeth Cymru, megis Rowland Ellis, Sgweiar Brynmawr (Ryland Teifi), a’i wraig brydferth ond hunanol, Meg (Lowri Steffan), ac yn gefndir iddynt, cyfnod cythryblus y Crynwyr yn ardal Dolgellau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Troi'r Drol – Huw T. Edwards
Ail gyfrol hunangofiant Huw T. Edwards, ffigwr blaenllaw yn hanes undebaeth a gwleidyddiaeth Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Gweler y gyfrol gyntaf, Tros y Tresi,
Sylfeini'r Gyfraith Gyhoeddus – Keith Bush
E-lyfr cynhwysfawr yn egluro Cyfraith Gyhoeddus a Chyfraith Cyfansoddiadol Cymru a'r DU. Mae'r fersiwn diwygiedig hwn o'r gyfrol wreiddiol a gyhoeddwyd yn 2016, yn adlewyrchu'r newidiadau pwysig a ddaeth yn sgil Deddf Cymru 2017, yn ogystal ag effaith 'Brexit' ar ddeddfwriaeth ac ar ddatganoli. Adnodd angenrheidiol i fyfyrwyr y gyfraith yng Nghymru a chyfrol anhepgor i unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes. Cyhoeddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2021.
Gwyn Alf Hanesydd y Bobl
Rhaglen Ddogfen ar Gwyn Alf Williams. Yr Athro Gwyn Alf Williams, un o brif haneswyr Cymru. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Canrif y Werin: Y Rhyfel Mawr (1999)
Canol haf 1914 a phobl Cymru yn mwynhau ar draethau a blodyn y diniwed o hyd oedd y pabi coch. Ond erbyn Awst 1914 daeth tro ar fyd. Yr hyn oedd yn wynebu Cymru oedd rhyfel cyflawn, rhyfel fyddai'n mynnu cyfraniad gan pob aelod o'r cymdeithas. Yr oedd y Cymry fel gweddill pobl Ewrop ar y dibyn, yn wynebu cyflafan ar lefel hollol anhygoel. ITV Cymru, 1999. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gŵyl MAP 2014 a 2015
Mae Gŵyl MAP yn cyfuno dosbarthiadau meistr gyda chyfle i ddangos a thrafod gwaith theatr o bob math. Trefnir yr ŵyl gan Brifysgol De Cymru o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ceir yn y casgliad yma gyfres o gyfweliadau gyda ymarferwyr theatr a fu'n arwain dosbarthiadau meistr yng Ngŵyl MAP 2014 a 2015. Cynhaliwyd Gŵyl MAP 2014 yn Aberystwyth a Gŵyl MAP 2015 yng Nghaerdydd.
Lôn Goed (1996)
Drama sy'n ymdrin â chymhlethdodau perthyn trwy ddilyn hynt a helynt aelodau o ddau deulu sydd ynghlwm wrth ddarn o dir. Mae’r Lôn Goed yn rhedeg drwy’r tir, ac yma y daw rhai o’r prif gymeriadau i feddwl ac ystyried a gwneud penderfyniadau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.